Mae’r blaid Lafur yn symud y gwasanaeth iechyd Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru “yn ôl, nid ymlaen,” yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig yn dilyn cyhoeddi’r ffigurau perfformiad diweddaraf heddiw (dydd Iau, Ebrill 20).
Dim ond 47.5% o alwadau ‘coch’, y galwadau â’r mwyaf o frys, gafodd ymateb o fewn wyth munud.
Roedd hyn 3.5% yn is nag ym mis Chwefror a 3.6% yn is nag ym mis Mawrth 2022, a’r isaf ond un ers mis Mai 2019.
Y targed yw ymateb i 65% o alwadau coch o fewn wyth munud, ond mae ffigurau yn dangos cynnydd o dros 10,000 o alwadau o’i gymharu â’r mis blaenorol
Bu gostyngiad hefyd yn nifer y cleifion a dreuliodd lai na phedair awr mewn adrannau achosion brys.
Cafodd 69.5% o gleifion eu gweld o fewn pedair awr, o gymharu â 71.5% ym mis Chwefror, sy’n is na’r targed o 95%.
Ond bu 2,879 o ymweliadau ag adrannau brys bob dydd ar gyfartaledd, sy’n uwch o’i gymharu â Chwefror.
Gofal wedi’i drefnu
Mae’r gwelliannau graddol o ran gofal wedi’i drefnu yn parhau, gyda’r amseroedd aros i ddechrau triniaeth yn parhau i ostwng.
Ym mis Chwefror, gostyngodd nifer o gleifion sy’n disgwyl i ddechrau triniaeth o tua 734,000 i tua 731,000, sef y pumed gostyngiad yn olynol yn dilyn cynnydd cyson ers mis Ebrill 2020.
Mae 574,000 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaeth yng Nghymru ar hyn o bryd, sy’n ostyngiad o 1,700 o gleifion ers y mis blaenorol.
Roedd tua 37,500 o lwybrau cleifion ar agor ers dros ddwy flynedd, 47% yn is na’r lefel uchaf.
Amseroedd Aros Diagnostig a Therapi
Ar gyfer gwasanaethau diagnostig, cynyddodd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros i oddeutu 113,600 ym mis Chwefror.
Roedd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros mwy nag wyth wythnos (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) wedi gostwng i fymryn o dan 43,000 ym mis Chwefror.
Ar gyfer therapïau, roedd nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros wedi cynyddu i ychydig dros 59,000 ym mis Chwefror ac mae’n uchel mewn cyd-destun hanesyddol.
Roedd y nifer a oedd yn aros mwy na 14 wythnos (y targed ar gyfer yr amser aros hiraf) wedi gostwng i ychydig dros 7,600, gan ddisgyn am bron i flwyddyn ar ôl cynnydd cyson drwy gydol 2021.
Ar gyfer gwasanaethau canser, dechreuodd llai o bobol eu triniaeth ddiffiniol gyntaf ym mis Chwefror (1,572) na’r mis blaenorol.
Roedd nifer y llwybrau a gaewyd ar ôl i’r claf gael gwybod nad oedd canser arnyn nhw wedi gostwng o gymharu â’r mis blaenorol i 12,724.
‘Haeddu gwell’
Wrth ymateb i’r ffigurau diweddaraf, dywedodd llefarydd Iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George: “Er gwaethaf y ffaith bod arhosiad annynol o ddwy flynedd am driniaeth wedi cael eu dileu fwy neu lai mewn mannau eraill ym Mhrydain, mae degau o filoedd o bobol yn aros yn llawer rhy hir yng Nghymru.
“Mewn gwirionedd, yn seiliedig ar y data diweddaraf, mae gan Gymru fwy o bobol o hyd yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth na sydd gan Loegr gyfan yn aros ers 18 mis.
“Mae pobol Cymru yn haeddu gwell siawns na 50/50 y bydd ambiwlans yn cyrraedd ar amser, a chleifion yn treulio hyd yn oed mwy o amser yn yr adran damweiniau ac achosion brys.
“Mae bron i un ym mhob pedwar o bobol yng Nghymru ar restr aros ac nid oes llawer o gamau gan y Llywodraeth Lafur i wneud unrhyw ymdrech i leihau hyn.
“Rwy’n gwybod bod staff ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru’n gweithio’n galed iawn i ddod â’r rhestrau hyn i lawr, ond mae’r Llywodraeth Lafur yn camreoli’r gwasanaeth, torri iechyd mewn termau real, a blaenoriaethu prosiectau gwagedd yn mynd â ni yn ôl, nid ymlaen fel y mae’r niferoedd hyn yn profi.”
‘Anallu parhaus’
Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru, bod yr “anallu parhaus” i fynd i’r afael ag amseroedd aros yn “symptom arall o gamreolaeth gyffredinol y Llywodraeth Lafur o iechyd yng Nghymru”.
“Rydym wedi gweld hyn yn fwyaf diweddar gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cael ei roi yn ôl mewn i fesurau arbennig, dim ond dwy flynedd ar ôl iddo ddod allan.
“Rydym yn gweld hyn gyda phrinder staff, agweddau tuag at rheiny sy’n streicio ac efo’r llanast yn y gwasanaeth deintyddol.
“Yn fwyaf amlwg, rydym yn gallu gweld heddiw bod yr amseroedd aros yn syml yn rhy hir ac yn effeithio ar lot gormod o bobol.
“Mae anallu’r llywodraeth i wella amseroedd aros yn ddigonol – a methu eu targedau eu hunain yn y broses – yn codi cwestiynau difrifol am hygrededd Llafur wrth redeg y gwasanaeth iechyd.”
‘Pobol yn marw’
Wrth gyfeirio at amseroedd aros ambiwlansys, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, bod dim posib aros blynyddoedd am ddiwygiadau arfaethedig Llafur a Phlaid Cymru ym maes gofal cymdeithasol.
“Mae hi bron yn ddwy flynedd ers iddyn nhw gytuno i fynd i’r afael â’r mater gyda’i gilydd, ac eto dydyn ni heb weld unrhyw ganlyniadau nag awgrymiadau pendant hyd yn hyn.
“Mae pobol yn marw wrth aros am ambiwlansys neu mewn adrannau brys oherwydd nad ydy ysbytai yn gallu rhyddhau cleifion i ofal cymdeithasol.
“Rydyn ni angen i Lywodraeth Cymru greu cynllun brys i fynd i’r afael â’r argyfwng ym maes gofal cymdeithasol, dim ond wedyn fyddan ni’n gweld unrhyw welliannau gwirioneddol mewn adrannau brys.”