Tra ei fod yn croesawu’r ymrwymiad i sicrhau cyflenwadau tanwydd i drigolion Gaza, mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon wedi mynegi pryder nad oedd sôn am y sefyllfa mewn datganiad rhyngwladol.
Mae Hywel Williams yn croesawu’r awgrym gan Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, fod ei lywodraeth “wrthi” yn anfon tanwydd i Gaza, ond mae’n rhybuddio bod amser yn brin.
Dydy’r cyflenwadau sydd wedi cyrraedd Gaza hyd yn hyn ddim yn cynnwys tanwydd, ac mae’r grŵp dyngarol UNRWA yn rhybuddio ers y penwythnos y bydd y cyflenwadau’n dod i ben o fewn tridiau.
Doedd lorïau oedd yn cludo nwyddau heb gludo’r tanwydd sy’n angenrheidiol i gadw ysbytai ar agor, ambiwlansys i symdu nac i bwmpio dŵr o’r ddaear.
Mae Philippe Lazzarine, Comisiynydd Cyffredinol UNRWA, yn galw am roi’r hawl i nwyddau dyngarol gael eu gollwng ar unwaith, gan ychwanegu y bydd diffyg tanwydd yn “tagu plant, menywod a phobol Gaza”.
‘Y Deyrnas Unedig ar ei phen ei hun?’
Mewn datganiad gafodd ei gyhoeddi ar y cyd gan yr Unol Daleithiau, y Deyrnas Unedig, Canada, Ffrainc, yr Almaen a’r Eidal ddydd Sul (Hydref 22), doedd dim sôn am danwydd.
Cafodd Rishi Sunak ei herio am y mater gan Hywel Williams yn San Steffan.
“Yn eu datganiad ar y cyd, dywedodd y Prif Weinidog, yr Arlywydd [Joe] Biden a’r arweinwyr eraill eu bod nhw ‘wedi ymrwymo i barhau i gydlynu â phartneriaid yn y rhanbarth er mwyn sicrhau mynediad parhaus a diogel at fwyd, dŵr, gofal meddygol a chymorth arall sydd ei angen er mwyn diwallu anghenion dyngarol’,” meddai Aelod Seneddol Arfon.
“Does dim sôn yn benodol am danwydd.
“Fodd bynnag, yn ei ddatganiad heddiw ar dudalen 4, llinell 7, mae’r Prif Weinidog yn sôn am danwydd.
“Ydy sicrhau cyflwyno tanwydd yn nod polisi gan y Deyrnas Unedig yn unig, neu ai dyma safbwynt yr holl arweinwyr ar y cyd?”
Atebodd Rishi Sunak drwy ddweud bod “y Deyrnas Unedig yn gweithio’n galed i sicrhau bod cymorth dyngarol yn cyrraedd y bobol sydd ei angen, ac mae tanwydd yn un o’r pethau rydym yn gweithio arno”.
‘Eglurder ar frys’
“Dw i’n croesawu ymrwymiad y Prif Weinidog i weithio ar gyflwyno tanwydd i Gaza wrth ateb fy nghwestiwn heddiw, ond mae amser yn rhedeg allan,” meddai Hywel Williams.
“Ymhen llai na thridiau, bydd cyflenwad tanwydd Gaza yn cael ei ddiffodd yn llwyr.
“Mae dim tanwydd yn golygu dim dŵr, dim ysbytai, a dim siopau bara.
“Mae dim tanwydd yn golygu na fydd cymorth yn cyrraedd sifiliaid despret.
“Mae dim tanwydd yn golygu rhagor o farwolaethau y gellid eu hosgoi.
“Mae angen eglurder ar frys arnom ynghylch pa gamau pendant sy’n cael eu cymryd rŵan hyn i gyflwyno tanwydd i bobol Gaza.”