Bydd y “newid mwyaf i safonau tai cymdeithasol ers dros ugain mlynedd” yn digwydd yn sgil cyflwyno Safon Ansawdd Tai newydd i Gymru.
Cafodd y safonau newydd eu cyflwyno gan Weinidog Newid Hinsawdd Cymru heddiw (dydd Mawrth, Hydref 24), a byddan nhw’n disodli’r Safon bresennol sydd mewn grym ers 2002.
Mae’r gofynion newydd yn nodi set newydd o safonau i landlordiaid cymdeithasol eu cyrraedd, gan gynnwys canolbwyntio ar wres fforddiadwy a datgarboneiddio.
Dywed Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, y byddan nhw’n “adlewyrchu’n well y newidiadau yn y ffordd mae pobol yn byw, yn gweithio ac yn teimlo ynghylch eu cartrefi”.
Mae’r Safon newydd hefyd yn ei gwneud hi’n ofynnol i gael gorchuddion llawr addas ym mhob ystafell, ac yn tynhau’r safonau o ran cael gwared ar leithder a llwydni.
Bydd rhaid i landlordiaid sicrhau mynediad at fand eang hefyd, ac mae rheoliadau llymach o ran diogelwch adeiladau.
‘Codi’r bar’
Wrth gyflwyno’r newid, eglura Julie James eu bod nhw’n “gosod targedau uchelgeisiol i wneud gwahaniaeth i ansawdd cyffredinol bywydau pobol”.
“Mae’n codi’r bar ar gyfer tai cymdeithasol ac yn adlewyrchu llais tenantiaid yng Nghymru,” meddai’r gweinidog.
“Bydd y Safon yn mynd i’r afael â datgarboneiddio’r stoc tai cymdeithasol, gan sicrhau bod cartrefi o ansawdd uwch, bod pobol yn gallu fforddio eu gwresogi, a’u bod yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain a thu hwnt.
“Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i arwain y ffordd o ran datgarboneiddio tai a dysgu sut i uwchraddio tai cymdeithasol mewn modd effeithiol ac effeithlon, mewn ffyrdd sy’n lleihau allyriadau carbon a biliau ynni i denantiaid.
“Bydd yr hyn rydym yn ei ddysgu wrth uwchraddio’r 230,000 o gartrefi cymdeithasol yng Nghymru yn llywio’r ffordd rydyn ni, fel cenedl, yn datgarboneddio’r 1.2m o gartrefi sydd o dan berchnogaeth breifat yng Nghymru.
“Mae’r her sy’n gysylltiedig ag ôl-osod y stoc dai bresennol yn enfawr.
“Mae gan bob tŷ hanes gwahanol, felly ein cenhadaeth yw lleihau allyriadau carbon fesul cartref a fesul stryd.”