Mae barcud coch y cafwyd hyd iddo wedi’i anafu yn Sir Gaerfyrddin wedi’i gofnodi fel y barcud coch hynaf i oroesi yn y gwyllt.

Roedd yr aderyn ysglyfaethus prin wedi cael ei fodrwyo pan oedd yn gyw bach ac oherwydd hynny roedd modd darganfod ei fod yn 9,518 diwrnod oed – neu’n 26 oed.

Cafodd y barcud coch ei weld yn Llanybydder nôl ym mis Gorffennaf – ac fe gysylltodd y person â’r RSPCA ar ôl sylwi bod yr aderyn wedi cwympo ac nad oedd yn gallu hedfan.

Roedd Ellie West, swyddog bywyd gwyllt yr RSPCA, wedi asesu’r aderyn oedd yn cael ei fonitro gan y person oedd wedi’i ddarganfod nes iddo gael ei gasglu.

‘Mor brydferth’

“Roedd hwn yn aderyn mor brydferth – a ro’n i’n gallu gweld ei fod yn oedolyn ac o oedran da,” meddai Ellie West.

“Doedd dim symptomau ffliw adar ond roeddwn i’n bryderus ar unwaith am ei gyflwr am fod ei gorff yn denau a’i blu mewn cyflwr gwael.

“Yn anffodus oherwydd cyflwr gwael y barcud roedd yn golygu nad oedd modd helpu’r aderyn a chafodd ei ddifa i atal dioddefaint pellach.

“Doedd yr aderyn ddim yn gallu ymestyn ei adenydd yn llawn ac roedd pryderon eraill hefyd a oedd yn golygu, yn anffodus, nad oedd ei adsefydlu yn opsiwn.”

Roedd hi wedi cysylltu â’r Ymddiriedolaeth Adareg Brydeinig (BTO) gyda manylion y fodrwy ar y barcud coch.

Fe gadarnhaodd yr ymddiriedolaeth ddiwedd mis Medi fod yr aderyn wedi’i fodrwyo fel cyw bach ar Fehefin 20, 1997 a’i fod wedi goroesi 9,518 o ddiwrnodau. Mae’r ymddiriedolaeth bellach wedi cadarnhau mai’r barcud coch yw’r hynaf maen nhw’n gwybod amdano.

Y fodrwy ar goes y barcud coch

“Allwn i ddim credu’r peth fod yr aderyn hwn yn 26 oed – a’i fod wedi’i ddarganfod yn yr un ardal fwy neu lai lle cafodd ei fodrwyo’r holl flynyddoedd yn ôl,” meddai Ellie West.

“Mae’n drist iawn na wnaeth yr aderyn oroesi ond o leiaf wnaeth e ddim dioddef marwolaeth hir. Rwy’n siŵr eu bod wedi cael bywyd llawn a byddai’n hyfryd meddwl efallai ei fod wedi magu sawl cyw dros y blynyddoedd yn yr ardal hefyd.”

‘Gwell dealltwriaeth o boblogaethau adar’

Wrth gadarnhau oedran sylweddol y barcud coch, dywed Lee Barber, Trefnydd Arolygon Demograffig BTO mai’r “barcud coch hwn sydd â’r record fel y barcud coch gwyllt hynaf yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon”.

“Yn rhyfeddol, dyma’r adroddiad cyntaf a’r unig adroddiad o’r aderyn hwn mewn 26 mlynedd a 22 diwrnod ers iddo gael ei fodrwyo ’nôl yn 1997,” meddai.

“Mae’n wych pan mae pobol yn cymryd yr amser i adrodd am adar sydd wedi’u modrwyo, gan ei fod yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o boblogaethau adar ledled y Deyrnas Unedig. Pe na bai’r aderyn hwn wedi bod yn gwisgo modrwy ni fyddai gennym unrhyw arwydd o gwbl mai dyma’r rhywogaeth hynaf i ni wybod amdani.

“Gall unrhyw un helpu i fonitro unrhyw aderyn y maen nhw’n ei ddarganfod yn gwisgo modrwy, nid barcudiaid coch yn unig, trwy roi gwybod i www.ring.ac ac yna bydd fy nghydweithwyr yn BTO yn dod yn ôl atyn nhw gyda hanes bywyd yr aderyn maen nhw wedi dod o hyd iddo.”

Mae’r RSPCA yn cynghori pobol i beidio trin adar oherwydd ffliw’r adar, felly peidiwch â cheisio darllen rhif y fodrwy oni bai eich bod yn gallu gwneud hynny heb gyffwrdd â’r aderyn.