Bydd protest yn cael ei chynnal ym Mangor ddydd Sadwrn (Hydref 28) yn erbyn datblygiad olew ym Môr y Gogledd.

Mae’r brotest gan grŵp Gwrthryfel Difodiant (Extinction Rebellion) y ddinas yn rhan o ddiwrnod o weithredu gan dros gant o sefydliadau dros wledydd Prydain.

Mae maes olew Rosebank eisoes wedi cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ond mae’r ymgyrchwyr yn galw arnyn nhw i newid eu meddyliau.

Y maes olew, gyda chefnogaeth cwmni olew Equinor, fyddai’r mwyaf ym Môr y Gogledd, a byddai’n golygu ei bod hi’n “fwy annhebygol fyth” y gallai’r Deyrnas Unedig gyrraedd eu targedau sero net, yn ôl ymgyrchwyr.

‘Codi ymwybyddiaeth’

Byddai’r effaith amgylcheddol o losgi’r olew a’r nwy o Rosebank, fydd tua 80 milltir i’r gogledd-orllewin o Ynysoedd Shetland, yn rhyddhau mwy o garbon deuocsid bob blwyddyn na’r 28 o wledydd â’r incwm lleiaf yn y byd, yn ôl y World Bank.

“Prif bwrpas y brotest ydy codi ymwybyddiaeth am y maes olew newydd hwn ym Môr y Gogledd, Rosebank, sydd wedi cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth San Steffan er gwaethaf ein targedau carbon,” meddai Helen McGreary o grŵp Gwrthryfel Difodiant Bangor wrth golwg360.

“Bydd yn taflu’r targedau hynny oddi ar eu hechel yn llwyr.

“Dydy’r rhan fwyaf o bobol ddim wir yn ymwybodol ohono, ac mae’r rhai sydd yn gwybod dan yr argraff y bydd yn rhoi diogelwch ynni [i wledydd Prydain] ac y bydd yn gostwng ein biliau.

“Dydy o wir ddim am wneud hynny.

“Y ffordd orau, ac nid ni’n unig sy’n dweud hyn, dyma mae’r gwyddonwyr yn ei ddweud – y ffordd orau i roi diogelwch ynni a lleihau biliau ydy buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy achos dydyn nhw ddim yn beryglus, dydyn nhw ddim yn fudr, dydyn nhw ddim yn creu llygredd y mae’n rhaid i ni ddelio ag o wedyn ac sy’n achosi newid hinsawdd.

“Ond y prif beth ydy codi ymwybyddiaeth am fater nad ydy’r rhan fwyaf o bobol yn ymwybodol ohono.

“Bydden ni’n dweud wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig i dynnu’r caniatâd ar gyfer cais maes olew Rosebank yn ôl, a gwrando ar y wyddoniaeth a buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy yn lle.”

‘Mwy dibynnol ar nwy ac olew’

Mae tua 300 o bobol wedi ymgynnull ar gyfer protestiadau tebyg gan Wrthryfel Difodiant ym Mangor yn y gorffennol, meddai Helen McGreary wrth ystyried faint fydd yno.

Un fydd yn rhan o’r brotest yw Rowan Thompson, garddwr 39 oed o Benmachno.

“Dw i’n ymuno â’r brotest yn erbyn cloddio am olew yn Rosebank oherwydd na fydd yn gwneud dim i ostwng ein biliau ynni, na gwneud ein cyflenwad ynni’n fwy diogel,” meddai wrth golwg360.

“Mewn gwirionedd, mae cynllun fel Rosebank yn cael eu dylunio er mwyn gwneud cwmnïau olew mawr yn gyfoethocach fyth ar ein traul ni.

“Dydy meysydd newydd ond yn gwneud ni’n fwy dibynnol ar olew a nwy drud a budr am hirach, pan ddylen ni fod yn buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy.”

‘Diogelwch ynni’

Mae gweinidogion y Deyrnas unedig yn dweud y bydd Rosebank yn rhoi diogelwch ynni i’r Deyrnas Unedig, ond y bydd yr olew a’r nwy yn cael ei werthu ar brisiau’r farchnad ryngwladol.

Yn ôl y cynllun, mae disgwyl iddo ddechrau cynhyrchu olew yn 2026, a bydd yn cynhyrchu rywfaint o nwy hefyd.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynnu y byddan nhw dal yn medru cyrraedd targedau net sero er gwaethaf effaith llosgi’r nwy a’r olew o Rosebank ar yr amgylchedd.

Bydd y brotest yn dechrau am hanner dydd ger Tŵr Cloc Bangor ddydd Sadwrn, ac mae gwahoddiad i bawb wisgo du a mynd â rhosyn neu arwydd efo nhw.