Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi mynegi pryderon am y pwysau sydd ar wasanaethau gwarchod plant, yn dilyn ymchwil gan BBC Cymru.
Yn ôl adroddiadau, fe fu cynnydd sylweddol yn y galw am y gwasanaethau dros y flwyddyn ddiwethaf yn enwedig.
Fe fu 250,000 o achosion o gysylltu ag adrannau gwasanaethau plant yn ystod 2022-23, sy’n gynnydd o 48,548 ers y llynedd.
‘Pryderus dros ben’
Dywed Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, fod y ffigurau’n “bryderus dros ben” ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd gweithwyr cymdeithasol yng Nghymru.
“Rhwyd diogelwch ydi gwasanaethau gwarchod plant, sydd yno i helpu’r plant mwyaf bregus yn ein cymdeithas,” meddai.
“Daw’r newyddion yma ar adeg pan ydan ni’n gweld niferoedd arwyddocaol o swyddi gwag mewn Gwasanaethau Gwarchod Plant, ac mae’n dilyn marwolaethau trasig plant sydd ynghlwm wrth Wasanaethau Gwarchod Plant.
“Dyna pam ei bod hi’n hanfodol ein bod ni’n sicrhau bod ein gwasanaethau gwarchod plant yng Nghymru’n cael cefnogaeth dda er mwyn sicrhau nad yw’r un plentyn yn cael ei adael ar ôl.”
Diffyg gofal plant cyfrwng Cymraeg
Yn y cyfamser, maen nhw hefyd yn poeni am ddiffyg gofal plant cyfrwng Cymraeg, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb.
Yr wythnos ddiwethaf, cyflwynodd y blaid gynllun i drawsnewid gofal plant a darpariaeth blynyddoedd cynnar ledled Cymru.
Dyma’r “cynnig gofal mwyaf hael ym Mhrydain”, yn ôl y blaid, sy’n dweud bod ymchwil yn dangos cwymp yn argaeledd gofal Cymraeg a dwyieithog.
“Mae ehangu’r darpariaeth gofal plant sydd ar gael yn y Gymraeg yn hanfodol er mwyn cyrraedd dyheadau Cymraeg 2050,” meddai Jane Dodds.
“Mae’r ystadegau’n glir ac yn gwbl annerbyniol.
“Yn genedlaethol, dim ond 15% o leoliadau sy’n darparu gofal cyfrwng Cymraeg a dim ond 10% sy’n cynnig gofal dwyieithog yn ôl ffigyrau 2022.
“Er bod strategaethau a pholisiau i’w canmol, mae’r sefyllfa ar lawr gwlad yn dra gwahanol.
“Mae gennym loteri ar gyfer mynediad at ofal cyfrwng Cymraeg ac does dim dewis gan rai rhieni ond defnyddio darpariaeth Saesneg, gan gyfyngu ar gyfleoedd eu plentyn yn ddifrifol.
“Mae angen i Lywodraeth Llafur Cymru fynd i’r afael â’r sefyllfa ar frys er mwyn sicrhau bod gan bob plentyn y cyfle i dderbyn gofal yn y blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg.”