Mae trigolion Llanrug ger Caernarfon yn galw ar Gyngor Gwynedd i weithredu er mwyn atal llifogydd pellach mewn stâd yn y pentref fu’n dioddef ers degawdau.
Yn ôl Kayleigh Jones, sydd wedi byw ar stâd Glanffynnon er pan oedd hi’n blentyn, mae problem llifogydd yng ngwaelod y stâd yn ymestyn dros ddegawdau, gyda’r dŵr yn “cyrraedd y pengliniau’n hawdd”.
Dydy hi ddim yn teimlo bod y Cyngor wedi gwneud digon i fynd i’r afael â’r llifogydd nac i’w rhwystro yn y dyfodol.
Mae hi hefyd yn poeni am effaith bosib adeiladu dau dŷ ar dir mae hi’n credu sy’n achosi llifogydd yn ei gardd.
Llifogydd yn yr haf
Pan fydd cyfnodau o law trwm, mae’r dŵr yn casglu yng ngwaelod stâd Glanffynnon, lle mae Kayleigh Jones a’i theulu’n byw.
Fis Awst eleni fu’r llifogydd diweddaraf ar y stâd, ac mae hi bellach yn poeni am y gaeaf sydd i ddod.
“Rydan ni bron yng ngwaelod y stâd ar waelod yr allt, ond dw i’n gwybod fod y broblem yn cyrraedd y tai sydd ychydig yn uwch i fyny,” meddai wrth golwg360.
“Cyn heddiw, mae’r dŵr wedi dod reit i fyny ein drive at ein stepen ddrws, ond mae gennym ni stepen i fyny, diolch byth.
“Does yna ddim llawer o ddraen yng ngwaelod y stâd o gwbl, ac mae o’n blocio’n syth.
“Mae o’n digwydd efo unrhyw fath o downpour.
“Dydyn ni’n methu gwneud unrhyw beth i’w helpu o – rydan ni’n gorfod sefyll yna’n gwylio.
“Bob gaeaf, rydan ni’n dal ein gwynt, ond mae o’n gallu digwydd yn yr haf hefyd.
“Mae gennym ni flood plan ein hunain ar gyfer pan mae hyn yn digwydd, a dydy hynny ddim yn ffordd neis o fyw.
“Fysa hynny’n ocê os wyt ti’n byw wrth ochr llyn, ond dydyn ni ddim.”
Y Cyngor ddim yn “helpu fel maen nhw fod i wneud”
Dydy Kayleigh Jones ddim yn teimlo bod trigolion yn cael llawer o gymorth gan y Cyngor Sir i fynd i’r afael â’r llifogydd pan maen nhw’n digwydd.
“Rydan ni’n gorfod ffonio’r Cyngor sawl gwaith i ofyn am unrhyw fath o help, ac yn gorfod swnian iddyn nhw yrru gully suckers.
“Ro’n i’n gweld o’n dechrau digwydd ym mis Awst, felly wnes i ffonio’n syth a tra ro’n i ar y ffôn efo nhw, wnes i ddweud, “Mae hi’n dechrau codi rŵan”.
“Wnaethon nhw yrru gully sucker bryd hynny, ond maen nhw wastad yn gyrru rhai bach.
“Felly ddaeth o a wnaeth o ddim gwneud llawer o ddim byd cyn mynd i wagio a dod yn ôl.
“Roedd o ond yna am ryw bum munud eto cyn dweud bod rhaid mynd i’w wagio eto, a daeth o fyth yn ôl wedyn.
“Dydyn nhw ddim yn dod yma wedyn i lanhau’r lôn sy’n fwdlyd, na chwaith yn dadflocio’r draen ar ôl y llifogydd.
“Dydyn nhw heb helpu ni fel maen nhw i fod i wneud.”
Pryder am effaith gwaith adeiladu
Ers 2009, mae deg o dai wedi’u hadeiladu ar ddarn o dir wrth ymyl y lôn fawr sy’n rhedeg drwy’r pentref.
Y tu ôl i’r rhain mae cartref Kayleigh Jones a’r tai eraill sy’n cael eu heffeithio, ac mae hi’n teimlo bod y llifogydd yn waeth ers i’r tai hyn gael eu hadeiladu.
“Ers i’r tai newydd fynd i fyny lle’r oedd safle Hafod Garage, rydan ni wedi bod yn dweud bod y broblem wedi gwaethygu,” meddai.
“Ond dydyn nhw dal ddim yn gwneud dim byd.”
Mae pryder pellach gan fod cynlluniau i adeiladu dau dŷ ychwanegol ar ddarn o dir tu ôl i dai Kayleigh Jones a’i chymdogion.
Yn ogystal â llifogydd o flaen ei thŷ, mae ei gardd hefyd yn llenwi â dŵr o bryd i’w gilydd, ac mae hi’n credu mai’r tir hwn sy’n achosi’r broblem.
Mae hi’n cofio draeniau yng nghefnau’r tai yn dymchwel yn y 1990au.
Mi wnaeth ei mam a’r trigolion eraill hel pres at ei gilydd i drwsio’r draeniau, ond chafodd y draeniau ar y tir adeiladu mo’u cyffwrdd, meddai.
Felly mae hi’n cwestiynu a wnaeth draeniau’r tir yma ddymchwel hefyd, a bod y gwaith i’w trwsio heb ei wneud.
“Rydan ni’n bryderus am dai newydd yn mynd i fyny ac yn gwneud pethau’n waeth byth,” meddai.
“Dydyn ni ddim yn gwybod os ydy adeiladu’n mynd i wneud pethau’n well i ni neu’n mynd i waethygu pethau i ni, ond rydan ni’n gweld bod rhywbeth yn mynd i ddigwydd.
“Dydyn nhw [y Cyngor] heb fod yn glir ar hynny.
“Mae’r tir fel bog, ac mae’r dynion tân yn synnu faint o ddwfn ydy’r dŵr yn ein gardd ni pan maen nhw’n dod i helpu.
“Mae’r Cyngor yn dweud eu bod nhw am sortio’r draeniau pan mae’r tai newydd yn cael eu hadeiladu. Wel, pam?
“Pam ein rhoi ni yn y sefyllfa yna o orfod disgwyl i’r tai newydd yma gael eu hadeiladu?
“Dydi hynny ddim yn deg.”
Dim “datrysiad syml”
“Fel Cyngor, rydym yn deall rhwystredigaeth trigolion Glanffynnon ynghylch y dŵr sy’n cronni yng ngwaelod y stâd yn ystod cyfnodau o dywydd gwlyb eithafol,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd.
“Rydym wedi ymgymryd â gwaith ymchwil helaeth i’r sefyllfa, ac er nad oes yna ddatrysiad syml, rydym yn edrych ar wahanol opsiynau posib i geisio mynd i’r afael â’r broblem.
“Byddwn yn parhau i ymateb i unrhyw broblemau dŵr sydd yn codi yng Nglanffynnon.”