Mae menywod â chanser yr ofari yng Nghymru’n cael eu “gadael lawr”, yn ôl ymchwil newydd.
Bob blwyddyn, mae 300 o fenywod yng Nghymru’n cael diagnosis o ganser yr ofari, ac mae ymchwil gan Target Ovarian Cancer yn dangos bod dros 25% o’r menywod yn teimlo na chawson nhw ddigon o amser i drafod eu diagnosis.
Mae’r adroddiad Pathfinder Wales: Faster, further, and fairer hefyd yn nodi bod 55% o’r rhai a’u holwyd yn teimlo’u bod nhw wedi’u hynysu ers eu diagnosis.
Mae cyfraddau goroesi canser yr ofari Cymru ymysg y gwaethaf yn Ewrop, ac fe wnaeth chwarter y menywod a holwyd ymweld â’u meddyg teulu deirgwaith neu fwy cyn cael eu cyfeirio am brofion.
Dywedodd traean y menywod bod dros dri mis wedi pasio rhwng eu hapwyntiad cyntaf gyda’u meddyg a chael diagnosis.
Pe bai diagnosis yn digwydd yn gyflymach, mynediad at driniaethau’n decach a mwy o gefnogaeth ar gael, mae’n bosib y byddai mwy o fenywod yn goroesi, meddai’r elusen.
Mae’r ymchwil yn dangos hefyd mai dim ond ychydig dros chwarter menywod y wlad sy’n gwybod bod bol chwyddedig (bloating) yn un o’r prif symptomau, a dim ond 3% sy’n gwybod bod teimlo’n llawn yn symptom.
‘Annerbyniol’
Dywedodd Annwen Jones, Prif Weithredwr Target Ovarian Cancer, eu bod nhw wedi gweld rhywfaint o welliant o ran diagnosis a thrin canser yr ofari yng Nghymru ond bod mwy i’w wneud.
“Rhaid i ganser yr ofari fod yn flaenoriaeth er mwyn gwneud cynnydd,” meddai.
“Mae’n annerbyniol bod yr ymwybyddiaeth ynglŷn â’r symptomau dal mor isel, ac nad ydy menywod yn teimlo’u bod nhw’n cael digon o amser i drafod eu diagnosis gyda gweithwyr iechyd.
“Mae pawb sy’n cael diagnosis o ganser yr ofari yn haeddu cael eu clywed, cael y cyfle gorau i fyw yn dda, a goroesi.
“Er mwyn i hyn ddigwydd, mae’n rhaid buddsoddi mewn ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth, ymchwil, diagnosis a chefnogaeth.”
Meddygon “dan bwysau”
Yn ddiweddar, fe wnaeth yr elusen lansio Rhwydwaith Diagnosis Cynnar er mwyn cynorthwyo gweithwyr iechyd sy’n awyddus i gymryd camau i gyflymu diagnosis.
Maen nhw hefyd yn rhedeg rhaglen addysgiadol i feddygon teulu, er mwyn cynyddu’r ymwybyddiaeth o ganser yr ofari.
“Mae gweithwyr iechyd sy’n gweithio ym maes meddygaeth teulu dan bwysau sylweddol, ac rydyn ni’n trio’n galed i gwrdd ag anghenion pob claf,” meddai Dr Elise Lang, aelod o Fwrdd Gofal Sylfaenol Target Ovarian Cancer.
“Mae’r ymyriadau Target Ovarian Cancer yn ddechrau da i drio gwella diagnosis cynnar o ganser yr ofari, ond mae angen buddsoddiad ehangach ar frys i gefnogi gweithwyr iechyd.”
Fel rhan o’u galwadau, mae’r elusen am weld ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth am symptomau’r canser, ynghyd â rhoi mwy o hyfforddiant a chefnogaeth i feddygon teulu.
Ddydd Mercher nesaf (Ebrill 26), bydd yr elusen yn cyflwyno darganfyddiadau’r adroddiad i’r Senedd ac yn mynnu bod cynnydd yn cael ei wneud ar y mater.
‘Gwelliannau sylweddol’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod Cymru wedi “gweld gwelliannau hirdymor sylweddol yng nghyfraddau goroesi canser yr ofari a marwolaethau o’r clefyd”.
“Er mwyn helpu gyda diagnosis cyflymach, rydym yn creu canolfannau diagnostig cyflym ar gyfer ymchwilio i symptomau ‘amwys’ ac yn darparu offer digidol i helpu meddygon teulu i adnabod ac atgyfeirio cleifion yr amheuir bod ganddynt ganser,” meddai.