Mae’r cynlluniau dadleuol i gartrefu ceiswyr lloches mewn gwesty yn Llanelli wedi cael eu rhoi o’r neilltu.
Fe wnaeth Cyngor Sir Caerfyrddin dderbyn cadarnhad ysgrifenedig heddiw (dydd Mawrth, Hydref 10) gan y Swyddfa Gartref, yn dweud na fyddan nhw’n bwrw ymlaen â’r cynlluniau i ddefnyddio Gwesty a Sba Parc y Strade fel cartref i geiswyr lloches.
Y bwriad gwreiddiol oedd i 241 o geiswyr lloches aros ar y safle, ond mae gweinidogion Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin wedi bod yn gwrthwynebu’r cynlluniau.
Yr wythnos ddiwethaf, daeth swyddogion tân i’r casgliad nad yw’r lle’n ddiogel i bobol aros, a chafodd deuddeg o bobol eu harestio ar safle’r gwesty yn dilyn tân yno.
‘Penderfyniad cywir’
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn dweud eu bod nhw’n falch o benderfyniad y Swyddfa Gartref, gan ychwanegu eu bod nhw wedi ysgrifennu at weinidogion y Swyddfa Gartref ac uwch-weision sifil yr wythnos ddiwethaf, yn sôn am eu pryderon am densiwn cynyddol yn y gymuned yn sgil y cynlluniau.
“Rwy’n croesawu’n fawr benderfyniad y Swyddfa Gartref i dynnu’n ôl y cynlluniau ar gyfer Gwesty Parc y Strade,” meddai Darren Price, arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin.
“Dyma’r penderfyniad cywir i’r gwesty ac, yn bwysicach na hynny, y penderfyniad cywir i bobol Ffwrnes.
“Nawr yw’r amser i gymuned Llanelli ddod at ei gilydd, yn dilyn profiadau’r misoedd diwethaf.
“O ran rhoi noddfa i bobol sydd mewn gwir angen, rwy’ am bwysleisio’r dyhead sydd gan Gyngor Sir Caerfyrddin i barhau i groesawu ein siâr o geiswyr lloches o Wcráin, Affganistan a Syria i’n sir, a hynny drwy’r model gwasgaru sydd wedi gweithio’n llwyddiannus yn Sir Gâr ers blynyddoedd lawer.”