Mae Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru, yn galw ar bawb i chwarae eu rhan yn nyfodol iechyd a gofal cymdeithasol y wlad, wrth i’r boblogaeth heneiddio a mynd yn fwy sâl.

Yn ôl adroddiad newydd, bydd bron i 20% o’r boblogaeth yn 70 neu’n hŷn o fewn y pymtheg mlynedd nesaf, ac mae disgwyl cynnydd o 22% yn nifer y bobol â chlefyd siwgr.

Yn ogystal, mae disgwyl i nifer y bobol â phedwar neu fwy o gyflyrau hirdymor ddyblu yn ystod y cyfnod hwnnw.

Yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Hydref 10), bydd Eluned Morgan yn ymateb i adroddiad y Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd, gan ganolbwyntio ar y pwysau tebygol ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ystod y chwarter canrif nesaf.

“Mae poblogaeth sy’n tyfu ac yn heneiddio, law yn llaw â nifer cynyddol o bobol â mwy nag un cyflwr iechyd hirdymor, yn golygu y bydd y pwysau sydd ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a’n system gofal cymdeithasol yn parhau i gynyddu,” meddai.

“Wrth inni edrych tua’r dyfodol, mae’n rhaid inni ddiogelu’r egwyddorion sylfaenol y crëwyd ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol arnyn nhw, gan ddeall y bydd angen i bob un ohonom ymateb i’r heriau sydd o’n blaenau.

“Rhaid inni barhau i ailgydbwyso’r system tuag at atal a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned, yn ogystal â sicrhau bod ein gwasanaethau’n cael eu defnyddio’n ddoeth, gan gydnabod, bob tro y byddwn yn defnyddio’r system, fod cost i hynny.

“Ond nid yw hyn yn ymwneud yn unig â sut mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn addasu: mae ffordd o fyw ac anghydraddoldebau economaidd yn rhai o’r prif ffactorau sy’n penderfynu iechyd rhywun.

“Gellir atal llawer o gyflyrau difrifol, gan gynnwys rhai mathau o ganser a diabetes math 2, felly gallwn ni i gyd chwarae ein rhan drwy wneud dewisiadau iachach.

“Tra gall pob rhan o’r llywodraeth a’r gymdeithas gyfrannu at fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.”

Adolygu camau gweithredu Cymru Iachach

Er bod yr adroddiad yn dangos bod y weledigaeth yn strategaeth ddeng mlynedd Llywodraeth Cymru i wella iechyd yn parhau’n gywir, bydd yn gofyn am adolygiad o’r camau gweithredu yn Cymru Iachach, yn ôl Eluned Morgan.

“Mae’r adroddiad hwn yn dangos bod ein ffocws ar atal, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a darparu mwy o ofal yn y gymuned yn iawn, ond yng ngoleuni’r dystiolaeth newydd hon dyma’r amser i sicrhau bod y camau gweithredu yn ein cynllun ar y trywydd iawn,” meddai.

Mae hi hefyd yn annog pobol i gael llais yn nyfodol gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru drwy gymryd rhan yn y sgwrs gyhoeddus sydd wedi’i lansio gan Gomisiwn Bevan.