Mae arweinwyr meddygfeydd teulu’n rhybuddio am ddyfodol y gwasanaeth yng Nghymru.

Dydy trafodaethau ynglŷn â chytundebau rhwng Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a Phwyllgor Meddygon Teulu BMA Cymru heb lwyddo i ddod i ddatrysiad.

Doedd y setliad ariannol oedd yn cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru ddim yn ddigon i fynd i’r afael ag effaith chwyddiant ar gostau meddygfeydd na chostau staffio, medd Dr Gareth Oelmann, cadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu.

Oni bai fod Llywodraeth Cymru’n gwneud cynnig newydd, dydy’r pwyllgor ddim yn disgwyl unrhyw drafodaethau pellach ar gytundeb eleni, meddai’r cadeirydd mewn llythyr at feddygon teulu ledled Cymru.

‘Dan fygythiad gwirioneddol’

Yn ei lythyr, dywed Dr Gareth Oelmann eu bod nhw wedi annog Llywodraeth Cymru i ailystyried, a’u bod nhw wedi dweud yn glir y bydd meddygfeydd a chleifion yn dioddef yn sgil y diffyg arian.

“Oni bai bod Llywodraeth Cymru’n gallu cynnig pecyn cymorth sy’n dechrau cefnogi meddygfeydd teulu a’u cleifion gyda’r lefel gywir o gefnogaeth yna mae gen i ofyn y bydd yr argyfwng meddygfeydd teulu’n gwaethygu yng Nghymru,” meddai.

“Mae pwysau anghynaladwy yn wynebu meddygon teulu ar hyd a lled y wlad.

“Rydyn ni wedi clywed gan feddygfeydd sydd wedi methu recriwtio staff parhaol am flynyddoedd, enghreifftiau o bobol yn llosgi allan i’r pwynt eu bod nhw’n cael eu derbyn i ysbytai, a chynnydd yn nifer y meddygfeydd sy’n gorfod cau eu drysau wrth iddyn nhw gael trafferth talu biliau a chyflogau, sy’n golygu fod miloedd o gleifion yn gorfod dod o hyd i feddygfa arall.”

Dros y degawd diwethaf, mae 84 o feddygfeydd wedi cau yng Nghymru, sy’n golygu bod 18% yn llai o feddygfeydd ar gael i gleifion a meddygfeydd yn cymryd 32% ychwanegol o gleifion.

“Nid oes gan feddygfeydd gyllid digonol i’r gweithlu, safleoedd na’r gwasanaethau gwrdd ag anghenion cynyddol cleifion,” meddai.

“Mae’n tanseilio diogelwch cleifion yn barod, ac rydyn ni’n dweud yn glir – heb fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, mae dyfodol y gwasanaeth dan fygythiad gwirioneddol o chwalu.”

‘Effaith domino’

Roedd adroddiad diweddar ‘Save our Surgeries’ gan BMA Cymru yn nodi bod 80% o feddygon teulu’n teimlo eu bod nhw methu darparu gofal diogel o ansawdd i’w cleifion yn sgil y llwyth gwaith, prinder staff a chynnydd yn y galw am eu gwasanaethau.

Mae Dr Kevin Thomas yn bartner ym meddygfa Pontcae ym Merthyr Tudful, ac wedi gweithio yno ers 30 mlynedd.

“Rydyn ni’n gweld lot o feddygfeydd mewn trafferthion, ac rydyn ni’n gweld meddygfeydd yn rhoi eu cytundebau yn ôl a chamu i ffwrdd oherwydd nad ydyn nhw’n gallu delio â’r pwysau,” meddai.

“Y broblem yw ein bod ni wedi gweld meddygfeydd lleol yn cau, mae’n cael effaith domino.

“Mae’n rhaid i’r cleifion hynny fynd i rywle i gael gofal, ac mae’r meddygfeydd yn yr ardal yn teimlo’r effaith.

“Y mwyaf sy’n cau, mae’r tonnau rydyn ni’n eu teimlo’n troi’n swnami, all fod yn ddinistriol iawn.

“Mae’r ystadegau diweddaraf ynglŷn â chyfran cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy’n mynd tuag at feddygfeydd teulu’n syfrdanol, o ystyried ein bod ni’n gweld 90% o’r cleifion yn y gwasanaeth ac yn cael 6.3% o’r arian. Fyddech chi ddim yn cynllunio fe felly.

“Mae disgwyl i ni weld 90% o’r cleifion gyda 6.3% o’r arian.”

‘Gwasanaeth llai dibynadwy’

Wrth ymateb, dywed Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, fod rhaid rhoi’r adnoddau llawn i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar unwaith.

“Mae nifer y meddygfeydd yng Nghymru wedi gostwng dros y degawd diwethaf dan y Llywodraeth Lafur er bod nifer y cleifion wedi cynyddu, gan arwain at lwyth o bwysau ychwanegol ar feddygfeydd teulu a gwasanaeth llai dibynadwy i gleifion Cymru,” meddai.

“Mae’r Gweinidog Llafur yma yng Nghymru wedi methu rhoi’r un cynnig i feddygon ag un Ceidwadwyr y Deyrnas Unedig, sydd o leiaf 20% y uwch ar gyfer y rhan fwyaf o staff iechyd.

“Dydy ei chwynion am ddiffyg cyllid ddim yn dal dŵr gan ein bod ni’n gwybod bod Cymru’n derbyn £1.20 am bob £1 sy’n cael ei wario ar iechyd yn Lloegr.”

‘Deall cryfder y teimladau’

Dywed Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, ei bod hi’n “deall cryfder teimladau ymhlith meddygon teulu am yr angen am gynnig cyflog sy’n adlewyrchu’r pwysau sydd arnynt ac effaith yr argyfwng costau byw”.

“Gwnaed ein cynnig, fel rhan o’r trafodaethau contract blynyddol sy’n cynnwys ymdrechion i foderneiddio gwasanaethau a dyna’r cyfan y gallwn ei fforddio o ganlyniad i gyllidebau tynn a achoswyd gan gamreoli economaidd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a lefelau uchel o chwyddiant.

“Heb gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, nid ydym mewn sefyllfa i gynyddu’r cynnig hwnnw ar hyn o bryd.

“Byddwn yn parhau i’w pwyso i drosglwyddo’r cyllid angenrheidiol ar gyfer codiadau cyflog llawn a theg i weithwyr y sector cyhoeddus.

“Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gydag undebau ac rydym ar gael ar gyfer trafodaethau pellach gyda Phwyllgor Meddygon Teulu Cymru ar unrhyw adeg.”