Mae’r penderfyniad ynghylch y cam nesaf yn y broses o chwilio am safleoedd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn Sir Fynwy bellach yn nwylo’r Cyngor llawn.
Roedd Cabinet yr awdurdod, sydd dan reolaeth Llafur, wedi cytuno ar ddechrau mis Hydref i agor ymgynghoriad cyhoeddus ar y tri safle maen nhw wedi’u hadnabod fel rhai allai fod yn addas ar gyfer deg neu unarddeg lle sy’n diwallu anghenion teuluoedd o Sipsiwn a Theithwyr.
Ond cafodd y penderfyniad hwnnw ei “alw i mewn”, gan alluogi pwyllgor trawsbleidiol, allai fod wedi derbyn penderfyniad gwreiddiol y Cabinet, i benderfynu y dylai’r penderfyniad gael ei wneud gan y Cyngor llawn, fydd yn cyfarfod ddydd Iau (Hydref 26).
Fe wnaeth saith aelod o’r cyhoedd annerch y pwyllgor yn Neuadd y Sir Brynbuga, a dywedodd Phil Harry, sy’n byw yn ymyl Fferm Oak Grove – un o’r ddau safle yng Nghrug gafodd eu hadnabod gan y Cyngor ddiwedd mis Medi – nad oedd e’n ymwybodol tan yr wythnos ddiwethaf fod y cae dan ystyriaeth.
Dywedodd iddo gael “sioc” fod modd ystyried cae agored yng nghefn gwlad, ac fe ddywedodd wrth gynghorwyr, “Fe wnes i geisio cael estyniad ar fy eiddo, gafodd ei wrthod, a’r cyngor oedd oherwydd effaith y breswylfa ar dirlun cefn gwlad; dw i’n credu y byddai gwersyll Teithwyr yn sicr yn cael effaith ar y dirwedd wledig.”
Fe wnaeth ei gymydog Steve Rich gefnogi sylwadau gafodd eu gwneud am ddiogelwch y B4245 ger y cae, sydd heb lwybr troed na goleuadau stryd yn ôl Phil Harry, a phryderon am gyflymder y traffig sy’n mynd heibio, ac fe ddywedodd, “Dw i’n credu ei fod yn lle peryglus iawn i’w leoli.”
Clôs Langley
Fe wnaeth Rob Ollerton – oedd wedi dweud wrth gynghorwyr fod ganddo fe radd mewn cynllunio trefol a gwledig – gwestiynu pam fod safle Clôs Langley, cae y tu ôl i gartrefi ym Magwyr oedd ymhlith y pum safle cyntaf i gael eu hystyried ym mis Gorffennaf, yn dal dan ystyriaeth er bod y gweddill wedi’u rhoi o’r neilltu.
Dywedodd fod sawl tebygrwydd rhwng y safle hwn a safle Dancing Hill yn Undy, gafodd ei roi o’r neilltu ddiwedd mis Medi.
“Roedd y penderfyniad hwnnw’n anghyson,” meddai.
Fe wnaeth Aisling Warren, sy’n disgrifio’i hun fel un o drigolion Magwyr ac Undy, gwestiynu a oedd safle Clôs Langley, sydd ger yr M4, yn bodloni canllawiau Llywodraeth Cymru ar leoliad safleoedd Sipsiwn a Theithwyr o ganlyniad i sŵn a llygredd aer.
“Mae’r canllaw yn nodi, os yw safle’n cael ei ystyried yn amhriodol ar gyfer tai confensiynol, yna dylai gael ei ystyried yn amhriodol ar gyfer safle i Sipsiwn a Theithwyr hefyd,” meddai wrth y pwyllgor.
Mae’r cae hefyd wedi’i rannu gan berth 130 metr hynafol sydd wedi’i gwarchod gan reoliadau, meddai.
‘Dim dewis’
“Dw i’n teimlo nad oedd gen i fawr o ddewis ond galw’r penderfyniad i mewn, ac rydych chi wedi clywed trigolion yn siarad yn huawdl iawn am eu pryderon ynghylch y broses,” meddai Frances Taylor, Cynghorydd annibynnol Gorllewin Magwyr, wrth y pwyllgor.
Roedd trigolion wedi tynnu sylw at “wendidau”, meddai’r Cynghorydd Frances Taylor, megis honiad gwreiddiol y Cyngor fod Clôs Langley 150m oddi wrth yr M4, gyda thrigolion yn nodi ei fod e 40 metr i ffwrdd yn unig.
Gofynnodd hi, os oedd y Cyngor wedi dilyn “proses gadarn yna pam fod pedwar neu bump o’r safleoedd gwreiddiol wedi’u gwrthod eisoes?”
Roedd trafodaeth ymhlith cynghorwyr hefyd ynghylch cost bosib datblygu’r safleoedd, a phryd y byddai archwiliadau, gan gynnwys halogi posib ar y tir, ei gwblhau.
Dywedodd Nick Keys o wasanaethau landlordiaid y Cyngor y gallai archwiliadau tir gostio £14,000 yr un, ond nad yw’r gwaith wedi dechrau o ganlyniad i’r broses ‘galw i mewn’, ond daeth cadarnhad y bydd archwiliad yn cael ei gynnal pe bai’r ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau.
Penderfyniad
Clywodd y pwyllgor gan Paul Griffiths, sy’n aelod o’r Cabinet, a swyddogion fod safleoedd ffermydd Oak Grove a Bradbury yng Nghrug wedi bod yn destun asesiad gan eu bod nhw yn yr ardal yn Nwyrain Cil-y-coed sy’n cael ei ffafrio ar gyfer tai yn y cynllun datblygu lleol newydd arfaethedig.
Byddai datblygu’r ardal yn gweld isadeiledd, megis goleuadau stryd ac ysgol gynradd o bosib, yn cael eu hychwanegu.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Griffiths mai penderfyniad y Cyngor fis Hydref oedd dechrau’r broses ymgynghori yn unig, fel y byddai pobol yn cael cyfle i ddweud eu dweud, gan gynnwys y safleoedd yn y cynllun datblygu, fydd yn destun ymgynghoriad pellach hefyd cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf.
“Nid cymeradwyo’r un o’r safleoedd hyn oedd y penderfyniad, ond yn hytrach i ddechrau ymgynghoriad cyhoeddus fyddai’n digwydd dros chwe wythnos ac yn cael ei drefnu gan sefydliad annibynnol ac yn rhoi pob cyfle i’r holl drigolion yn y cymunedau hynny roi ymatebion i’r cynigion hyn,” meddai.
Fe wnaeth y pwyllgor, oedd hefyd wedi cynnal rhan o’u trafodaeth mewn sesiwn gyfrinachol o ganlyniad i ystyriaethau personol neu ariannol, gytuno y dylid trosglwyddo’r penderfyniad i’r Cyngor llawn o ganlyniad i benderfyniadau ariannol roedden nhw’n credu y dylai’r Cyngor llawn eu hystyried.