Bydd tua £500,000 yn cael ei wario er mwyn diogelu hen felin chwarelyddol yn Ffestiniog ar frys.

Caeodd Melin Maenofferen yn 1998, ac mae’r adeilad wedi dirywio’n arw dros y degawdau diwethaf.

Mae difrod amlwg i’r to, a’r bwriad ydy dechrau’r gwaith cyn y gaeaf hwn, gan gynnwys gosod pileri i gynnal trawstiau’r to.

Cam cyntaf y datblygiadau yn Chwarel Maenofferen ydy’r gwaith trwsio brys, meddai Michael Bewick, Rheolwr J W Greaves, sef y cwmni sy’n berchen arni.

Bydd yr ail gam yn edrych ar ei datblygiad hirdymor.

Mae Michael Bewick yn amcangyfrif y byddai’r holl waith i’w hadfer yn llawn yn costio rhwng  £7m ac £8m, ac yn cymryd pump i chwe blynedd.

Unwaith fydd y felin yn fwy diogel, maen nhw’n bwriadu ymgynghori â’r gymuned ynglŷn â’i phwrpas yn y tymor hir, a mynd ati i godi mwy o arian.

‘Teimlo reit hyderus’

Er bod J W Greaves, sy’n berchen ar dir Llechwedd, wedi bod yn trafod y felin ers tua deng mlynedd, daeth hwb i’w trafodaethau gyda dynodiad Safle Treftadaeth y Byd UNESCO i dirwedd llechi’r gogledd, fel yr eglura Michael Bewick.

“Roedden ni’n ymwybodol bod yr adeiladau’n gwaethygu, yn rhannol oherwydd y tywydd ac yn rhannol oherwydd fandaliaeth, yn anffodus,” meddai wrth golwg360.

“Mae’r Safle Treftadaeth y Byd yn golygu ein bod ni’n gallu cael mynediad at gyllid i wneud y gwaith.”

Y difrod gwaethaf i do’r felin

Mae J W Greaves yng “nghamau hwyr” trafodaethau â Cadw i dderbyn £250,000 ar gyfer y cam cyntaf, ac am godi’r £250,000 arall eu hunain yn ystod y chwe mis nesaf.

“Rydyn ni’n teimlo reit hyderus y byddan ni’n gallu gwneud y cam cyntaf o’r gwaith, rydyn ni eisiau cefnogi’r trawstiau cyn y gaeaf, felly’n ystod y ddau neu dri mis nesaf,” meddai Michael Bewick.

“O be’ dw i’n ddeall, daeth [y trawstiau] o Ogledd America, roedd y llechi’n mynd yno ar longau, a’r pren yn dod yn ôl.”

Bydd ail hanner y gwaith diogelu brys yn cael ei wneud yn ystod y gwanwyn, a dylai’r gwaith trwsio fod wedi’i gwblhau cyn pen y flwyddyn nesaf.

‘Digon o dwristiaeth yn yr ardal’

Ni fu fawr o newid i’r felin gafodd ei hadeiladu rhwng 1870 a 1897, yn ystod y ganrif y bu chwarelwyr yn gweithio ynddi, ac mae nifer o’r hen nodweddion a pheiriannau’n dal yno.

Pan fydd yr adeiladau’n fwy diogel, bydd gwahoddiad i’r gymuned ymweld â’r felin i feddwl am ei dyfodol, yn ôl Michael Bewick.

“Rydyn ni yn gwybod y bydd beth bynnag fyddan ni’n ei wneud yn cynnwys dehongliad treftadaeth yno, ryw fath o ganolfan dreftadaeth,” meddai.

Tu mewn melin Maenofferen a hen draciau’r wagenni i’w gweld ar y llawr

Ond maen nhw’n awyddus i greu cyflogaeth yno hefyd, ac yn ystyried canolbwyntio ar sgiliau traddodiadol fel gwaith saer neu waith toi â llechi, yn hytrach na busnesau twristaidd.

“Mae yna farn gyffredinol dw i’n meddwl, fod yna ddigon o dwristiaeth fwy na thebyg yn yr ardal, ac y byddai hi’n dda creu ryw fath arall o swyddi,” meddai Michael Bewick.

“Mae’n brosiect mawr, ond rydyn ni’n ymroddedig iawn i’w wthio ei yn flaen.”

‘Lle digon oer, drafftiog’

Un o’r chwarelwyr olaf i weithio yno oedd Erwyn Jones, a bu tair cenhedlaeth o’i deulu’n ennill eu bara menyn yn y felin cyn hynny.

“Dw i’n sicr efo ryw deimlad rhyfedd o berthyn i Maenofferen, wedi bod gen i erioed,” meddai’r rheolwr yn Chwarel y Penrhyn ym Methesda, wrth golwg360.

“Gen i atgofion bod y lle’n ddigon oer, drafftiog.

“Doedd yna ddim byd modern am y lle, reit gyntefig.

“Roedd y lle fwy neu lai, hyd yn oed yn niwedd y 1990au, dal i gael ei weithio yn yr un ffordd ag oedd y lle wedi cael ei weithio ganrif ynghynt – ac eithrio bod y llifiau a ballu’n drydanol a ddim yn cael eu gweithio gan ddŵr.

“Mae hi’n felin sydd ddim wedi newid dim, bron, dros y ganrif a hanner mae hi wedi bod yno.

“Mae o’n adeilad pwysig yn hanes diwydiant chwarelyddol Cymru, os nad Prydain. Mae hi’r unig felin, dw i’n meddwl, sydd dal ar ôl sy’n dangos yr hen drefn.”

Tad Erwyn, Geraint Wyn Jones, yn gweithio yn y felin tua chanol y ganrif ddiwethaf

‘Adeiladau mor eiconig’

Cafodd y cynlluniau eu dangos yng Nghaffi Antur Stiniog ym Mlaenau Ffestiniog ganol Medi yng nghwmni’r pensaer, J W Greaves a chynrychiolydd o Slate Heritage International, yr elusen sy’n gyfrifol am y felin ac am godi’r arian ar ei chyfer.

Bu ymateb cadarnhaol i’r cynlluniau yn y cyfarfod, yn ôl Elfed Wyn ab Elwyn, Cynghorydd Bowydd a Rhiw ym Mlaenau Ffestiniog.

“Mae yna lawer iawn yn Blaenau yn gwybod bod yr adeiladau yma wedi dirywio dros yr ugain mlynedd ddiwethaf, llawer o bobol wedi bod yn poeni am adeiladau sydd mor eiconig yn Blaenau,” meddai wrth golwg360.

“Un gaeaf arall ac efallai y bydd y lle wedi cael ei chwalu’n lot gwaeth.

“Dw i’n falch iawn o weld y camau cyntaf yma.”


Gwyliwch: