Fe wnaeth un o Aelodau Seneddol Ceidwadol Lloegr feirniadu’r gofal iechyd ar gyfer twristiaid o yng Ngwynedd yn ystod sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog yn San Steffan ddoe (Ebrill 19).

Mae arweinydd Plaid Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin, Liz Saville Roberts, wedi galw sylwadau Michael Fabricant, Aelod Seneddol Lichfield yn Swydd Stafford, yn rhai “sarhaus” a “nawddoglyd”.

Daw’r sylwadau ar ôl i gleifion yn ysbyty cymunedol Tywyn gael eu symud i ysbyty arall oherwydd prinder staff.

Ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, daeth i’r amlwg y bydd ward cleifion mewnol yr ysbyty yn cau dros dro gan nad yw’r bwrdd iechyd wedi gallu recriwtio digon o nyrsys i weithio yno.

“Mae llawer o’m hetholwyr, gan gynnwys fi fy hun mewn gwirionedd, yn ymweld â Thywyn yng Ngwynedd,” meddai Michael Fabricant.

“A yw Ysgrifennydd Gwladol Cymru (David TC Davies) yn ymwybodol bod angen gofal iechyd ar bobl yno, wedi’i ariannu wrth gwrs gan y grant?

“Ac eto, mae Ysbyty Tywyn wedi cau ei uned mân anafiadau a’i ward cleifion mewnol.

“A wnaiff ef siarad â Gweinidog Cymru dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a thrafod sut y bydd twristiaid o Loegr yn cael gofal iechyd iawn pan fyddant ar wyliau yng Nghymru?”

Maes datganoledig

Ymatebodd David TC Davies trwy egluro na allai ateb y cwestiwn yn llawn gan fod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi ei ddatganoli yng Nghymru.

Fodd bynnag, aeth yn ei flaen i feirniadu gweinidogion Cymru am beidio â chyrraedd y safonau gofal iechyd ac addysg ddisgwyliedig.

“Rwy’n gobeithio y bydd gweinidogion Llafur Cymru eisiau egluro pam, gyda’r holl arian ychwanegol y maent yn ei gael, uwchlaw’r arian a roddir i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr, nad ydynt yn gallu darparu’r un safonau gofal iechyd ac addysg a’r rhai yr ydym yn eu cymryd yn ganiataol o dan Lywodraeth Geidwadol San Steffan,” meddai.

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod llai o gyllideb ganddynt nag o’r blaen.

“Ergyd wleidyddol rad”

Ers hynny, mae Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol dros Ddwyfor a Meirionnydd, wedi cyfeirio at y sylwadau am ei hetholaeth fel rhai “sarhaus”.

“Dyma ergyd arall eto i bobl Bro Dysynni sydd eisoes yn wynebu argyfwng mewn darpariaeth gofal iechyd a phrinder buddsoddiad gan y Llywodraeth,” meddai.

“Mae Cwestiynau Cymru wedi cael eu defnyddio ers tro gan Dorïaid sy’n cynrychioli etholaethau Seisnig i ddoethinebu am faterion sydd ddim i’w wneud â nhw, ond roedd y cwestiwn heddiw yn sarhaus.

“Nid yw Tywyn a Bro Dysynni yn gymuned i’w defnyddio fel ergyd wleidyddol rad.

“Mae twristiaeth yn ddiwydiant hanfodol bwysig ym Meirionnydd.

“Ond mae’r ymyriad nawddoglyd hwn yn dangos pa mor hanfodol yw hi i ni ddatblygu model cynaliadwy o dwristiaeth sy’n sicrhau’r buddion economaidd a chymdeithasol mwyaf posibl i drigolion lleol.”

‘Cyllideb is’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oes arian ychwanegol ar gyfer gofal iechyd mewn gwirionedd a bod y gyllideb yn is nag o’r blaen.

“Mae gwasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng ngogledd Cymru yn cael eu rheoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr,” meddai.

“Deallwn y bydd apwyntiadau cleifion allanol yn parhau yn Ysbyty Tywyn a bydd gwasanaethau cleifion mewnol yn cael eu darparu dros dro yn Ysbyty Dolgellau.

“Ynglŷn â’r ‘arian ychwanegol’ y cyfeiriodd yr Ysgrifennydd Gwladol ato, mae ein cyllideb yn 2023-24 werth £900 miliwn yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod ar ddechrau’r adolygiad presennol ar dair blynedd o wariant.”