Elan Haf Henderson o Landwrog ger Caernarfon ydy enillydd cyntaf ysgoloriaeth i astudio milfeddygaeth drwy’r Gymraeg.

Caiff Ysgoloriaeth ‘Defi Fet’ y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ei rhoi i fyfyriwr sy’n astudio milfeddygaeth drwy’r Gymraeg yn Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth.

Cafodd Elan Haf Henderson ei magu yn y Dwyrain Canol, ar ôl i’w rheini symud o Landwrog i Abu Dhabi pan oedd hi’n chwech oed, a hynny yn sgil gwaith ei thad.

Dychwelodd i Gymru i wneud ei harholiadau TGAU a Safon Uwch, a dechreuodd astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth fis Medi.

‘Atgyfnerthu fy angerdd at y Gymraeg’

Dyma’r tro cyntaf iddi astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, a bydd hi’n gwneud dros hanner ei chyfnod o brofiad gwaith ar fferm a phrofiad clinigol drwy Gymraeg, yn ogystal â manteisio ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ystod dwy flynedd gyntaf y cwrs.

“Mae’n fraint cael fy newis fel enillydd cyntaf Ysgoloriaeth ‘Defi Fet’,” meddai Elan Haf Henderson.

“Rwy’n ddiolchgar iawn i deulu DGE Davies, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Aberystwyth am sefydlu’r ysgoloriaeth sy’n rhoi cyfle i mi hyfforddi yn y maes yn fy mamiaith.

“Rwyf wedi byw dramor am ran helaeth o fy mhlentyndod, sydd wedi atgyfnerthu fy angerdd tuag at Gymru a’r iaith Gymraeg.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio yn y gymuned fel milfeddyg trwy gyfrwng y Gymraeg yn y dyfodol.”

‘Darn hollbwysig i’r jig-so’

Cafodd yr ysgoloriaeth ei sefydlu ar y cyd rhwng y Coleg Cymraeg a Phrifysgol Aberystwyth, er cof am filfeddyg adnabyddus o ardal Llandysul, y diweddar DGE Davies, oedd yn cael ei adnabod fel Defi Fet yn lleol.

Derbyniodd y Coleg rodd gan ei ferch, Elaine Davies, i sefydlu’r cynllun.

“Rhan greiddiol o’n gweledigaeth ni ar gyfer Ysgol Gwyddor Filfeddygol cyntaf Cymru yma yn Aberystwyth yw Ysgol sy’n gwasanaethu anghenion Cymru,” meddai’r Athro Darrell Abernethy, Pennaeth Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth.

“Mae myfyrwyr fel Elan yn enghraifft arbennig o bwysigrwydd yr Ysgol yn hynny o beth.

“Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am eu cefnogaeth i’n darpariaeth Gymraeg.

“Mae amaeth a’r diwydiannau cysylltiedig yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru ac mae cyfrifoldeb arnom ni i ddarparu’r bobol a’r sgiliau a fydd yn cyfrannu at sicrhau eu bod yn llwyddo am flynyddoedd i ddod.

“Mae’r Ysgol yn ychwanegu darn newydd hollbwysig i’r jig-so, un sy’n adeiladu gwytnwch yn yr economi wledig drwy addysg ac ymchwil mewn cyfnod o newid a heriau mawr posibl.”

‘Pwysig meithrin graddedigion â sgiliau addas’

Bydd y rhodd gan Elaine Davies a’r teulu’n caniatáu iddyn nhw gefnogi myfyriwr bob blwyddyn am y bymtheg mlynedd nesaf.

“Gyda chanran uwch o weithwyr yn medru’r Gymraeg yn y sector amaethyddol nag yn unrhyw sector arall yng Nghymru, mae’n bwysig ein bod yn meithrin graddedigion sydd â’r sgiliau addas ar gyfer gofynion y byd ffermio,” ychwanega Dr Dylan Phillips, Uwch Reolwr Academaidd ac Ysgrifennydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.