Mae’n hanfodol bod y Swyddfa Gartref yn atebol am eu diffyg cynllunio strategol ar gyfer darparu llety ceiswyr lloches – dyna ymateb Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn dilyn y tro pedol i gartrefu ceiswyr lloches mewn gwesty yn Llanelli.

Y bwriad gwreiddiol oedd cartrefu 241 o geiswyr lloches yng Ngwesty Parc y Strade, ond roedd gweinidogion Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin wedi gwrthwynebu’r cynlluniau dadleuol.

Cafodd Cyngor Sir Caerfyrddin, Heddlu Dyfed-Powys a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu gadarnhad ysgrifenedig heddiw (dydd Mawrth, Hydref 10) gan y Swyddfa Gartref, yn dweud na fyddan nhw’n bwrw ymlaen â’r cynlluniau a hynny oherwydd “nifer o heriau ymarferol a logistaidd”.

Yr wythnos ddiwethaf, daeth swyddogion tân i’r casgliad nad yw’r gwesty’n ddiogel i bobol aros yno, a chafodd deuddeg o bobol eu harestio ar safle’r gwesty yn dilyn tân yno.

‘Dal y Swyddfa Gartref yn atebol’

Er ei fod yn croesawu’r penderfyniad i atal y cynlluniau, dywed Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys, ei bod yn “hollbwysig bod y Swyddfa Gartref nawr yn cael ei dal yn atebol am eu prosesau o wneud penderfyniadau a’u diffyg cynllunio strategol; pwy wnaeth y penderfyniad yn y lle cyntaf, ble roedd yr achos busnes a’r diwydrwydd dyladwy o’i amgylch wrth sicrhau bod y penderfyniad yn ymarferol ac yn realistig?”

Ychwanega fod tensiynau o amgylch y safle wedi bod yn cynyddu yn ystod yr wythnosau diwethaf, gan olygu bod swyddogion rheng flaen a staff wedi gorfod gweithio’n barhaus mewn “amgylchiadau heriol” sydd ar brydiau wedi peryglu eu perthynas gyda chymunedau.

‘Costau sylweddol’

“Mae’r sefyllfa wedi bod yn anghynaladwy ar adegau, ac mae’r costau sy’n gysylltiedig â phlismona’r safle hwn yn sylweddol ac wedi bod yn codi’n barhaus dros yr wythnosau diwethaf,” meddai Dafydd Llywelyn.

“Yn ogystal â hynny, costau a dynnwyd gan ddarparwyr gwasanaeth eraill megis y Gwasanaeth Tân a’r Awdurdod Lleol, ac yr un mor bwysig, faint y mae’r Swyddfa Gartref eu hunain wedi’i wario ar y safle dros y misoedd diwethaf?

“Mae angen gofyn cwestiynau, ac mae angen atebion ar ein trethdalwyr.

“Rhaid i’r Swyddfa Gartref roi esboniad clir am eu diffyg rhagwelediad a’r pwysau sylweddol y maen nhw wedi’i roi ar ddarparwyr gwasanaethau lleol yn Sir Gaerfyrddin a thu hwnt.

“Dyma’r eildro mewn ychydig o flynyddoedd yn unig i gymunedau lleol a darparwyr gwasanaethau yn Nyfed-Powys gael eu rhoi dan bwysau diangen oherwydd diffyg cynllunio strategol ac ymgysylltu lleol gan y Swyddfa Gartref.

“Mae’n amlwg i mi nad oes unrhyw wersi wedi’u dysgu o brofiadau’r gorffennol, ac unwaith eto rydym wedi cael ein gadael i godi’r darnau ar lefel leol.”

‘Gwrthdaro’

Dywed Dafydd Llywelyn ei fod yn cefnogi strategaeth Llywodraeth Cymru, sef cartrefu pobol mewn model gwasgaredig.

“Mae hyn yn gynaliadwy wrth gynnig ateb tymor hwy i geiswyr lloches yn ardal Dyfed-Powys. Mae’n fodel y mae pobl Cymru yn ei gefnogi, wedi’i gofleidio ac wedi’i gyflwyno’n llwyddiannus i ailsefydlu ceiswyr lloches Syria, Afghanistan, Wcráin a chyffredinol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

“Mae’r penderfyniadau a wneir gan y Swyddfa Gartref yn gwrthdaro’n uniongyrchol â hyn.”

‘Penderfyniad cywir’

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn dweud eu bod nhw’n falch o benderfyniad y Swyddfa Gartref, gan ychwanegu eu bod nhw wedi ysgrifennu at weinidogion y Swyddfa Gartref ac uwch-weision sifil yr wythnos ddiwethaf, yn sôn am eu pryderon am densiwn cynyddol yn y gymuned yn sgil y cynlluniau.

“Dyma’r penderfyniad cywir i’r gwesty ac, yn bwysicach na hynny, y penderfyniad cywir i bobol Ffwrnes,” meddai Darren Price, arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin.

“Nawr yw’r amser i gymuned Llanelli ddod at ei gilydd, yn dilyn profiadau’r misoedd diwethaf.”