Mae pryder cynyddol am nifer y bobol sy’n methu ychwanegu arian at eu mesuryddion rhagdalu, yn ôl Cyngor ar Bopeth Cymru.

Mae eu hystadegau diweddaraf yn dangos bod mwy o bobol nag erioed yn methu ychwanegu at eu mesuryddion.

Rhwng dechrau’r flwyddyn a diwedd Medi, roedd yr elusen wedi helpu 3,143 o bobol gyda’u taliadau.

Mae’r swm yn uwch na’r cyfanswm ar gyfer 2022 ar ei hyd, pan wnaeth yr elusen helpu 2,853 o bobol, yn ôl Dangosfwrdd Costau Byw newydd yr elusen.

Yn 2019, roedd y ffigwr mor isel â 138, ac yn 2022 fe wnaethon nhw roi help i fwy o bobol mewn blwyddyn na thros y ddeng mlynedd cyn hynny i gyd efo’i gilydd.

Mae tua 200,000 o aelwydydd dros Gymru’n defnyddio mesuryddion rhagdalu, ac er y gallan nhw helpu pobol i gadw rheolaeth ar eu defnydd o ynni, maen nhw hefyd yn ddrytach.

Os nad ydy rhywun yn gallu fforddio talu mwy, gall arwain at ddatgysylltu cyflenwadau ynni, a dywed Cyngor ar Bopeth Cymru fod eu data mwyaf diweddar yn awgrymu y gallai’r gaeaf hwn fod yn waeth na’r un diwethaf, oni bai bod llywodraethau’n gweithredu.

Erbyn mis Medi, roedd Cyngor ar Bopeth Cymru wedi gweld dros 5,000 o bobol mewn dyledion ynni eleni hefyd – tua 500 yn uwch na’r cyfanswm erbyn mis Medi y llynedd.

Fodd bynnag, mae nifer y bobol maen nhw’n eu helpu gyda dyledion yn gyffredinol wedi lefelu dros y misoedd diwethaf i ryw 3,000 y mis.

‘Helpu mwy a mwy o bobol sy’n byw ar ddim’

Er gwaetha’r gostyngiad yn y cap ar brisiau ynni o fis Hydref i fis Rhagfyr, mae biliau’n parhau i fod yn sylweddol uwch na chyn i’r argyfwng ddechrau.

Ar hyn o bryd, mae rhagolygon yn awgrymu y bydd y cap yn codi eto yn y flwyddyn newydd.

Mae Cyngor ar Bopeth yn awyddus i weld tariff cymdeithasol a gwell effeithlonrwydd ynni, ac maen nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth ychwanegol i’r rhai sy’n wynebu’r caledi mwyaf neu’r costau uchaf.

“Mae’n edrych yn debyg y bydd y gaeaf hwn hyd yn oed yn anoddach i filoedd o bobol yng Nghymru,” meddai Simon Hatch, Cyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Cymru.

“Mae costau ynni yn parhau i fod yn uchel ac o’i gymharu â’r llynedd, mae cymorth sydd ar gael gan y llywodraeth i aelwydydd incwm isel wedi cael ei leihau.

“Mae hyn ochr yn ochr â chostau cynyddol eraill a phwysau chwyddiant.

“Rydym yn helpu mwy a mwy o bobol sy’n byw ar ddim.

“Gyda’r misoedd oerach yn prysur agosáu, bydd nifer y bobol sy’n mynd heb nwy na thrydan neu sy’n syrthio i ddyled ynni yn cynyddu.

“Mae atebion tymor byr fel tariff cymdeithasol ynni yn bwysig ond ni allwn anwybyddu’r argyfwng uniongyrchol yr ydym yn ei wynebu.

“Yr hyn y mae gwir angen i ni ei weld yw cymorth ariannol wedi’i dargedu ar gyfer aelwydydd incwm isel gyda phlant ac aelwydydd incwm isel gyda phobol anabl.”