Mae tribiwnlys wedi cadarnhau bod Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi torri Safonau’r Gymraeg wrth ymgynghori ar ad-drefnu tair ysgol.
Roedd Comisiynydd y Gymraeg wedi dyfarnu eu bod nhw, mewn dogfen ymgynghori, yn torri’r Safonau wrth fethu ystyried effaith penderfyniad i agor un ysgol fawr ym Mhontardawe a chau tair ysgol gynradd ar y Gymraeg.
Dylen nhw fod wedi ystyried yr effaith ar y Gymraeg yn gymunedol, medd Tribiwnlys y Gymraeg, gan gytuno â’r dyfarniad a dweud nad oedd asesu’r effaith ar yr ysgolion fyddai’n cael eu had-drefnu’n unig yn ddigon.
Bu’r cynllun yn destun adolygiad barnwrol ar ôl iddo gael ei gymeradwyo yn wreiddiol gan y Cyngor Sir, yn dilyn cwynion y byddai cau’r ysgolion cynradd wedi tynnu plant o ysgol gyfrwng Cymraeg i’r ysgol newydd.
‘Cynsail pwysig’
Wrth groesawu’r penderfyniad, dywed Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, ei bod hi’n disgwyl gweld ystyriaeth gydwybodol i unrhyw benderfyniadau ac y dylai sefydliadau’n ystyried effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol eu polisïau ar y Gymraeg.
“Mae hyn yn cadarnhau fy safbwynt fod yn rhaid i sefydliadau wneud mwy er mwyn cydymffurfio â safonau’r Gymraeg pan maent yn ymgynghori ar eu cynigion polisi,” meddai.
“Mae’r Tribiwnlys wedi dyfarnu yn unol â’r hyn wnes i fel Comisiynydd ei ddyfarnu yn wreiddiol.
“Mae’r achos hwn yn gosod cynsail pwysig a bydd gofyn i sefydliadau ystyried y dyfarniad yn ofalus.”
‘Ystyried effeithiau anuniongyrchol’
Fe wnaeth y penderfyniad gan y tribiwnlys amlygu’r ffaith fod yn rhaid i sefydliadau gynnwys digon o wybodaeth mewn dogfennau ymgynghori am effeithiau posib ar y Gymraeg, a gwneud ymdrech i adnabod ffactorau fyddai’n effeithio ar y Gymraeg.
Dywed fod yn rhaid i sefydliadau ystyried yr effeithiau anuniongyrchol, ynghyd â’r rhai uniongyrchol hefyd.
“Rwyf wedi derbyn nifer o gwynion am ddogfennau ymgynghori, yn enwedig rhai am ad-drefnu addysg ac nid hwn yw’r unig achos yn ymwneud ag asesu effaith ar y Gymraeg i gyrraedd y Tribiwnlys,” meddai.
“Un o’n nodau cyson yw cynyddu cyfleoedd pobol i ddefnyddio’r Gymraeg ac mae angen sicrhau fod cyrff cyhoeddus yn ystyried yr effaith ieithyddol yn llawn ar gymunedau wrth ddatblygu a gweithredu cynlluniau.
“Mae cyfrifoldeb am les y Gymraeg yn perthyn i fwy nag un corff ac mae dyletswydd ar ein cyrff cyhoeddus i gynnig gwasanaethau cyflawn drwy’r Gymraeg ac i ystyried y Gymraeg ymhob maes polisi.”
‘Parchu a deall’
Wrth ymateb, dywed llefarydd ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot eu bod nhw’n parchu ac yn deall dyfarniad y tribiwnlys.
“Sail y cyngor wrth gyfeirio’r mater hwn i’r tribiwnlys oedd dod â mwy o sicrwydd cyfreithiol ac eglurder i’r dehongliad o Safonau’r Gymraeg yn y mater hwn ac ar gyfer unrhyw ymgynghoriadau, ym mhob maes, y mae’r cyngor yn eu cynnal yn y dyfodol,” meddai.
“Bydd y cyngor yn gweithio ar weithredu canfyddiadau’r tribiwnlys ac edrychwn ymlaen at weithio gyda swyddfa Comisiynydd y Gymraeg i helpu i lunio canllawiau yn y dyfodol ar gyfer y cyngor hwn a chynghorau eraill yng Nghymru.”