Mae Uno’r Undeb yn dweud eu bod nhw’n croesawu ymrwymiad y Blaid Lafur i adnewyddu diwydiant dur y Deyrnas Unedig.
Byddan nhw’n cyflwyno cynllun wedi’i gostio at ddibenion caffael cyhoeddus, buddsoddi a sicrhau swyddi yn y sector, gan ddweud eu bod nhw’n croesawu ymrwymiad Syr Keir Starmer, arweinydd y blaid, y byddan nhw’n ceisio rhoi terfyn ar lithriad y diwydiant dur i’r anialwch.
Roedd cynrychiolwyr yr undeb ymhlith y rhai wnaeth gyfarfod â thîm Llafur yng ngweithfeydd Tata ym Mhort Talbot.
Fe fu beirniadaeth chwyrn o becyn cymorth gwerth £500m gan Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig i helpu penaethiaid Tata, gyda rhai yn teimlo bod colli 3,000 o swyddi’n gyfystyr â diffyg gweledigaeth hirdymor ar gyfer y sector wrth roi rhagor o arian ym mhocedi’r penaethiaid.
‘Newyddion i’w groesawu’
Teimla Sharon Graham, ysgrifennydd cyffredinol Uno’r Undeb fod yr ymrwymiad gan Lafur yn newyddion gwych, ac y dylid canmol polisïau dur Llafur er ei bod hi’n cydnabod fod rhagor o waith i’w wneud eto.
“Mae’n newyddion i’w groesawu, ar ôl llawer o sgyrsiau y tu ôl i’r llenni a dechrau ein hymgyrch ar lawr gwlad mewn trefi dur, fod y Blaid Lafur wedi bod yn gwrando ar yr hyn mae Uno’r Undeb wedi bod yn ei ddweud am ddur y Deyrnas Unedig,” meddai.
“Bellach mae bwlch mawr rhwng polisïau dur Llafur a chynllun gwarthus a byr ei olwg y Ceidwadwyr i helpu i ariannu un ffwrnais arc trydan yn gyfnewid am golli 3,000 o swyddi yn Tata.
“Ond er bod safbwynt Llafur yn gam cyntaf i’w groesawu, mae llawer o waith i’w wneud o hyd, ac mae’n hanfodol bod Tata yn cadw eu ffwrneisi chwyth i fynd nes bod rhai newydd yn eu lle.
“Cyn bo hir, byddwn yn cyflwyno cynigion wedi’u costio ar gyfer newid yn ffawd y sector, a byddwn yn pwyso ar bob gwleidydd i roi’r mesurau hynny ar waith.
“Ni fydd Uno’r Undeb yn rhoi’r gorau i ymgyrchu nes bod gennym ni’r buddsoddiad, gwarantau swyddi a rheolau caffael cyhoeddus sy’n adfywio’r diwydiant ac yn gwneud y Deyrnas Unedig yn arweinydd byd ym maes dur gwyrdd.”