Mae Cyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cydweithio ar brosiect newydd sy’n darparu pentref gofal dros dro i’r rheiny sydd mewn angen.
Bwriad Cynllun Penyberth yw cynnig gofal cymdeithasol i bobol sydd wedi gadael yr ysbyty, ond nad ydyn nhw eto â’r gallu na’r cryfder i ddychwelyd i’w cartrefi eu hunain.
Gyda chymorth cymdeithas dai ClwydAlyn, mae’r cynllun yn defnyddio cartrefi sydd ar gael yn hen bentref Pwylaidd Penrhos ym Mhen Llŷn, a safle’r hen ysgol fomio a gafodd ei llosgi ym 1936.
Bydd y cynllun ar waith drwy gydol y gaeaf, gan ddarparu gwasanaeth i hyd at ddwsin o bobol hŷn neu fregus ar unrhyw adeg benodol.
‘Wynebu sialens enfawr’
Mae Chris Lynes, Cyfarwyddwr Nyrsio Ardal y Gorllewin Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, yn nodi bod “oedi i nifer o’n cleifion wrth adael yr ysbyty, oherwydd prinder gofalwyr cartref yn ein cymunedau”.
Ychwanega’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd ar gyfer Gofal, eu bod nhw “ar hyn o bryd yn wynebu sialens enfawr i sicrhau fod gan bobol sy’n gadael yr ysbyty becyn gofal addas mewn lle”.
Yn ardal Dwyfor, sef lleoliad Cynllun Penyberth, mae nifer o bobol wedi bod yn aros am ofal cartref dros y misoedd diwethaf, gan gynnwys y rhai sy’n aros i adael yr ysbyty.
Mae’r cynllun yn cynnig safle cyfleus ar gyfer preswylwyr yn y rhan hon o’r sir, gyda thîm o staff gofal a gweithwyr proffesiynol yn cynnig help a chefnogaeth yn ôl yr angen.
“Yn ardal Dwyfor, rydym yn falch iawn o weithio gyda’n partneriaid yn y Bwrdd Iechyd ac eraill i gynnig darpariaeth dros dro fel y gall pobol gychwyn ar eu taith adref,” meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig.
“Mae Cynllun Penyberth yn dangos beth gallwn ei gyflawni pan rydym yn meddwl yn greadigol gyda’n gilydd fel partneriaid yn y sector iechyd a gofal.
“Mae’r cynllun yma yn cynnig y cyfle i bobol adennill cryfder a chodi eu hyder fel eu bod yn gallu dychwelyd adref a pharhau i fyw yn annibynnol yn eu cartref.
“Mae staff ymroddedig ar gael ar y safle yn ogystal â mynediad at Feddyg Teulu lleol all gynnig cefnogaeth ychwanegol os oes angen.”
‘Gobeithio mai hwn yw’r cyntaf o lawer o brosiectau’
Dywed Dr Eilir Hughes, Arweinydd Clwstwr Meddygon Teulu ardal Dwyfor, ei bod hi’n “gyfnod heriol” i’r sector iechyd a gofal cymdeithasol.
“Mae’r prosiect yma yn pwysleisio pa mor gysylltiedig yw’r ddwy elfen o ofal a bod yn rhaid i ni weithio fel un er mwyn gwella o’r pandemig,” meddai.
“Rydan ni’n gwybod fod pobl yn gwella yn gynt mewn lleoliad sy’n debycach i amgylchedd gartref yn hytrach na ward ysbyty.
“Rwy’n gobeithio mai hwn yw’r cyntaf o lawer o brosiectau arloesol o’r fath sy’n ceisio unioni’r galw am ofal sydd gennym yn ein cymunedau.”
Bydd y tai yn cael eu darparu gan Gymdeithas ClwydAlyn, a dywed Edward Hughes, eu Cyfarwyddwr Gweithredol Gofal a Chymorth, eu bod nhw’n “hapus iawn” i gydweithio ar y prosiect.
“Fe wnaeth ClwydAlyn gymryd Pentref Pwylaidd Penrhos drosodd yn 2020,” meddai.
“Ers hynny rydym wedi bod yn awyddus i weithio gyda Chyngor Gwynedd a’r Bwrdd Iechyd lleol i allu cynnig cymorth a chefnogaeth i’r rhai sydd ei angen.”