Fe fydd holl drigolion cartref gofal Pwylaidd Penrhos yn Llŷn wedi gadael y safle ym Mhwllheli erbyn diwedd y dydd heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 6) – rai misoedd yn gynt na’r disgwyl.

Ond bydd unedau hunan-ddarpar y safle’n aros ar agor.

“Yn dilyn cyfnod hir o ansicrwydd ariannol, rydym yn difaru ein bod wedi gorfod gwneud y penderfyniad i symud tuag at gyfnod o gau cartref nyrsio Penrhos yn raddol ar ôl archwilio’r holl opsiynau eraill,” meddai Kasia Rafalat, aelod o fwrdd y Gymdeithas Dai Pwylaidd, adeg y cyhoeddiad y byddai’r cartref yn cau y flwyddyn nesaf.

“Fydd y penderfyniad hwn ddim yn effeithio ar y trigolion yn llety lloches.

“Ein nod erioed oedd canolbwyntio ar warchod lles ein trigolion a’n staff a sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu ar gyfer y dyfodol.

“Mae cymorth ariannol gan Gyngor Gwynedd yn golygu na fydd angen i’r cartref nyrsio gau ar unwaith ac y gallai aros ar agor hyd at Fawrth 2021 ac yn y cyfamser, bydd staff yn cydweithio’n agos efo’r trigolion a’u teuluoedd i gytuno ar yr opsiynau mwyaf addas ar gyfer eu dyfodol.”

Ond mae lle i gredu erbyn hyn fod y penderfyniad i gau’r cartref nawr wedi cael ei wneud nawr yn sgil trigolion yn symud oddi yno oherwydd y coronafeirws a bod staff wedi gadael.

Ymgyrchu tros ddyfodol y cartref

Mae Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd, wedi bod yn ymgyrchu i sicrhau dyfodol y cartref.

Dywedodd ym mis Hydref fod “dyletswydd ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i fod yn agored â’r cyhoedd ynghylch dyfodol Cartref y Pwyliaid Penrhos a darpariaeth gwelyau nyrsio ym Mhen Llŷn”.

“Mae ansicrwydd parhaus yn achosi poen meddwl i staff, cleifion a’u teuluoedd.”

Hanes y cartref

Cymdeithas y Polish Housing Society sy’n berchen y cartref a gafodd ei agor yn 1949 i roi llety i gyn-filwyr Pwylaidd oedd yn dal yng ngwledydd Prydain ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Cafodd safle’r Awyrlu ym Mhenrhos ei ddewis gan ei fod wedi bod yn safle lloches i filwyr Pwylaidd, ac roedd y cyfleusterau’n addas i roi llety ar unwaith iddyn nhw.

Cafodd y barics eu disodli gan fflatiau oedd yn addas i bobol oedrannus fel bod ganddyn nhw lety a chyfleusterau gofal preswyl a nyrsio.

Daeth yn bentref i Bwyliaid yn y pen draw, ac roedd yno eglwys, llyfrgell, ystafelloedd cymdeithasu, siop a rhandir.

Mae tuag 20 erw o dir a gardd ar y safle, sy’n cynnig digon o le i bobol gerdded yn yr awyr agored.