Mae deiseb sy’n galw am stopio defnyddio fersiynau Saesneg o enwau lleoedd Cymraeg yn brysur gasglu cefnogaeth yn dilyn y cyhoeddiad am ddefnyddio’r enw ‘Bannau Brycheiniog’ yn unig ar y parc cenedlaethol.
Mae’r ddeiseb a sefydlwyd gan Mihangel ap Rhisiart yn dweud bod angen defnyddio’r enwau Cymraeg yn unig yn swyddogol “mewn ysbryd o barch at Gymru fel ei chenedl ei hun â’i hanes ei hun; ac i gydnabod peth o’r gorthrwm diwylliannol a achoswyd yn hanesyddol ar Gymru”.
Dechreuodd Mihangel y ddeiseb pum mis yn ôl ac er ei fod heb atynnu llawer o lofnodion pryd hynny, mae’r ddeiseb wedi cyrraedd 1,000 o lofnodion erbyn hyn.
Dim ond 250 o lofnodion oedd gan y ddeiseb fore ddoe (dydd Iau, Ebrill 20).
Daw hyn yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Llun (Ebrill 17) mai dim ond yr enw Cymraeg ‘Bannau Brycheiniog’ fydd yn cael ei ddefnyddio gan y Parc Cenedlaethol o hyn ymlaen.
Esiamplau tu hwnt i Gymru
Byddai’r ddeiseb yn golygu, er y gallai’r enwau Saesneg barhau i gael eu defnyddio i ddechrau gan rai sydd heb arfer, ym mhob llwybr swyddogol ac yn y cyfryngau llafar ac ysgrifenedig, y byddai’r enwau Cymraeg gwreiddiol ar gyfer lleoedd yng Nghymru yn cael eu defnyddio.
Yn ôl Mihangel, sy’n fyfyriwr ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, mae ganddo dipyn o resymau tu ôl i’w sefydlu.
“Mae’r pwnc wedi codi mewn sgyrsiau efo lot o bobol dros y blynyddoedd,” meddai wrth golwg360.
“I fi, dw i’n teimlo bod cael dau enw am un lle yn rhywbeth bach yn rhyfedd achos os rydan ni’n mynd tramor, un enw sydd yna fel arfer.
“Os rydan ni’n mynd i Ferlin, Berlin rydan ni’n ddweud fel yr Almaenwyr.
“Wrth gwrs, dw i’n deall pam fod pobol wedi dadlau bod o fel ‘gwthio’r Gymraeg ar bobol’ ond dydw i ddim yn credu bod hynny’n wir.
“Dw i ddim yn deall pam fod rhaid i ni gael dau enw.
“Dim ond mater o ddweud gair ydi o; does dim angen deall y geiriau a’r hanes tu ôl i enwau’r llefydd.
“Pan rydan ni’n mynd i Loegr rydan ni’n defnyddio enwau dydyn ni ddim yn deall, fel Worcester.
“Dw i ddim yn deall beth yw ystyr y gair neu wreiddyn y gair Worcester.
“Enghraifft arall yw Los Angeles.
“Wrth gwrs, mae yna lot o bobol sy’n siarad Sbaeneg yn yr Unol Daleithiau, ond dyw pawb ddim yn siarad Sbaeneg ond mae pawb yn defnyddio’r enw Sbaeneg, Los Angeles.
“Does neb yn dweud ‘The Angels’ a does dim problem.
“Felly be sy’n wahanol yng Nghymru?”
‘Siawns i drysori’r diwylliant Cymreig’
Yn syml, cam tuag at gofleidio diwylliant brodorol Cymru ydi’r alwad, yn ôl Mihangel.
“Mae’r enwau Cymraeg cymaint hŷn na’r enwau Saesneg ac mae stori tu ôl i’r enwau.
“Wrth drio cael gwared ar yr enwau Saesneg, mae’n siawns i drysori’r diwylliant Cymreig sydd yn yr enwau.
“Mae’r enwau Saesneg yn rhan o’r hanes o drio Seisnegeiddio’r wlad.
“Rydan ni’n gweld mewn llefydd gwahanol dros y byd bod y pwerau gwahanol wedi bod yn y gwledydd yno ac wedi newid yr enwau, fel Bombay a Mumbai, a daethon nhw yn ôl at eu diwylliant a newid yr enw i Mumbai.
“Rydan ni’n byw mewn cyfnod o hanes Cymru ble mae hi’n bwysig ein bod ni’n trio dod yn ôl at ein diwylliant ni.”
Bannau Brycheiniog yn sbarduno brwdfrydedd
Sefydlodd Mihangel y ddeiseb ym mis Rhagfyr 2022, ac mae hi wedi tyfu’n araf nes y dyddiau diwethaf.
“Wnes i ddechrau’r ddeiseb ar ôl y newid gydag Eryri, a doedd dim lot o ddiddordeb yn y ddeiseb a doedd dim lot o lofnodion.
“Ond ar ôl rhannu’r ddeiseb eto ar ôl y newyddion am Fannau Brycheiniog, mae mwy o frwdfrydedd wedi bod.
“Tua 200 o lofnodion oedd bore ’ma, ac mae o bellach wedi cyrraedd dros 500.”
Dros nos neithiwr (nos Iau, Ebrill 20), mae’r ddeiseb wedi dyblu mewn llofnodion eto ac wedi cyrraedd 1,000.
Ond mae ymateb rhai i’r newyddion am Fannau Brycheiniog wedi bod yn drist i’w weld, meddai.
“Mae o wedi bod yn drist gweld cymaint o gasineb sydd dal i fodoli o ran yr iaith.
“Mae ymatebion cryf wedi bod gan rai pobol yn erbyn yr iaith, ac i fod yn onest mae o wedi dod â deigryn i fy llygaid yn gweld cymaint o bobol yn teimlo’n gryf yn erbyn ein diwylliant ac ein hawl i ddefnyddio’r iaith frodorol.
“Mae o wedi bod yn bach o sioc gweld rhai o’r sylwadau.”
Mae’r ddeiseb bellach wedi’i symud i wefan deisebau Senedd Cymru ac i’w weld yma.