Mae Jens Stoltenberg, Ysgrifennydd Cyffredinol NATO, wedi mynegi pryderon am y gwrthdaro rhwng Rwsia, yr Wcráin a Belarws.
Mae Rwsia wedi anfon mwy o filwyr i Felarws yn ystod y gwrthdaro diweddaraf nag ar unrhyw adeg arall yn ystod y 30 mlynedd diwethaf.
Mae gan Rwsia dros 100,000 o filwyr ger ffiniau gogleddol a dwyreiniol yr Wcráin, sydd wedi achosi pryder y gallen nhw ymosod fel y gwnaethon nhw yn 2014, gan niweidio economi’r wlad, ond mae Rwsia wedi wfftio’r pryderon hynny.
Yn ôl Jens Stoltenberg, mae mwy o filwyr Rwsia wedi symud i mewn i Felarws nag ar unrhyw adeg arall ers y Rhyfel Oer, ac mae’n disgwyl i’r nifer godi i 30,000 gyda thaflegrau hefyd yn cael eu defnyddio.
Mae e’n galw ar Rwsia i dynnu’n ôl, gan ailadrodd rhybuddion y Gorllewin y byddai gan “unrhyw ymddygiad ymosodol pellach gan Rwsia ganlyniadau difrifol a chost uchel”.
Does gan NATO ddim bwriad eto i anfon milwyr i’r Wcráin pe bai Rwsia’n ymosod, ond maen nhw wedi dechrau atgyfnerthu amddiffynfeydd gwledydd cyfagos megis Estonia, Latfia, Lithwania a Gwlad Pwyl.
Maen nhw hefyd yn bwriadu atgyfnerthu amddiffynfeydd ardal y Môr Du ger Bwlgaria a Rwmania.