Ymateb cymysg sydd wedi bod i araith Syr Keir Starmer yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl heddiw (dydd Mawrth, Hydref 10).
Defnyddiodd arweinydd y Blaid Lafur ei araith er mwyn addo “degawd o adferiad cenedlaethol”, gan awgrymu bod Llafur yn anelu am ddau dymor mewn grym.
“Gellir trwsio’r hyn sydd wedi torri, gellir ailadeiladu’r hyn sydd wedi cael ei ddifetha,” meddai yn y gynhadledd.
Dechrau annisgwyl i’r araith
Funudau yn unig ar ôl iddo gamu i’r llwyfan, roedd protestiwr wedi tarfu ar ei araith drwy daflu gliter ar Keir Starmer.
Cafodd y dyn sydd, yn ôl pob tebyg, yn aelod o’r grŵp People Demand Democracy, ei dynnu oddi ar y llwyfan gan swyddogion diogelwch, wedi iddo weiddi bod angen “gwir ddemocratiaeth wedi’i arwain gan ddinasyddion”.
Fe wnaeth Keir Starmer wfftio’r digwyddiad drwy ddweud, “Os ydy o’n meddwl bod hynny am effeithio arna i, dydy o ddim yn fy nabod i.
“Pŵer nid protest – dyna pam ein bod ni wedi newid ein plaid ni.”
Addewidion Starmer
Defnyddiodd Syr Keir Starmer ei araith yn yr hyn a allai fod yn gynhadledd olaf Llafur cyn etholiad cyffredinol i ebsonio pam y dylai pleidleiswyr ymddiried ynddo gyda’r allweddi i Rif 10.
Dyma rai o brif addewidion ei araith yn Lerpwl:
- rhyddhau tir gwyrdd sy’n cael ei ddefnyddio fel meysydd parcio er mwyn adeiladu.
- datganoli grym i drefi a dinasoedd ledled Lloegr, gan roi’r mathau o bwerau sydd gan Lundain, Manceinion a Gorllewin Canolbarth Lloegr. “Rhowch bŵer yn ôl a rhoi cymunedau mewn rheolaeth,” meddai.
- “trawsnewid” y GIG drwy hybu capasiti, cael y GIG “yn gweithio rownd y cloc” wrth dalu staff yn “iawn” i’w wneud, a defnyddio technoleg i sicrhau effeithlonrwydd a diagnosis cynnar.
- adeiladu gwlad lle mae pawb, waeth beth fo’u cefndir, yn teimlo eu bod yn cael eu “parchu” a’u “gwerthfawrogi”.
‘Araith Prif Weinidog y dyfodol’
Un oedd wedi’i blesio â’r araith oedd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi yng Nghymru.
“Pam Llafur? Roedd yr ateb yn uchel a chlir gan @Keir_Starmer,” meddai mewn neges ar wefan X (Twitter gynt).
“Araith obeithiol, optimistaidd sy’n dangos bod Llafur yn barod i lywodraethu ar draws y DU.
“Mae’n rhaid i bob un ohonom nawr weithio’n galed er mwyn ennill yr Etholiad Cyffredinol nesaf a sicrhau bod Keir yn Rhif 10.”
Roedd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn Llywodraeth Cymru, hefyd wedi canmol ei araith.
“Dyna beth oedd araith Prif Weinidog y dyfodol gan @Keir_Starmer!” meddai.
“Degawd o adnewyddu a thwf fel y gallwn atgyweirio’r difrod a achoswyd gan y Ceidwadwyr.
“Ac yn ein hatgoffa pam mae’n rhaid i Lafur fod yn blaid o bŵer nid protestio.”
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda @Keir_Starmer a @UKLabour i ddiwygio gofal iechyd yn y Deyrnas Unedig,” ychwanegodd Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru.”
‘Plaid Cymru yn unig sy’n ymladd dros Gymru’
Ond nid pawb oedd wedi’u plesio gan ei araith.
Roedd Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi beirniadu cyn lleied o sylw gafodd ei roi i Gymru yn araith Keir Starmer.
“Fe roddodd Keir Starmer sylw helaeth i’r Alban yn ei araith yn y gynhadledd,” meddai.
“Cymru? Tumbleweed.
“Mae Llafur ar fin gwneud yr hyn maen nhw bob amser yn ei wneud: cymryd pleidleiswyr Cymru yn ganiataol, bancio’r gefnogaeth a cherdded i ffwrdd yn chwibanu.”