Mae Cyngor ABC – Armagh, Banbridge a Craigavon – yn Iwerddon wedi atal arwyddion stryd dwyieithog, yn groes i’w polisi eu hunain ac er bod y cais yn bodloni’r holl ofynion.

Dangosodd trigolion Woodside Hill fod cryn alw am arwyddion dwyieithog, gydag o leiaf 64 ohonyn nhw’n pleidleisio o blaid yr arwyddion a dim ond tri yn gwrthwynebu, ac fe wnaethon nhw ddilyn yr holl weithdrefnau priodol wrth gyflwyno’r cais fis Medi y llynedd.

O dan y polisi presennol, rhaid bod 33% o drigolion yn rhan o ddeiseb er mwyn iddi gael ei chymeradwyo.

Yn dilyn oedi o chwe mis, cynhaliodd y Cyngor arolwg ymhlith holl drigolion Woodside Hill ddiwedd mis Ionawr eleni ac er mwyn bod yn llwyddiannus, mae angen cefnogaeth gan 66% o drigolion y stryd dan sylw sydd ar y gofrestr etholiadol.

Os nad yw trigolion yn ymateb, maen nhw’n cael eu cofnodi fel gwrthwynebiadau – polisi sydd wedi’i feirniadu gan grwpiau iaith, sefydliadau hawliau dynol a phwyllgorau sy’n goruchwylio cytundebau rhyngwladol.

Dyma’r tro cyntaf i ddeiseb o’r fath fodloni’r holl ofynion, gyda dau gais blaenorol yn aflwyddiannus wrth geisio digon o gefnogaeth.

Er gwaethaf hyn, daeth i’r amlwg yng nghyfarfod y Cyngor llawn fod y pwyllgor cynllunio wedi gwrthod y cais, ac fe wnaeth y Cyngor llawn gymeradwyo’r penderfyniad.

‘Rhwystredig dros ben’

“Yn gyntaf, mae’r polisi hwn i’w weld wedi copïo hen Bolisi Cyngor Dinas Belfast, gafodd ei ddiystyru y llynedd ar draul polisi mwy blaengar sy’n cydymffurfio â hawliau lleiafrifol, sydd yn unol â chanllawiau arfer da Cyngor Ewrop a’r Cenhedloedd Unedig,” meddai Cuisle Nic Liam, Cydlynydd Hawliau Ieithyddol Conradh na Gaeilge.

“Rydym yn rhwystredig dros ben, nid yn unig gyda’r oedi sylweddol o ran y cais ei hun, ond hefyd gyda’r Cyngor yn gwrthod anrhydeddu eu polisi yn llwyr, yn ogystal â diystyru’r rhan fwyaf o drigolion bleidleisiodd o blaid y cais hwn.

“Yn yr achos hwn, rydym yn deall fod o leiaf 64 o drigolion wedi pleidleisio o blaid, a dim ond tri wedi pleidleisio yn ei erbyn mewn modd gweithredol.

“Er gwaetha’r trothwy uchel iawn o gefnogaeth gafodd eu gosod gan y Cyngor, sy’n ofynnol ar gyfer cymeradwyo arwyddion stryd Gwyddeleg, yn erbyn y ffactorau fe lwyddodd.”

Pwysigrwydd enwau llefydd

Yn ôl Cuisle Nic Liam, gall enwau llefydd ddangos cymaint am hanes a threftadaeth ardaloedd.

“Mae’r ffaith fod Cyngor Armagh, Banbridge a Craigavon wedi gwrthod y cais dilys hwn mewn modd gweithredol yn golygu, nid yn unig eu bod nhw wedi colli cyfle unigryw yma i gofleidio a dathlu’r iaith Wyddeleg, ond ar yr un pryd maen nhw wedi codi cwestiynau am eu bwriad o ufuddhau i’w polisi arwyddion stryd dwyieithog,” meddai.

“Mae’n taflu cysgod hir arall dros y pleidiau hynny sy’n gwrthwynebu hawliau ieithyddol dilys yn yr ardal hon, yn enwedig y DUP a’r UUP wnaeth atal a gwrthod y cais hwn.

“Byddwn ni nawr yn cefnogi trigolion i archwilio ceisio datrysiad trwy’r llysoedd.”

‘Trothwyon draconaidd’

Yn ôl Daniel Holder, Cyfarwyddwr y Pwyllgor Gweinyddu Cyfiawnder yn Belfast, roedd disgwyl symudiad o bolisïau ‘Saesneg-yn-unig’ sy’n cau’r iaith Wyddeleg allan o fywyd cyhoeddus i bolisi sy’n seiliedig ar amrywiaeth ieithyddol.

“Fe wnaethon nhw dderbyn ymrwymiadau penodol mewn cytundebau hawliau dynol i hyrwyddo’r iaith Wyddeleg, gan gynnwys y rheiny sy’n berthnasol i enwau llefydd ac arwyddion dwyieithog, ond mae eu cyflwyno’n parhau i gael ei rwystro,” meddai.

“Mae polisi Cyngor ABC eisoes yn cynnwys un o’r setiau mwyaf draconaidd o drothwyon diangen o uchel ar gyfer arwyddion dwyieithog, sy’n ddull sydd wedi cael ei wrthod gan gynghorau eraill.

“Ond hyd yn oed pan gaiff y trothwyon hyn eu bodloni, mae’n ymddangos nad yw’r Cyngor wedi dilyn eu polisi eu hunain.”