Mae dynes o Gasnewydd yn galw am ganiatáu bwyd ar bresgripsiwn i blant ac oedolion sydd â sawl alergedd bwyd difrifol.
Gyda phrisiau uwch am fwyd heb wenith – soia a llefrith er enghraifft – ac effaith yr argyfwng costau byw ar y bwydydd hyn, mae rhieni bachgen tair oed yn cael trafferth ymdopi â chostau cynyddol prynu bwydydd sy’n addas ar gyfer ei alergeddau.
Mae gan Brayen 17 alergedd, sy’n cynnwys tri alergedd anaffylacsis – llefrith, banana a phinafal.
Mae ei holl alergeddau eraill, fel wyau, gwenith a soia, yn ddifrifol hefyd, ac yn achosi salwch difrifol os daw i gysylltiad o unrhyw fath â nhw.
Er mwyn mynd i’r afael â’r alergeddau, mae’n rhaid i’w deulu dalu mwy am fwydydd fel bara a phasta arbennig.
Ond yn sgil yr argyfwng costau byw, mae’r teulu yn cyrraedd y fan lle mae’n bosib y bydd rhaid iddyn nhw feddwl am ffyrdd eraill o wneud toriadau er mwyn parhau i brynu’r bwydydd sydd eu hangen ar Brayen.
Gwahaniaeth mewn costau yn ‘sylweddol’
Sefydlodd ei fam, Stacey Angel, ddeiseb ym mis Medi er mwyn ceisio newid y rheolau ar gyfer presgripsiynau bwyd, ac mae hi’n dweud mai dyma’u “dewis olaf” fel teulu.
Gall unrhyw un sydd â diagnosis o glefyd seliag gael gafael ar gynhyrchion prif gynnyrch heb glwten fel bara, blawd a phasta drwy bresgripsiwn, yn unol â chanllawiau rhagnodi cenedlaethol.
Ond dydy’r un cymorth ddim ar gael ar gyfer alergeddau nad ydyn nhw’n ymwneud â chlefyd awto-imiwn.
Mae Stacey Angel a’i phartner yn talu rhwng £2.20 a £3.50 ar gyfartaledd am dorth fechan, yn dibynnu ar eu hargaeledd mewn siopau.
Maen nhw’n talu rhwng £2 a £3 am fag pasta bach.
“Mae rhai o’r alergeddau yn rhan o’r bwydydd staple rydyn ni’n bwyta, felly mae’n rhaid i ni brynu bara, pasta a grawnfwydydd arbennig, i enwi dim ond rhai ar y rhestr,” meddai wrth golwg360.
“Mae’r gwahaniaeth mewn costau rhwng ein bwyd ni a’r bwyd rydym ni angen i Brayen yn sylweddol.
“Er bod gan Asda ddewis da, rydyn ni’n tueddu i ddod allan o’r siop wedi gwario rhwng £13 a £14 ar ddim ond un bag bach o fwyd.
“A gyda’r argyfwng costau bwyd ar hyn o bryd, mae o’n ein taro ni’n galed ac mae o’n anodd iawn.
“Os mae’r prisiau’n parhau i gynyddu, dydyn ni ddim am allu parhau i brynu popeth, a’r fan gyntaf er mwyn gwneud toriadau fydd deiet y gweddill ohonom, fel bod Brayen yn dal i gael be’ mae o ei angen.
“Ond dydy o ddim yn deimlad braf gorfod meddwl am ble i wneud toriadau.
“Efallai bydd rhaid i ni fwyta llai fel bod Brayen yn cael parhau i fwyta be’ mae o’n cael – ac yn mwynhau – bwyta.
“Dydy o ddim yn dewis peidio prynu’r pethau mae o angen iddo.
“Ac ochr yn ochr â chostau cynyddol, wrth i Brayen fynd yn hŷn bydd o hefyd angen mwy o fwyd.”
Mae’n rhaid i Brayen gymryd fitaminau er mwyn cael y maeth mae’n ei golli o beidio gallu bwyta bwydydd cyffredin, ond mae hyn yn dod ar gost hefyd, yn ôl ei fam.
“Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ei fod yn cael calsiwm hefyd felly rydyn ni’n gorfod prynu iogwrt arbennig ac mae paced o ddau yn £2.20,” meddai.
“Yn amlwg, rydyn ni’n trio rhoi iogwrt iddo bob dydd hefyd, er mwyn gwneud yn siŵr ei fod o’n cael digon o galsiwm.
“Roedden ni wedi cael gwybod y byddem yn gallu cael y fitaminau gan yr ymwelydd iechyd, ond dydy hi byth efo nhw.
“Felly rydyn ni’n talu amdanyn nhw.”
Costus mewn amser hefyd
Mae’r broblem yn fwy na’r gost ariannol yn unig, meddai Stacey Angel, gan fod rhaid iddyn nhw fynd i dair siop wahanol, o leiaf, bob wythnos er mwyn dod o hyd i’r bwydydd sydd eu hangen ar Brayen.
“Mae’n costio mewn amser hefyd, achos dydyn ni methu cael popeth o’r un siop,” meddai.
“Rydyn ni dal i orfod gwirio’r holl gynhwysion bob tro hefyd i fod yn ddiogel, oherwydd mae ryseitiau eitemau’n newid, felly mae’n rhaid gwirio bod y bwyd dal yn iawn i Brayen ei gael.
“Weithiau maen nhw’n ychwanegu ‘may contain nuts‘ neu ‘may contain milk’, sy’n golygu nad ydym yn gallu prynu’r eitemau yna, achos mae Brayen mor sensitif â hynny i bethau fel llefrith – mae ganddo alergedd airborne.
“Dydyn ni methu cymryd y siawns o drio’r eitemau yma.”
Dim cymorth ar gael
Ar hyn o bryd, dydy’r teulu ddim yn teimlo bod cymorth ar gael iddyn nhw gyda’r costau.
Maen nhw’n bwriadu gwneud popeth o fewn eu gallu i geisio cyrraedd 10,000 o lofnodion erbyn mis Mawrth 2024, felly, fel bod y mater yn cael ei drafod yn y Senedd.
“Dw i’n rhannu’r ddeiseb mewn grwpiau ar Facebook o hyd a dw i wedi gallu cael busnesau ac elusennau i rannu’r ddeiseb, ond am ryw reswm dydyn ni heb dderbyn y gefnogaeth yr oedden ni’n gobeithio’i ddenu,” meddai Stacey Angel.
“Os ydy o’n dod i’r pwynt yma, wna i fynd o ddrws i ddrws gydag iPad yn casglu llofnodion.
“Dw i eisiau gallu dweud fy mod i wedi rhoi fy oll i mewn i hyn.”