Darn creadigol gan ohebydd golwg360…
Mae hi bron yn ddiwedd mis, a’r unig beth sydd gennyf ar ôl i’w fwyta yn y gegin ydy Weetabix a ffa pob. Dwi ar lwgu. Mae fy stumog i’n gwneud synau, ond dwi’n methu stumogi powlen arall o Weetabix na ffa pob ar dost. Dwi wedi blino ar goffi du, oherwydd does gennyf fi ddim llefrith. Dwi’n breuddwydio am gael Chinese. Defnyddiais fy ngheiniog olaf i brynu bwyd ci i Begw.
Dwi’n methu disgwyl tan ddaw’r cyflog nesaf o £1,413 ymhen ychydig ddyddiau. Dwi reit ar waelod fy overdraft ac yn methu tynnu arian allan. Dwi heb gael arian ers cyn penwythnos diwethaf. Roedd fy ffrindiau’n mynd allan i gig ac i’r dafarn, ond doeddwn i methu fforddio mynd. Eisteddais yn y tŷ yn gwylio cyfresi o Pobol y Cwm wedi’u recordio o dan flanced, oherwydd fy mod i’n methu fforddio rhoi’r gwres ymlaen. Roeddwn yn ymylu ar fod yn isel, ac yn gweld eisiau cwmni pobol wrth i’r sgwrs lifo.
Dyma realiti person proffesiynol yn y byd sydd ohoni. Mynd i’r coleg, dechrau gyrfa… a methu fforddio byw oherwydd yr argyfwng costau byw. Ar ôl i’r arian ddod allan am forgais, biliau, bwyd, ychydig o ddillad ac amser da achlysurol iawn, mae’r esgid yn gwasgu. Dwi ddim yn meddwl bod ein rhieni’n cael hi cyn waethed ers talwm. Doedd amodau byw ddim mor ddrwg yn eu cyfnod nhw. Dwi ddim yn cofio fy rhieni’n methu fforddio bwyd.
Dwi’n breuddwydio am ddyfodol gwell. Dyfodol lle dwi’n cael tynnu arian allan o’r banc gyda fy ngherdyn ar ddiwedd mis. Dyfodol lle mae’r ffrij yn llawn bwyd, a cherddoriaeth i’w chlywed gyda fy ffrindiau wrth fynd allan ar y penwythnos.
Hwyrach, dyfodol efo llywodraeth newydd yn San Steffan, gan ei bod hi’n amhosib gadael y wlad i fynd i wledydd eraill yn Ewrop am bennod newydd bellach. Mae’r Deyrnas Unedig ar ei gliniau.