Mae dynes adawodd ei gwaith oherwydd symptomau’r menopos yn trefnu noson o addysg a “rhannu profiadau” am y peri-menopos a’r menopos ym Môn.
Yn ei gwaith newydd yn Swyddog Cefnogi Hybiau Cymunedol gydag Age Cymru Gwynedd a Môn, mae Alwen Pennant yn cynnal y digwyddiad gyda’r gobaith o godi ymwybyddiaeth ac agor y sgwrs am menopos.
Wedi’i heffeithio gan ddiffyg gwybodaeth am y peri-menopos a’r menopos ei hun, mae hi’n teimlo’i bod hi’n bwysig rhannu gwybodaeth am ddulliau amgen o leihau effaith y symptomau, a darparu rhywle diogel i drafod profiadau hefyd.
Bydd meddyg, dietegydd a therapyddion amgen yn dod at ei gilydd ar gyfer y noson ym M-Sparc yng Ngaerwen ar Ynys Môn ar Dachwedd 16 am 7yh.
‘Doeddwn i methu rhoi brawddeg at ei gilydd’
Bu Alwen Pennant yn bennaeth ar ddwy ysgol uwchradd yng Ngwynedd, ond pan gyrhaeddodd y peri-menopos a’r menopos, roedd hi’n cael trafferth ymdopi yn ei gwaith.
Cafodd ei symptomau eu priodoli i iselder dro ar ôl tro, ond roedd hi’n gwybod nad dyna oedd y broblem mewn gwirionedd.
“Mae’r menopos yn rhywbeth dw i’n teimlo’n eithriadol o gryf amdano fo,” meddai wrth golwg360.
“Mi es i drwy gyfnod y peri-menopos a’r menopos tra’n bennaeth, heb sylweddoli mewn gwirionedd mai dyna oedd yn bod efo fi.
“Ro’n i’n mynd yn ôl ac ymlaen at y doctor ac roedden nhw’n dweud mai straen gwaith oedd o, a fy mod i’n dioddef efo iselder oherwydd y math o waith ro’n i’n gwneud.
“Ond roedd yna rywbeth yn dweud wrtha i nad dyna oedd o go iawn.
“Doedd yna neb cweit yn gallu rhoi bys arno fo, a’r unig opsiwn ro’n i’n cael oedd anti-depressants.”
Gyda symptomau fel niwl yr ymennydd, roedd Alwen Pennant yn ei chael hi’n anodd rhoi brawddeg at ei gilydd mewn dogfennau – rhywbeth yr oedd hi wedi arfer ei wneud.
Felly penderfynodd hi roi’r gorau i’w gwaith, gan nad oedd yn teimlo ei bod hi’n gallu cyflawni ei photensial.
“Ro’n i wedi hen arfer ysgrifennu dogfennau yn fy ngwaith, ond yn sydyn reit, doeddwn i methu rhoi brawddeg at ei gilydd,” meddai.
“Roedd y gallu wedi diflannu’n llwyr ac roedd hynny’n frawychus.
“Ro’n i’n anghofio pethau, yn teimlo’n fyr fy nhymer ac yn cael yr hot flushes mwyaf ofnadwy ac yn teimlo bod pawb yn sbïo pan o’n i’n mynd trwy’r rheiny.
“Ar ôl gwneud ymchwil fy hun, wnes i ffeindio mai symptomau’r peri-menopos a menopos ro’n i’n teimlo.
“Yn y diwedd, wnes i benderfynu rhoi’r gorau i fy swydd fel pennaeth oherwydd doeddwn i ddim yn teimlo fy mod i’n gallu cyflawni’r gorau y gallwn i yn y swydd.
“Roedd o’n andros o gam i gymryd yn 53 oed, ond ro’n i jest yn teimlo fel bod neb yn deall beth roedd rhywun yn mynd trwyddo, ac roedd yr agwedd yma o “ond menopos ydy o, get on with it,” yn bodoli.”
Sefydlu Caffis Menopos
Ar ôl gadael ei swydd, aeth Alwen Pennant yn ei blaen i drefnu digwyddiad i bobol ddod at ei gilydd i drafod y peri-meonpos a’r menopos, ddenodd dros 70 o bobol.
Bwriad y noson nesaf yw darparu addysg gan feddyg, dietegydd a therapyddion amgen i ddelio gyda’r peri-menopos a’r menopos.
Bydd y sesiynau’n amrywio o drafod manteision ymarfer ioga a sut i leihau symptomau gyda deiet, i feddylgarwch.
Un o’r siaradwr fydd gynaecolegydd yn Ysbyty Gwynedd sydd wedi penderfynu gadael ei swydd er mwyn sefydlu clinig menpos yn sir Fôn.
Ond mae Alwen Pennant hefyd yn awyddus i rannu gwybodaeth am ddulliau naturiol o ddelio â’r symptomau.
“Mae’n gyfle da i sôn am yr ochr feddygol, ond dw i hefyd yn credu’n gryf mewn edrych ar ffactorau eraill fel y ffordd mae rhywun yn byw, bwyta’n iach, ymarfer corff ac yn y blaen,” meddai.
“Felly bydd rhywun yn rhoi cyflwyniad ar ioga ar gyfer pobol sy’n mynd trwy hyn, sy’n ymwneud â chryfhau’r esgyrn gan mai un o’r pethau sy’n digwydd ydy bod yr esgyrn yn mynd yn fwy brau.
“Bydd yna hefyd cyflwyniad am feddylgarwch.”
Mae’r digwyddiad yn agored i unrhyw un, meddai, a hynny gan fod y menopos yn “effeithio pawb”.
“Codi ymwybyddiaeth ydy un bwriad a chwalu’r tabŵ… gwneud i bobol siarad a pheidio trin o fel rhywbeth sydd ond yn effeithio merched – mae o’n effeithio’r teulu cyfan,” meddai.
“Mae’n rhaid i gymdeithas – ac yn enwedig gweithleoedd – fod yn ymwybodol o effaith y menopos.
“Mae pobol yn gwerthfawrogi’r cyfle i siarad a thrafod profiadau.
“Mae lot o bobol yn teimlo eu bod nhw’n mynd yn wallgof ac yn cael yr outrages mwyaf ofnadwy yn ystod y cyfnod, felly mae’n dda sylweddoli fod pobol eraill yn mynd trwy’r un peth.”
Bwriad Alwen Pennant yn y pendraw yw sefydlu ‘caffis menopos’ ar draws yr ynys mewn hybiau cymunedol.
Byddai’r caffis yn cynnig rhywle i “bobol ddod at ei gilydd a rhannu straeon a tips“, meddai.