Mae Prifysgolion Cymru wedi dweud eu bod nhw angen eglurdeb ynghylch yr arian fydd yn disodli cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd ar frys.

Wrth ymateb i Bapur Gwyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer “codi’r gwastad”, dywed grŵp Prifysgolion Cymru ei bod hi’n anodd gweld sut y bydd y cyllid hwnnw’n cael ei ddarparu.

Yn ystod yr adolygiad gwariant ym mis Hydref, fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ailadrodd eu hymrwymiad i ddarparu’r un faint o arian ag yr oedd Cymru’n ei dderbyn drwy gronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd.

Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru yn cyhuddo’r llywodraeth yn San Steffan o fethu â chadw addewid na fyddai pobol Cymru ar eu colled yn sgil Brexit.

Maen nhw hefyd yn cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o danseilio Senedd Cymru drwy wneud penderfyniadau gwario mewn meysydd sydd wedi’u datganoli, fel Trafnidiaeth a’r Amgylchedd.

‘Siomedig’

Dywed Prifysgolion Cymru, grŵp sy’n cynrychioli buddiannau prifysgolion Cymru, fod prifysgolion yn “chwarae rôl hanfodol wrth yrru economi Cymru yn ei blaen a chefnogi cymunedau”.

“Maen nhw’n trawsnewid bywydau, yn creu cyfleoedd, ac yn helpu gyda thwf busnesau newydd,” meddai llefarydd.

“Mae’r Papur Gwyn ar Godi’r Gwastad yn cynnwys lot fawr o fanylion, a bydd hi’n cymryd amser i fynd drwyddo.

“Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni bwysleisio’r brys sydd gan brifysgolion Cymru i gael eglurdeb ar arian fydd yn cymryd lle cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd.

“Yn ystod yr adolygiad gwariant ym mis Hydref, fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ailgadarnhau eu hymrwymiad i dalu’r un faint â’r cronfeydd strwythurol yng Nghymru.

“Mae hi’n anodd gweld, drwy’r Papur Gwyn, sut y bydd y cyllid hwn yn cael ei ddarparu.”

Ychwanega Prifysgolion Cymru eu bod nhw’n awyddus i ddeall y broses gafodd ei defnyddio i adnabod yr ardaloedd peilot ar gyfer cyflymu arloesedd.

Bydd yr arian sydd wedi’i roi dan y gronfa beilot cyflymu arloesoedd yn rhoi cefnogaeth i ymchwiliwyr weithio mewn partneriaeth ag ardaloedd lleol.

“Mae gan brifysgolion Cymru amrywiaeth o gryfderau ymchwilio ac arloesi, maen nhw wedi gwneud gwaith cyfnewid gwybodaeth arloesol drwy gydweithio â sawl prifysgol, ac maen nhw wedi’u lleoli mewn cymunedau mewn ardaloedd sy’n ffynnu’n economaidd ac yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig y Deyrnas Unedig,” meddai’r llefarydd wedyn.

“Mae hi’n siomedig nad yw Cymru wedi cael ei chynnwys yn y rhaglen beilot hon, a byddem ni’n eu hannog i ailystyried hyn.”

Gweinidogion Cymru’n beirniadu cynlluniau “codi’r gwastad” Llywodraeth y Deyrnas Unedig

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae penderfyniadau cyllidol Llywodraeth San Steffan wedi gadael Cymru ar ei cholled

Galw ar Lywodraeth San Steffan i “barchu datganoli” a rhoi £1bn yn ôl i Gymru

Nid “codi’r gwastad” yw hyn, ond “gostwng y gwastad”, meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru