Darn creadigol gan ohebydd golwg360…


Roeddwn i’n dreifio i’r ysgol gyda fy mhlant ar ddiwrnod llwyd, glawiog. Mae Carwyn yn saith oed a Myfanwy yn bedair oed. Mae Carwyn yn ofnadwy am wisgo’i ddillad ysgol yn y bore. Fo ydi’r hynaf, a’r gwaethaf am gael ei hun yn barod yn y bore. Bore ’ma, cymerodd hanner awr i’w newid i mewn i’w ddillad. Roeddwn yn gorfod dweud wrtho fo ddeg o weithiau! Roedd Myfanwy yn gwrthod cael brwsio’i gwallt ac yn strancio. Er ein bod ni wedi codi’n fuan, roedden nhw’n dal yn hwyr yn gadael y tŷ.

Rydym yn byw mewn bwthyn bach efo to gwellt wrth ymyl yr afon ar gyrion y pentref gyda’n cath ddu. Fe wnaethon ni yrru i’r pentref yn fy nghar bach coch. Gwibiais fel roced ar hyd y lonydd cefn.

Ar ganol y stryd fawr, dyma gar arall yn dweud wrthyf am dynnu drosodd. A’m calon yn curo’n galed a’m dwylo’n crynu, dyma fi’n tynnu i fyny, a dyma ddyn yn dod allan o’r car. Dyma fi’n agor y ffenest ac yn cael braw wrth i’r dyn ddod yn agosach. Byddwn yn adnabod ei wyneb yn rhywle. Yr un llygaid addfwyn glas, y gwallt coch a’r clustiau mawr. Garmon fy ffrind gorau o’r ysgol gynradd! Dwi heb ei weld ers blynyddoedd maith. Datblygodd y sgwrs yn sgwrs am fy nheulu i a’i deulu fo. Roedd o hefyd wedi priodi, ac mae ganddo ddau o blant.

Wnaeth o ddim fy nghosbi. Mewn brys i gyrraedd yr ysgol, roeddwn wedi anwybyddu’r gyfraith. Am y tro cyntaf erioed, bu bron i mi fod mewn trwbwl efo’r heddlu, ond achubodd heddwas cyfarwydd fi rhag y ffawd anffodus honno. Wrth ddod i mewn i’r pentref, roeddwn wedi cofio’n rhy hwyr am y rheol newydd 20m.y.a.!