Yn ôl y ffigyrau diweddaraf ar y farchnad lafur, Cymru oedd â’r ail gyfradd cyflogaeth isaf yn y Deyrnas Unedig rhwng Rhagfyr 2022 a Chwefror 2023.
Gogledd Iwerddon oedd â’r gyfradd gyflogaeth isaf o 71.9%, gyda Chymru’n dod yn ail ar 72.4%.
Gan fod chwyddiant yn fwy na thwf cyflogau ar hyn o bryd, mae’n achosi i wir werth cyflogau ostwng, yn ôl y Senedd.
Cymru a Chanolbarth Lloegr welodd y gostyngiadau mwyaf yn y gyfradd cyflogaeth o’i gymharu â’r un amser llynedd sef cwymp o 1.8%.
Yr un oedd y patrwm ar gyfer y gyfradd anweithgarwch yn y Deyrnas Unedig hefyd gyda’r ffigwr uchaf o 26.2% yng Ngogledd Iwerddon a’r ail yng Nghymru, sef 24.9%.
Yn ôl y Senedd, mae arwyddion bod lefelau swyddi gwag yn gostwng ac mae disgwyl y bydd hyn yn parhau wrth i dwf economaidd aros yn ei unfan.
Fodd bynnag, mae ymchwil a wnaed gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi’n dangos bod mwy o bobol yng Nghymru yn cael eu cyflogi ac ar y gyflogres ar hyn o bryd o gymharu â chyn y pandemig.
Mae’r ffigwr wedi parhau i gynyddu dros y misoedd diwethaf gyda 1.3 miliwn o gyflogeion Talu Wrth Ennill yng Nghymru yn fis Mawrth 2023.
Angen gollwng mentrau ddim o “fudd i’n heconomi”
Yn ôl Peter Fox, Gweinidog yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig dros Gyllid, mae’r ffigyrau yn codi pryderon ac mae angen i’r Llywodraeth ganolbwyntio ar brosiectau fydd o fudd i’r economi.
“Mae’r ymchwil diweddaraf sy’n dangos bod gan Gymru’r gyfradd cyflogaeth isaf ar ôl Gogledd Iwerddon, sef 72.4%, yn ddatguddiad sy’n peri pryder mawr,” meddai wrth golwg360.
“Ar adeg ble mae straen economaidd sylweddol yn wynebu’r byd gorllewinol, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru, sy’n cael ei rhedeg gan Lafur, nawr weithio law yn llaw â Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig i gyflawni dros bobol Cymru.
“Byddai’n ddoeth hefyd i weinidogion Llywodraeth Cymru ollwng mentrau na fydd yn ychwanegu unrhyw fudd i’n heconomi megis y dreth dwristiaeth drychinebus ac yn lle hynny cofleidio rhai beiddgar, megis gostwng ardrethi busnes.”
Canlyniad Brexit
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, mae’r Cynllun ar gyfer Cyflogadwyedd a Sgiliau yn anelu i helpu pobol Cymru ddod o hyd i waith er mwyn talo’r gyfradd cyflogaeth isel.
“Mae busnesau ledled Cymru yn wynebu heriau o ganlyniad uniongyrchol i’r math o Brexit a ddewiswyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Mae lefelau uchel o chwyddiant ac argyfwng costau byw yn rhoi pwysau pellach a sylweddol ar gyllid busnes.
“Rydym yn gweithio’n galed i greu Cymru fwy llewyrchus, lle mae gan bawb y cyfle i gyrraedd eu potensial ac i chwarae eu rhan lawn yn ein heconomi.
“Dyna pam rydyn ni’n cefnogi busnesau i greu swyddi o safon, bod yn fwy hyblyg a darparu cyfleoedd sy’n talu’n well i weithwyr.
“Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar leihau anweithgarwch economaidd ac mae ein Cynllun ar gyfer Cyflogadwyedd a Sgiliau yn canolbwyntio ar alluogi’r rhai sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur i ddod o hyd i gyflogaeth.”