Bydd athrawon mewn ysgol yn Sir Fynwy yn streicio heddiw (dydd Mercher, Hydref 25) yn sgil pryderon am ymddygiad ymosodol gan ddisgyblion tuag at staff.
Mae aelodau o Undeb Addysg Genedlaethol (NEU) Cymru’n dweud nad ydy Ysgol Uwchradd Cil-y-coed wedi delio â’r mater mewn modd priodol.
Yn ôl yr undeb, mae trafodaethau rhyngddyn nhw, undeb NASUWT a’r ysgol wedi methu gwneud cynnydd wrth fynd i’r afael â’r ffordd mae’r ysgol yn ymdrin â’r ymddygiad gwael.
‘Teimlo’n ofnus ac anhapus’
Dydyn nhw heb fynd i’r afael â’r dulliau rheoli sy’n effeithio ar iechyd, diogelwch a llesiant staff a disgyblion chwaith, yn ôl yr undeb.
“Mae ein haelodau yn Ysgol Cil-y-coed yn teimlo nad oes ganddyn nhw ddewis ond streicio,” meddai Debbie Scott, Uwch Swyddog Cymru gyda NEU Cymru.
“Does neb yn dewis streicio ar chwarae bach, ond drwy ddewis streicio mae aelodau’n anfon neges glir i’r ysgol na wnân nhw ddioddef bygythiadau i’w hiechyd, diogelwch na llesiant nhw’u hunan na’u disgyblion.
“Mae’r cyflogwr yn methu â darparu cymorth addas i staff wrth ddelio ag ymddygiad disgyblion, ac felly maen nhw’n methu darparu amgylchedd waith ddiogel.
“Mae nifer o aelodau NEU Cymru wedi gorfod cymryd amser i ffwrdd, gan eu bod nhw dan bwysau yn sgil y problemau gydag ymddygiad, ac mae’r ysgol wedi gorfod cyflogi nifer o athrawon llanw sy’n costio arian allai fynd tuag at helpu addysg disgyblion.
“Mae ein haelodau’n gweithredu er lles disgyblion, ynghyd â’r staff, oherwydd bod nifer o ddisgyblion wedi dweud eu bod nhw’n teimlo’n ofnus ac yn anhapus yn yr ysgol yn sgil ymddygiad plant eraill.
“All athrawon ddim addysgu, ac all disgyblion ddim dysgu lle mae ymddygiad ymosodol a phlant yn amharu ar y dosbarth, a bydd ein haelodau’n parhau i weithredu nes bod y materion wedi cael eu datrys yn briodol.”