Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd heddiw (dydd Mawrth, Hydref 10), dyma ailgyhoeddi darn gan Manon Steffan Ros gafodd ei gyhoeddi yn ei cholofn yng nghylchgrawn Golwg yn 2021.


Mae popeth yn iawn. Mae popeth yn dderbyniol.

Efallai y bydd mynd am dro yn helpu. Efallai y bydd ymgysylltu â natur, neu yoga, neu redeg yn dy godi di o’r dyfnderoedd, ond mae’n iawn os nad yw’r pethau yna’n helpu. Dwyt ti ddim yn fethiant os nad wyt ti am fynd allan o’r tŷ heddiw. Dydy’r ffaith nad wyt ti’n ffansïo gwneud pilates ddim yn golygu nad wyt ti’n trïo.

Efallai y bydd bwyta’n iach yn gwneud gwahaniaeth, a chlirio dy ystafell wely, a chael bath. Ond efallai hefyd mai dim ond bisgedi y medri di eu stumogi, a bod newid allan o’r dillad yr wyt ti wedi bod yn eu gwisgo ers dydd Iau diwethaf yn teimlo’n amhosib, a bod glendid yn teimlo’n hollol ddiwerth i ti rŵan. Does dim o’r pethau hyn, nac unrhyw beth arall, yn tynnu oddi ar dy werth.

Dydy bod yn drist ddim yn weithred anniolchgar.

Dydy teimlo’n isel ddim yn golygu dy fod ti’n fethiant.

Dydy digalondid ddim yn golygu fod y byd yn mynd i feddwl dy fod ti’n wan.

Dw i’n addo y byddi di’n teimlo’n well nag wyt ti rŵan.

Mi gei di ddweud wrth y byd os lici di. Mi gei di ddynodi dy anhapusrwydd mewn cyfres o fideos ar Insta Stories, neu mewn ffenestri bychain, tywyll o wybodaeth ar dy gyfrif facebook. Mi gei di ddweud dy stori, ond cofia hefyd – does dim rhaid i ti rannu dim byd gyda’r byd os nad wyt ti eisiau gwneud. Does arnat ti mo lecynnau mwya’ tyner a thywyll dy galon i neb. Pan fydd pethau’n amhosib o uffernol, mae’n bwysig i ti ddod o hyd i’r egni i godi dy ffôn, danfon neges, a rhoi’r cyfle i’r rhai sy’n dy garu i ofalu amdanat ti. Bydd o gymaint yn haws nag wyt ti’n meddwl y bydd o.

Mae gan y digalondid ei driciau bach ei hun; mae’n dweud celwydd wrthat ti’n gyson. Mae o’n dweud dy fod ti ar dy ben dy hun; yn dweud nad oes ffordd allan o hyn; yn dweud dy fod ti’n faich ar y rhai ti’n eu caru. Dw i’n addo i ti nad ydy hyn yn wir.

Mae popeth yn iawn. Mae popeth yn dderbyniol. Does dim rhaid i ti smalio. Mae ’na bobol sy’n dy garu di: mwy o bobol nag wyt ti’n sylweddoli.

Dwyt ti ddim yn gorfod bod ar dy ben dy hun.