Dydy bron i un ym mhob tri o bobol dros 16 oed a gafodd broblemau â’u hiechyd meddwl am y tro cyntaf yn ystod y pandemig heb siarad â neb am y peth
Mae gwaith ymchwil sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Iau, Chwefror 3) yn seiliedig ar arolwg o 1,000 o unigolion, ac mae’r ystadegau hefyd yn nodi bod un ym mhob tri yn dweud bod eu cylch ffrindiau a theulu wedi lleihau.
Y prif reswm pam na wnaeth 33% ohonyn nhw siarad am eu problemau oedd “oherwydd bod pawb yn ei chael hi’n anodd”, a “dydyn nhw’n ddim gwahanol”.
Cafodd yr arolwg ei gynnal ar ran ymgyrch stigma iechyd meddwl Amser i Newid Cymru, wedi’i gefnogi gan y Co-op, ac mae’n cael ei gyhoeddi i gyd-fynd â Diwrnod Amser i Siarad.
Eleni, mae Diwrnod Amser i Siarad yn rhoi pwyslais ar wrando yn ogystal â siarad, ac mae Amser i Newid Cymru am i bobol annog ei gilydd i fod yn glust i wrando ar unrhyw un sydd angen help.
‘Colli cysylltiad’
Dywed Dione Preece, hyrwyddwr Amser i Newid Cymru o Ben-y-bont ar Ogwr, ei bod hi wedi rhoi’r gorau i gysylltu â phobol wrth i’w hiechyd meddwl ddechrau gwaethygu yn ystod y cyfnod clo.
“Roeddwn i’n fam sengl, ac ar ddechrau’r pandemig, roeddwn i newydd gael fy mab, felly fel llawer o bobl eraill, roedd hi’n anodd iawn ymdopi â bod yn fam am y tro cyntaf a gweithio’n llawn amser,” meddai Dione Preece.
“Fe gafodd yr holl bwysau effaith fawr ar fy iechyd meddwl.
“Roedd colli cysylltiad â ffrindiau agos a theulu yn anodd iawn i mi, oherwydd cyn y pandemig, bydden ni’n aml yn ffonio ein gilydd ac yn cwrdd, ond pan ddaeth cyfyngiadau Covid-19 i rym, gwnaethon ni golli cysylltiad wyneb-yn-wyneb ac o ganlyniad, doedden ni ddim yn cysylltu â’n gilydd ar-lein mwyach chwaith.
“Doeddwn i ddim am estyn allan at neb gan nad oeddwn i am deimlo fy mod yn faich, a hyd yn oed pan wnaeth cyfyngiadau’r pandemig ddechrau llacio, roedd yn rhaid i mi hunanynysu’n amlach a rheoli fy nghylch cymdeithasol yn gaeth gan fy mod i’n gweithio ar y rheng flaen fel Cydgysylltydd Gweithgareddau i blant yn fy ysbyty lleol.
“Roeddwn i hefyd yn poeni am fy mab gan nad oedd e’n dod i gysylltiad â chymaint o aelodau’r teulu ac y bydden i wedi’i hoffi ond roedd e’n gallu gweld ei dad, a’i fam-gu a’i dad-cu ar y ddwy ochr o hyd.
“Roeddwn i’n poeni fwyaf na fyddai e’n gallu bod yng nghwmni plant eraill ac na fyddai e’n gallu gwneud ffrindiau yn ystod y cyfnod ansicr yma.
“Pan wnaeth fy iechyd meddwl ddechrau gwaethygu, doeddwn i ddim am gysylltu â neb, i’r fath raddau yr oedd meddwl am ysgrifennu neges destun yn fy llethu’n feddyliol, ac wrth i amser fynd heibio, roeddwn i’n treulio llawer mwy o amser gyda phlant. Roeddwn i’n fwy cyfforddus yn yr amgylchedd yna nag yng nghwmni oedolion.”
Siarad yn “brofiad cadarnhaol”
Mae ymchwil blaenorol wedi dangos bod gan y gymuned ran i’w chwarae o ran lles meddyliol.
Dywedodd 28% o bobol wnaeth ymateb i arolwg Gyda’n Gilydd drwy Adegau Anodd y byddai cael llefydd yn y gymuned lle na fydden nhw’n cael eu barnu ac yn gallu siarad a gwrando ar eraill, yn cefnogi eu lles.
Mae Dione Preece a’i thad yn rhedeg campfa, ac yn defnyddio’r lle i annog y gymuned i siarad yn fwy agored am iechyd meddwl.
Dywed June Jones, Rheolwr Rhaglen Interim Amser i Newid Cymru, fod stigma yn broblem o hyd, a bod rhai pobol yn teimlo’n anghyfforddus yn sôn am eu problemau wrth eraill.
“Serch hynny, mae llawer o bobol yn dweud bod siarad am eu hiechyd meddwl yn brofiad cadarnhaol sy’n eu helpu gan eu bod yn teimlo mwy o gefnogaeth ac yn llai unig,” meddai.
“Dyna pam ein bod ni’n annog pawb i ddefnyddio Diwrnod Amser i Siarad fel cyfle i ddymchwel rhwystrau a chael sgyrsiau go iawn ac ystyrlon am iechyd meddwl.”
O ran y bobol sydd wedi siarad â rhywun, mae gwaith ymchwil yn dangos bod 69% wedi cael o leiaf un sgwrs gadarnhaol.
Roedd 64% o’r rhai atebodd yr arolwg yn dweud ei bod hi’n dod yn haws siarad am iechyd meddwl.