Bu farw 76 o bobol ddigartref yng Nghymru yn 2022, cynnydd o’r cyfanswm o 60 yn 2021 yn ôl ffigyrau a gyhoeddwyd gan y Museum of Homelessness heddiw (Ebrill 20).
Yn ôl y Museum of Homelessness, bu farw’r mwyafrif o bobol ddigartref mewn preswylfeydd dros dro yn hytrach na wrth gysgu ar y stryd ac mae hynny wedi codi pryderon ynglŷn â safon y preswylfeydd hyn.
Yng Nghymru a Lloegr, cododd y ffigwr dros 20% rhwng 2021 a 2022 gyda chyfanswm o 1,313 o farwolaethau.
Fodd bynnag, mae’n debyg bod y ffigwr gwirioneddol ar gyfer y Deyrnas Unedig yn uwch na hwnnw a ddatgelwyd gan y Museum of Homelessness gan fod rhai cynghorau, megis Blackpool a Birmingham, wedi gwrthod cyfrannu.
Mae pob un o’r marwolaethau sydd wedi’u cynnwys yn y data wedi cael eu gwirio trwy gais Rhyddid Gwybodaeth, adroddiad y crwner, aelod o deulu neu elusen.
Ble’r oedd achos y farwolaeth yn hysbys, cyffuriau ac alcohol oedd achos 36% o’r marwolaethau, tra bo hunanladdiad yn gyfrifol am 10% arall.
Pob ystadegyn yn fywyd dynol
Mae Francesca Albanese, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Allanol Dros Dro’r elusen ddigartrefedd Crisis, wedi galw’r ffigyrau yn “gywilyddus”
“Y tu ôl i bob un o’r ystadegau hyn mae bywyd dynol, bywyd wedi’i dorri’n fyr a photensial heb ei wireddu,” meddai.
“Mae’r ffaith bod unrhyw un yn marw tra’n ddigartref yn gywilyddus.
“Mae’r ffaith bod llawer o’r marwolaethau hyn yn digwydd mewn llety brys neu lety â chymorth yn frawychus – mae’r rhain yn lleoedd a ddylai ddarparu rhywfaint o seibiant a throedle allan o ddigartrefedd ac eto’r gwrthwyneb sy’n digwydd mewn llawer o achosion.
“Ni allwn adael i hyn barhau. Rydym wedi bod yn ymgyrchu i Lywodraeth y Deyrnas Unedig atal landlordiaid twyllodrus rhag elwa o ecsbloetio pobol sydd angen tai a chymorth i adael digartrefedd.
“Mae angen i’r ddeddfwriaeth hon gael ei phasio ar brys neu rydym mewn perygl o weld mwy o bobol yn colli’u bywydau’n ddiangen.”
“Gwarth”
Cafodd yr un farn ei hadleisio gan Matt Turtle, cyd-gyfarwyddwr y Museum of Homelessness.
“Mae’r ffaith bod cymaint o bobl yn parhau i farw mewn llety heb ei reoleiddio, wedi’i ariannu gan drethdalwyr sy’n cael ei redeg gan landlordiaid twyllodrus, yn warth,” meddai.
‘Pob marwolaeth yn drasiedi’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae pob marwolaeth yn drasiedi ac rydym yn buddsoddi dros £210m mewn digartrefedd ac yn darparu cymorth cyn gynted â phosibl, gan ganolbwyntio ar atal, a sicrhau bod pobl yn dod o hyd i gartrefi addas.
“Mae’r rhain i gyd yn rhan o’n nod hirdymor i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.”