Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am dystion ar ôl i ddynes farw mewn gwrthdrawiad rhwng beic a lori yn Sir Gaerfyrddin.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A476 rhwng Temple Bar a Ffairfach bnawn ddoe (Dydd Llun, Hydref 9) tua 5.10pm.

Bu farw’r ddynes oedd yn reidio’r beic yn y fan a’r lle.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un oedd yn teithio ar yr A476 ar y pryd neu sydd â gwybodaeth allai eu helpu gyda’u hymchwiliad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101 neu ar-lein.