Mae Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan, wedi cael ei gyhuddo o gamliwio ei ymweliad â’r gymuned Foslemaidd yng Nghymru.

Ddydd Sul (Hydref 22), ymwelodd yr arweinydd â Chanolfan Islamaidd De Cymru a chyhoeddodd e luniau ohono’n cwrdd â’r gymuned yng Nghaerdydd.

“Roeddwn i’n falch o glywed gan y gymuned Foslemaidd yng Nghanolfan Islamaidd De Cymru,” meddai mewn neges ar X.

“Fe wnes i ailadrodd ein galwadau ar i wystlon gael eu rhyddhau, mwy o gymorth dyngarol i gyrraedd Gaza, ar i ddŵr a phŵer gael ei ail danio, a ffocws o’r newydd ar ddatrys y sefyllfa.”

Daw hyn wedi iddo gael ei feirniadu am ei sylwadau blaenorol, ar ôl iddo awgrymu bod hawl gan Israel i dorri’r cyflenwad pŵer a dŵr.

Dywedodd ei fod wedi “gwneud yn glir” yn ystod yr ymweliad nad ei farn “nawr nac ar unrhyw adeg” yw y dylai Israel dorri cyflenwadau dŵr, bwyd, tanwydd neu feddyginiaeth.

“Mae’n rhaid dilyn cyfraith ryngwladol,” meddai.

“Camliwio’r” gymuned

Ers ei sylwadau gwreiddiol, mae Keir Starmer wedi gwadu ei fod yn cefnogi gweithredoedd Israel.

Fodd bynnag, yn eu neges ar X (Twitter gynt), roedd Canolfan Islamaidd De Cymru wedi ei gyhuddo o “gamliwio” eu cymuned a natur ei ymweliad.

“Rydyn ni’n cadarnhau’r angen am Balestina rydd,” meddai’r ganolfan mewn datganiad.

“Ein bwriad oedd codi pryderon y gymuned Fwslemaidd am ddioddefaint y Palesteiniaid, ac felly, fe wnaethom gynnal digwyddiad gyda chynrychiolwyr lleol yn y man cyntaf, ac fe gawsom wybod ar fyr rybudd y byddai Keir Starmer yn bresennol.

“Fe fuodd yna drafodaeth rymus a di flewyn ar dafod a oedd yn adlewyrchu teimladau cymunedau Mwslemaidd ar hyn o bryd.

“Fe heriodd aelodau’r gymuned Keir yn uniongyrchol yn sgil ei ddatganiadau ar hawl Llywodraeth Israel i atal bwyd, trydan a dŵr rhag cyrraedd Gaza, gan gyfeirio at droseddau rhyfel, a’i anallu e i alw am gadoediad ar unwaith.”

Ymddiheuro

Mae’r ganolfan wedi ymddiheuro am unrhyw ddryswch sydd wedi ei achosi gan yr ymweliad.

“Rydym yn cydnabod er mai ein bwriad oedd codi mater dioddefaint Palestiniaid, yn anffodus mae’r canlyniad wedi rhoi anfri ar Ganolfan Islamaidd De Cymru a’r gymuned Foslemaidd ehangach,” meddai ar X.

Bydd Keir Starmer yn cynnal cyfarfod gydag Aelodau Seneddol Llafur er mwyn cadarnhau safiad y blaid ar y gwrthdaro rhwng Israel a Gaza, ac mae disgwyl iddo gyfarfod ag Aelodau Seneddol ac arglwyddi Mwslemaidd gyda’i ddirprwy Angela Rayner heddiw (dydd Mercher, Hydref 25).