Mae siom wedi’i fynegi wrth i drigolion yn eu 80au a’u 90au – gan gynnwys nifer oedd wedi gorfod gadael eu cartrefi yn ystod yr Ail Ryfel Byd – wynebu gorfod symud.
Daw hyn ar ôl i gynllunwyr Cyngor Gwynedd dderbyn cynnig o drwch blewyn i ddymchwel 107 o gartrefi ym Mhentref Pwylaidd Penrhos ger Pwllheli, i wneud lle ar gyfer datblygiad tai newydd.
Mewn pleidlais agos yn ystod cyfarfod ddydd Llun (Hydref 23), cefnogodd saith aelod o’r pwyllgor cynllun argymhelliad i dderbyn y cynllun, gyda phump yn erbyn ac un yn ymatal.
Fe wnaeth y cais llawn alw am ddymchwel 107 o breswylfeydd, tri bloc sy’n cael eu defnyddio ar gyfer unedau llety i ymwelwyr, cartref nyrsio, ardal gysgu’r Sgowtiaid, neuadd a gweithdy, llyfrgell a neuadd, swyddfeydd a garejis.
Byddai’r cynlluniau wedyn yn gweld 107 o unedau preswyl yn cael eu codi, a’r rheiny wedi’u disgrifio fel ‘preswylfeydd 100% fforddiadwy’ fel cartrefi yn eu lle, ynghyd ag addasiadau i fynedfa ar yr heol fewnol a gwaith cysylltiedig a gwaith garddio.
Byddai eglwys, ffreutur a neuadd fwyta’n aros yn eu lle, ynghyd â gardd goffa.
Y cais
Cafodd y cais ei gyflwyno gan Clwyd Alyn ar hen safle’r awyrlu ym Mhenrhos.
Ar ôl y rhyfel, fe fu’n wersyll dadfyddino ar gyfer milwyr Pwylaidd, gyda barics pren yn cael eu disodli gan fflatiau a llety gwarchodedig, ynghyd â chyfleusterau preswyl a gofal nyrsio – er bod cartref nyrsio ar y safle wedi cau yn 2020.
Roedd preswyliaid yn poeni y byddai’r cynlluniau diweddaraf yn gweld colli darpariaeth eu cartrefi a chyfleusterau cymunedol sydd bellach yn cael eu defnyddio gan bobol o Wlad Pwyl ac o Gymru, a phobol o gefndiroedd eraill hefyd.
“Rydyn ni’n siomedig iawn fod y bleidlais wedi mynd yn ein herbyn ni, ond roedd hi’n agos iawn,” meddai’r ymgyrchydd Barbara Owsianka, oedd wedi siarad yn erbyn y cynllun ystod y cyfarfod.
“Mae’n galonogol fod bron i hanner y Cyngor wedi gwrando ar yr hyn oedd gennym i’w ddweud ac heb bleidleisio dros y cynllun hwn.
“Dw i ond yn gobeithio bod Clwyd Alyn yn ystyried hynny, ac y byddan nhw’n gwrando ar y preswyliaid.
“Dw i’n gobeithio y byddan nhw’n gwneud y preswyliaid yn ganolog i’w cynlluniau, yn hytrach na’u datblygiad crand i adeiladu ystad o dai, yn ei hanfod, ar y cam hwn.
“Mae popeth arall i’w weld yn ddymuniad, rywbryd yn y dyfodol.
“Yn y cais hwn, does dim byd sy’n disgrifio disodli’r un o’r gwasanaethau na chyfleusterau cymunedol mae’r bobol oedrannus yn dibynnu arnyn nhw, megis y siop trin gwallt neu’r golchdy.
“Bydd llawer o bobol yn poeni’n arw, dydy nifer ohonyn nhw ddim eisiau bod yn symud yn eu 80au neu eu 90au, mae rhai yn gyfforddus iawn ac yn hapus yn eu byngalos.
“Dydyn ni ddim yn erbyn datblygu, mae ardaloedd lle mae wedi dirywio, ond mae angen i’r datblygwyr siarad mwy efo’r preswyliaid i wybod mwy am y cyfleusterau sydd eu hangen arnyn nhw.
“Dw i wedi clywed nifer o bobol oedrannus yn dweud ‘Maen nhw jest yn aros i ni farw’, mae’n dorcalonnus.”
‘Buddsoddiad sylweddol’
Yn ystod y cyfarfod, dywedodd llefarydd ar ran yr ymgeisydd fod y cynllun yn cynnig “buddsoddiad sylweddol” i ddarparu “cartrefi newydd ynni effeithlon o safon uchel”.
Bydden nhw’n darparu tai hyblyg am oes sy’n addas ar gyfer gwahanol gyfnodau ym mywydau pobol, a bydden nhw’n darparu cartrefi mawr eu hangen ym Mhenrhos a’r ardal ehangach.
Roedd y cynlluniau hefyd yn cynnwys “ymrwymiad cadarn” i drosglwyddo darn o dir i Gyngor Gwynedd i ddatblygu cartref gofal.
Roedd hen Gartref Pwylaidd Penrhos yn darparu llety a chefnogaeth i gyn-filwyr Pwylaidd gwrywaidd a benywaidd wnaeth aros yng ngwledydd Prydain ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Maria Owsianka, mam 90 oed Barbara, ddweud wrth y Daily Post ei bod hi wedi cael ei thaflu allan o’i chartref yn 11 oed, gyda’r hyn roedd hi’n gallu ei gario gyda hi yn unig, tra bod y Natsïaid yn llosgi dinas Warsaw.
“Daethon ni i gyd i Benrhos ar ddiwedd ein hoes, gan ddisgwyl lloches,” meddai.
“Doedden ni ddim yn disgwyl cael ein gorfodi allan o’n cartrefi eto fyth.
“Rydyn ni wedi bod yn dweud hyn ers dwy flynedd, ond dydy Clwyd Alyn heb wrando.”