Mae’n “newyddion arbennig iawn” fod Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi penderfynu peidio bwrw ymlaen â’r cynllun am un ysgol fawr Saesneg ym Mhontardawe, meddai cadeirydd Dyfodol i’r Iaith.
Roedd y cyngor yn bwriadu cau tair ysgol yn ardal Pontardawe, sef ysgolion cynradd Alltwen, Godre’r Graig a Llangiwg, a sefydlu un ysgol Saesneg ar safle Parc Ynysyderw.
Bu’r cynllun yn destun i adolygiad barnwrol ar ôl iddo gael ei gymeradwyo yn wreiddiol gan y cyngor sir, yn dilyn cwynion y byddai cau’r ysgolion cynradd wedi tynnu plant o ysgol gyfrwng Cymraeg i’r ysgol newydd.
Newyddion ‘ardderchog’
Un sydd wedi’i blesio gyda’r newyddion yw Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith.
“Mae’n newyddion arbennig iawn,” meddai wrth golwg360.
“Fe wnaeth Dyfodol i’r Iaith ymateb yn glir yn yr ymgynghoriad cyntaf i ddweud y byddai cael ysgol enfawr Saesneg yng nghanol y cwm yn gwneud hi’n anodd iawn i’r Gymraeg barhau fel iaith gymunedol.
“Mae’r newyddion yma’n ardderchog felly, na fydd ysgol enfawr Saesneg fyddai’n denu plant o ysgolion Cymraeg, neu’n gwneud hi’n anodd i ysgolion Cymraeg gystadlu.”
“Fi’n credu bydd rhyddhad mawr yn yr ardal yn gyffredinol ac mae hyn yn agor y drws i ddatblygiadau o fewn addysg yn y Gymraeg yn y cylch gobeithio.
“Mae’n rhoi modd i adeiladu yn y cwm, yn ieithyddol, gobeithio.
“Mae Pontardawe wedi bod yn ardal naturiol Gymraeg ers y chwyldro diwydiannol, ac mae’r Gymraeg wedi ffynnu yn gymunedol ac yn llenyddol yno.
“Byddai’r datblygiad yma, pe bai wedi digwydd, wedi troi iaith yr ardal am byth.
“Ac ar hyn o bryd mae’n ddigon anodd cadw popeth Cymraeg yn hyfyw, ond byddai cael yr ysgol yma wedi bod yn gam enfawr yn ôl.”
Digwyddiad ‘hanesyddol’
Roedd yr adolygiad barnwrol i ddyfodol yr ysgol “gam mawr ymlaen”, meddai Heini Gruffudd.
Roedd y dyfarniad yn dilyn cais am adolygiad barnwrol gan Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RhAG), mudiad sy’n cefnogi rhieni sy’n dymuno dewis addysg Gymraeg i’w plant ac sy’n hyrwyddo addysg Gymraeg.
Wedi’u cynrychioli gan gwmni cyfreithiol masnachol Darwin Gray LLP a Gwion Lewis CB o Landmark Chambers, llwyddodd RhAG i herio penderfyniad y Cyngor i agor yr ysgol newydd gan nad oedd yr ymgynghoriad statudol a’r penderfyniad dilynol i barhau â’r cynlluniau ar gyfer yr ysgol Saesneg yn cydymffurfio â Chod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru.
“Mae hwnna’n eithaf hanesyddol achos mae’n golygu bod wrth agor ysgol Saesneg bellach, mae’n rhaid rhoi ystyriaeth i effaith hynny ar y Gymraeg yn yr ardal,” meddai Heini Gruffudd.
“Mae hwnna’n gam mawr ymlaen.
“Cyn hyn byddai codi ysgol Gymraeg yn destun ieithyddol, ond bellach mae codi unrhyw ysgol yng Nghymru i gyd, allwn i feddwl, yn golygu bod rhaid cael astudiaeth effaith ar y Gymraeg.”