Bydd Cymru’n symud un cam yn nes at ddileu digartrefedd heddiw (dydd Mawrth, Hydref 10), wrth i’r Llywodraeth gyflwyno manylion allweddol y newid mewn polisi a deddfwriaeth gerbron y Senedd.

A hithau’n Ddiwrnod Digartrefedd y Byd, bydd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd yn cyflwyno Papur Gwyn sy’n nodi sut y bydd y Llywodraeth yn dod â digartrefedd i ben yn y wlad.

Mae diwygio cyfraith tai yn rhan allweddol o’r Rhaglen Lywodraethu (2021-2026) a’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, er mwyn gwneud digartrefedd yn beth “prin, byr na fydd yn cael ei ailadrodd”.

Mae’r cynigion yn canolbwyntio ar wella mesurau atal ac ar ymyriadau cynnar, trwy gyflwyno pecyn o ddiwygiadau fydd yn gweddnewid y system bresennol yng Nghymru ar gyfer ymdrin â digartrefedd a thai.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y ddeddfwriaeth a’r polisi yn sicrhau:

  • y caiff y risg o ddigartrefedd ei hatal mor gynnar â phosibl a bydd pob rhan o’r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn rhannu’r cyfrifoldeb am ganfod ac atal digartrefedd
  • y bydd Awdurdodau Tai Lleol yn cynnig gwasanaeth sy’n rhoi’r person a’i drawma yn gyntaf, ac sy’n ymateb i anghenion y rhai sy’n wynebu digartrefedd
  • y bydd y rhai sydd fwyaf tebygol o ddioddef digartrefedd yn elwa ar gynigion pwrpasol i leihau eu risg.

Mae’r Papur Gwyn wedi’i seilio’n helaeth ar ganfyddiadau Panel Adolygu Arbenigol Annibynnol oedd â’r dasg o adolygu’r ddeddfwriaeth bresennol a gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru.

Fel rhan o’r adolygiad hwn, mae dros 350 o bobol sydd â phrofiad byw o fod yn ddigartref wedi rhannu eu barn i helpu i ddatblygu’r cynigion.

‘Rhywle i’w alw’n gartref’

“Dylai fod gan bawb yng Nghymru rywle i’w alw’n gartref, a heddiw rydyn ni’n nodi pennod newydd i helpu pobol i aros yn eu cartrefi a rhwystro pawb yng Nghymru rhag profi digartrefedd,” meddai Julie James.

“Hoffwn ddiolch i’r Panel Adolygu Arbenigol am eu hadroddiad sydd wedi’n helpu i lunio ein Papur Gwyn.

“Bydd eu hargymhellion wir yn helpu i ddod â ddigartrefedd i ben yma yng Nghymru.

“Rwyf hefyd am ddiolch i’r mwy na 350 o bobol sydd wedi rhannu’u profiadau gan ein helpu i lunio ein diwygiadau a sicrhau eu bod yn seiliedig ar realiti digartrefedd.

“Mae’r Papur Gwyn hwn yn gweithredu ar ein barn nad mater tai yn unig yw digartrefedd.

“Mae’n cyflwyno cynllun radical ac uchelgeisiol i sicrhau bod yr holl wasanaethau’n gweithio gyda’i gilydd i ganfod risg digartrefedd yn fuan ac yn cymryd camau i’w atal rhag digwydd.

“I’r rhai sy’n parhau mewn perygl, bydd gwasanaethau’n cael eu cyd-drefnu i sicrhau bod y cymorth iawn yn cael ei ddarparu gan y bobl iawn ar yr adeg iawn.”

‘Gwneud gwir wahaniaeth i fywydau pobol’

“Mae’r Papur Gwyn hwn yn nodi cynigion newydd i ddod â digartrefedd i ben fel bod gan bawb le i’w alw’n gartref ac na chaiff neb byth ei hun yn ddigartref,” meddai’r Aelod Dynodedig Siân Gwenllian.

“Rydym wedi ymrwymo i ddiwygio’r gyfraith a newid ein ffyrdd o weithio er mwyn gwneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl gan wella’r ffordd rydym yn helpu’r bobol fwyaf bregus yn ein cymdeithas.”

Un sy’n croesawu’r cyhoeddiad yw Nick Taylor, Cyfarwyddwr Cymorth y mudiad Pobl.

“Mae’n dda gweld y Papur Gwyn yn cael ei gyflwyno gerbron y Senedd heddiw ar Ddiwrnod Digartrefedd y Byd,” meddai.

“Fel y darparwr gwasanaethau cymorth mwyaf yng Nghymru i bobol ddigartref a’r rheini sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, mae Pobl yn cefnogi gwaith aml-asiantaethol gyda ffocws ar atal trawma i sicrhau bod cymorth yn cael i roi ar y cyfle cyntaf.”