Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gofyn am ymateb i’w Cynllun Cydraddoldeb drafft er mwyn i bawb gael yr “hawl i deimlo’n ddiogel gan wybod y byddan nhw’n cael eu trin yn deg”.

Mae’n rhaid i bob awdurdod cyhoeddus gyhoeddi set o amcanion a chynllun sy’n disgrifio’r hyn y byddan nhw’n lleihau anghydraddoldeb ac yn mynd i’r afael â rhagfarn a gwahaniaethu.

Er mwyn llunio’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft, cafodd pobol eu holi am eu barn am gydraddoldeb yn ardal dros yr haf.

Daeth yr ymatebion hyn a thystiolaeth o ymgyrchoedd ymgysylltu blaenorol at ei gilydd i greu’r drafft yma sy’n gobeithio “gwneud bywyd yn well ar gyfer y rheiny sydd dan anfantais oherwydd eu nodweddion”.

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar Ragfyr 31.

Amcanion y Cyngor

Yn dilyn gwaith adolygu yn sgil ymgysylltu ac ymchwil i gyflwr presennol cydraddoldeb yng Ngheredigion, mae’r Cyngor Sir wedi penderfynu bod eu hamcanion yn dal yn addas i’r diben, ond fod angen diwygio’r camau y byddan nhw’n eu cymryd i gyflawni’r amcanion.

Amcanion Cydraddoldeb y Cyngor yw:

  • bod yn esiampl ar gyfer cyflogwyr cyfle cyfartal
  • meithrin perthynas dda, a mynd i’r afael â rhagfarn
  • sicrhau ymgysylltu a chyfranogi
  • sicrhau urddas, parch a mynediad at wasanaethau
  • darparu addysg deg a chynhwysol

“Rydym am i bawb yng Ngheredigion deimlo eu bod yn perthyn,” meddai’r Cynghorydd Catrin M S Davies, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid.

“Mae gan bawb sy’n byw, gweithio ac astudio yma yr hawl i deimlo’n ddiogel, gan wybod y byddan nhw’n cael eu trin yn deg ac â pharch.

“Rwy’n credu bod ein Cynllun Cydraddoldeb drafft yn addas i’r diben, ond rwyf am wybod beth mae pobol eraill yn ei feddwl.”

Y cam nesaf

Cafodd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft ei drafod gan Bwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu y Cyngor ym mis Medi, a chafodd ei gymeradwyo gan Gabinet Cyngor Ceredigion ym mis Hydref.

Cytunodd y Cabinet y bydd cynllun drafft yn mynd allan ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus y gaeaf hwn.

Unwaith y bydd wedi’i gymeradwyo, bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar y cynllun drafft yn ystod y gaeaf.

Pan ddaw’r ymgynghoriad cyhoeddus i ben ac y bydd unrhyw newidiadau gofynnol wedi’u gwneud, bydd y cynllun terfynol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu er mwyn cael adborth, cyn ei gyflwyno gerbron Cabinet Cyngor Ceredigion ym mis Chwefror.

Maen nhw’n bwriadu cyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd 2024-28 ar eu gwefan erbyn Ebrill 1.