Dydy rheolau newydd sy’n gwahardd darparwyr ynni rhag gosod mesuryddion rhagdalu gorofodol yng nghartrefi pobol dros 85 oed ddim yn mynd ddigon pell, medd gweleidyddion.

Mae darparwyr ynni yn y Deyrnas Unedig wedi cytuno i wahardd gosod mesuryddion rhagdalu o dan orfodaeth yng nghartrefi cwsmeriaid dros 85 mlwydd oed.

Daw hyn yn dilyn y newyddion bod tua 600,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig wedi cael eu gorfodi i wneud y newid o fesurydd credyd i fesurydd rhagdalu llynedd oherwydd dyledion, yn ôl Citizens Advice.

Mae hyn yn gynnydd sylweddol o’r ffigwr o 380,000 ar gyfer y flwyddyn flaenorol.

O dan y rheolau newydd, a gyhoeddwyd gan y rheoleiddiwr egni Ofgem, bydd yn rhaid rhoi mwy o rybudd i gwsmeriaid a gwneud o leiaf deg ymgais i gysylltu gyda nhw cyn gosod mesurydd rhagdalu o dan orfodaeth.

Yn ogystal, bydd yn rhaid rhoi mwy o gyfle i gwsmeriaid glirio eu dyledion a ni fydd cwmnïau ynni yn cael gosod y mesuryddion mewn tai ble mae’r preswylyddion dros 85 mlwydd oed neu gyda chyflyrau iechyd difrifol.

Tybiwyd bod 3.2 miliwn o bobl ar draws y Deyrnas Unedig wedi cael eu gadael heb bŵer llynedd wedi iddynt redeg allan o gredyd.

“Creulon annigonol”

Cyhuddwyd sawl cwmni ynni, gan gynnwys British Gas, o ddefnyddio gwarant llys er mwyn gosod mesuryddion rhagdalu yng nghartrefi cwsmeriaid oedd â dyledion uchel.

Er bod y rheolau newydd yn ceisio mynd i’r afael â hyn, mae rhai wedi cwyno nad yw’r trothwy oedran o 85 yn diogelu digon o’r boblogaeth a’i fod yn gadael llawer o bobl fregus neu anabl ar ôl.

Un Aelod Seneddol sydd wedi cwyno yw arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts.

Rhannodd hi ei barn ar Twitter gan ddweud bod ymateb Ofgem “yn greulon annigonol.”

“Ni ddylid caniatáu i unrhyw gwmni ynni wneud elw rheibus oddi wrth bobol fregus, beth bynnag fo’u hoedran,” meddai.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi adlewyrchu’r pryderon hyn gan ddweud fod y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, yn bwriadu cyfarfod a’r rheoleiddiwr egni er mwyn trafod y pwnc.

“Nid yw’r newidiadau hyn yn mynd yn ddigon pell. Credwn y dylid gwahardd gosod mesuryddion rhagdalu yn gyfan gwbl,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Dylai deiliaid tai sydd wedi gorfod defnyddio mesurydd rhagdalu hefyd gael cynnig y cyfle i ddychwelyd eu mesurydd, heb unrhyw gost.

“Mae’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol yn ceisio cyfarfod ag Ofgem a bydd yn cyflwyno’r achos dros weithredu pellach i amddiffyn cartrefi yng Nghymru.”

Rhybudd i gyflenwyr

Mae Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Ynni, Grant Shapps, wedi rhybuddio cyflenwyr ynni i gydymffurfio a’r rheolau newydd.

“Mae’r cod ymarfer hwn yn gam yn y cyfeiriad cywir, gyda gwell amddiffyniadau i gartrefi bregus, mwy o graffu ar arferion cyflenwyr a mesurau unioni yr wyf wedi galw amdanynt,” meddai.

“Rwyf nawr am weld y geiriau hyn yn cael eu rhoi ar waith gan ein bod yn anffodus wedi dysgu bod codau a rheolau yn unig yn annigonol os na chedwir atynt a’u gorfodi.

“Rhaid i Ofgem sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn yn cyd-fynd â’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad a gadewch i hyn fod yn rhybudd i gyflenwyr – cydymffurfiwch â’r cod hwn a chywirwch eich gweithredoedd anghyfiawn yn erbyn cwsmeriaid, neu byddwn yn eich dwyn i gyfrif.”

Yn ôl Ofgem, bydd y rheiny yn y categori risg canolig yn cael eu hasesu ar sail eu hachos unigryw nhw.