Mae perygl i ormodedd o feysydd carafanau “newid natur” rhannau o Sir Benfro, yn ôl cynghorydd lleol.
Mae Alec Cormack, sy’n cynrychioli ward Llanrhath a Gogledd Saundersfoot ar Gyngor Sir Penfro, yn galw ar y Cyngor i ystyried adroddiad sy’n nodi bod chwe ardal yn y sir ar gapasiti llawn.
Yn 2019, roedd y Cyngor yn ystyried eu polisi ar gyfer meysydd carafanau ar gyfer eu hail Gynllun Datblygu Lleol.
Dydy Cynllun Datblygu Lleol 2 heb ddod i rym eto, ond mae adroddiad gafodd ei wneud gan gwmni annibynnol yn nodi bod ardaloedd o amgylch Pleasant Valley, Summerhill, Arberth, Penalun, New Hedges a Broadmoor yn llawn o ran eu capasiti ar gyfer carafanau.
Ar hyn o bryd, dydy’r dystiolaeth ddim yn cael ei hystyried wrth gymeradwyo meysydd carafanau newydd, gan nad ydy Cynllun Datblygu Lleol 2 yn weithredol eto.
Ond yn ôl Alec Cormack, dirprwy arweinydd Grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol ar y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Gyllid Corfforaethol, dylid ystyried y dystiolaeth a’r farn leol nawr.
“Dw i’n dweud bod y dystiolaeth yna’n bodoli, ac mae pawb yn teimlo’i fod o’n rhywbeth y byddan nhw’n ei ystyried mewn amser, ond achos bod y Cynllun Datblygu Lleol newydd ddim mewn grym dyw hi ddim yn golygu y gallwn ni ei anwybyddu – ond dyna sy’n digwydd ar y funud,” meddai wrth golwg360.
“Oherwydd bod yr adroddiad wedi cael ei ysgrifennu ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol 2, does yna ddim angen ei ystyried hyd yn oed, dyna safbwynt y swyddogion cynllunio.”
‘Tystiolaeth yn addas’
Cafodd yr un adroddiad ei greu ar gyfer Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yr un pryd, gan nodi ardaloedd sydd dan eu rheolaeth nhw sydd ar gapasiti llawn.
Mae’r dystiolaeth wedi cael ei defnyddio ar gyfer creu canllaw cynllunio atodol i’r Cynllun Datblygu Lleol nhw.
Mae Alec Cormack yn dadlau y bod y dystiolaeth sy’n nodi bod y chwe ardal dan sylw ar gapasiti llawn yn berthnasol dan ran o’r Cynllun Datblygu Lleol presennol:
‘Bydd y polisi yn gweithredu fel mecanwaith i sicrhau bod pob datblygiad yn addas ar gyfer y safle ei hun a’i leoliad/cyd-destun ehangach. Rhaid i geisiadau barchu capasiti llefydd penodol i ymdopi â’r twf o ran graddfa a chyflymder y datblygiad…’
“Mae’r paragraff yn awgrymu i fi bod y dystiolaeth, er ei bod wedi’i hysgrifennu ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol 2, yn addas ar gyfer y testun yna,” meddai.
‘Newid natur yr ardal’
Yn ôl y Cynghorydd, mae yna “lot o gefnogaeth” yn Llanrhath a Gogledd Saundersfoot, ac mae e wedi lansio deiseb er mwyn annog y Cyngor i ystyried yr adroddiad wrth wneud penderfyniadau ar feysydd carafanau yn y chwe ardal dan sylw.
Ei obaith yw cyrraedd 1,000 o lofnodion, fel bod rhaid i’r Cyngor ystyried a ydyn nhw am barhau i wneud penderfyniadau heb ystyried yr adroddiad nes bod Cynllun Datblygu Lleol 2 yn dod i rym ai peidio.
Mae gan Alec Cormack bryder am effaith gormodedd o feysydd carafanau ar natur yr ardal, a bod perygl iddyn nhw newid y rheswm pam fod pobol yn ymweld ag ardal draddodiadol wledig fel arfordir de Sir Benfro.
“Mae meysydd carafanau yn ffaith bywyd yn ne Sir Benfro yn enwedig,” meddai.
“Dw i’n byw yn Pleasant Valley – drws nesaf i fi mae yna faes carafanau bach, dros y ffordd os dw i’n edrych drwy’r ffenest dw i’n edrych ar garafanau.
“Rydyn ni’n eu derbyn nhw fel busnesau lleol a rhan allweddol o’r economi.
“Y broblem yw, os ydych chi’n cael cymaint a chymaint o feysydd carafanau mewn ardal, mae’n newid holl natur yr ardal.
“Mae yna ddisgwyliad anysgrifenedig ymhlith trigolion, pe baen ni’n dechrau eto, fyddai gennym ni ddim dwyster mor uchel o feysydd carafanau yn yr un o’r chwe ardal hyn.
“Maen nhw yno nawr, ond yn cyd-fynd ag adroddiad arbenigol i’r Cyngor, ddylai fod yna ddim mwy achos mae perygl iddo newid yr holl reswm pam fod pobol yn dod i lefydd fel Pleasant Valley a Summerhill, ac ati.
“Nid ein bod ni yn erbyn meysydd carafanau yw hyn mewn unrhyw ffordd.
“Yr hyn mae’r [adroddiad] yn trio’i ddweud yw, ac eithrio’r chwe ardal hynny, mae gan weddill y sir, i raddau gwahanol, y capasiti [ar gyfer mwy o feysydd carafanau].
“Mae’n rhoi canllawiau ynglŷn â pha ardaloedd sydd â mwy o gapasiti a pha fath o lefydd y dylid eu defnyddio.
“Mae’n dweud, ac eithrio’r chwe ardal, fod gan bob rhan arall o Gyngor Sir Benfro y capasiti, i raddau mwy neu lai, ac mae hynny wedyn yn caniatáu i ni gefnogi’r economi ymwelwyr.
“Ar hyn o bryd, mae e’n mynd lawr at deimladau pobol, ynghyd â’r farn arbenigol fod gennym ni ddigon o feysydd carafanau yn y chwe ardal hyn.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Sir Penfro.