Mae Gordon Brown, cyn-brif weinidog Llafur Prydain, yn dweud ei fod yn hyderus na fyddai’r Alban yn pleidleisio dros annibyniaeth mewn ail refferendwm.
Ond mae’n dweud bod Boris Johnson, y prif weinidog Ceidwadol presennol, wedi colli golwg ar ddatganoli ar ôl iddo ddweud ei fod wedi bod yn “drychineb”.
Er ei fod yn ffyddiog y byddai’r Alban eisiau aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig, mae’n dweud y byddai’n “frwydr galed” i gynnal yr undeb.
“Dw i’n credu, pe bai yna refferendwm, y bydden ni’n ennill ac y byddai’r Alban yn aros yn y Deyrnas Unedig,” meddai wrth raglen Sophy Ridge on Sunday.
“Ond mae’n rhaid iddi fod yn frwydr galed oherwydd mae pobol yn rhwystredig, wedi diflasu, nid dim ond yn yr Alban ond yn rhanbarthau Lloegr a Chymru hefyd.”
Refferendwm arall?
Mae’n dweud na ddylid cynnal ail refferendwm annibyniaeth y flwyddyn nesaf o ganlyniad i’r coronafeirws a’i effaith ar yr economi, a chyn bod brechlyn a thonnau pellach o’r feirws yn dod.
Ond mae’n dweud bod Boris Johnson wedi “colli golwg” o’r sefyllfa o ran datganoli ac mai “dyna pam nad yw e’n boblogaidd yn yr Alban”.
“Ond fyddai e ddim yn boblogaidd yng Nghymru lle mae pobol eisiau i ddatganoli lwyddo hefyd,” meddai wedyn.
Dywedodd fod rhaid iddo “wneud rhywbeth i ddangos ei fod yn poeni am yr Alban”, ac mai dyletswydd y prif weinidog yw “uno’r wlad”.
“Allwch chi ddim dibynnu ar rannau gwahanol o’r wlad i ddod ynghyd yn awtomatig, rhaid i chi ddod â phobol ynghyd,” meddai wedyn.
Grym ym mhedair gwlad Prydain
Dywed Gordon Brown fod rhaid rhannu grym yn well rhwng pedair gwlad Prydain a Llywodraeth San Steffan ar ôl datrys sefyllfa’r coronafeirws.
Mae’n dweud y dylid datganoli rhagor o bwerau economaidd, iechyd cyhoeddus a chyflogaeth i’r gwledydd ac i ddinasoedd Lloegr.
“Mae rhywbeth eithaf anghywir am gyfansoddiad Prydain nawr fod gyda ni wladwriaeth aml-genedlaethol – mae gyda ni ranbarthau â chryn dipyn o anghenion, traddodiadau, diwylliannau a dyheadau gwahanol,” meddai.
“Ond dydy’r Llywodraeth hon ddim wedi dod o hyd i ffordd o gydweithredu â nhw, o ymgynghori â nhw, o gydweithio â nhw.
“Mae hyn yn bwysig oherwydd rydyn ni wedi methu o ran profi ac olrhain, hyd y gwelaf fi, roedden ni’n rhy araf wrth brofi, mae yna wrthdaro mawr ynghylch y cyfnodau clo lleol.
“Mae gyda ni fater o bwys enfawr ar y gweill o ran brechu.
“Mae’n wych beth mae’r gwyddonwyr wedi’i wneud ond oni bai fod gyda ni systemau lleol i’w cyflwyno sydd yn cael eu cydlynu wrth hyfforddi pobol a’r cyflenwadau a’r rhesymeg i sicrhau bod cyflenwadau’n cyrraedd, yna fydd y peth brechu yna dim yn gweithio yn y modd y dylai weithio.
“Mae’n dasg enfawr o’n blaenau ac felly mae’n rhaid i’r ffordd Brydeinig o lywodraethu newid os ydyn ni am ddiwallu anghenion a dyheadau pobol ym mhob rhan o’r wlad.”
Ac mae’n rhybuddio ymhellach na ddylai Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, “orffwys ar ei rwyfau” o ran adferiad yr economi.
“Oherwydd ein bod ni wedi cael gweithrediadau achub, mae angen gweithred o adferiad arnom nawr a dw i ddim yn meddwl bod hynny ar y gweill eto gan y Llywodraeth.”