Mae gŵr 19 oed o Gaerdydd wedi cael ei gyhuddo o droseddau brawychol.
Cafodd Luca Benincasa ei arestio ddydd Mawrth (Chwefror 1).
Mae wedi’i gyhuddo o fod yn aelod o grŵp brawychol, ac mae’n wynebu pedwar cyhuddiad pellach o gasglu gwybodaeth ar ran person sy’n paratoi neu’n cyflawni gweithred frawychol.
Mae disgwyl iddo fynd gerbron Llys Ynadon Westminster yn Llundain heddiw (dydd Iau, Chwefror 3).
“Doedd dim perygl i’r cyhoedd ar unrhyw adeg,” meddai’r Ditectif Uwch Arolygydd Mark Pope o Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru.
“Rydym yn gweithio fel rhan o bartneriaeth agos gyda’r cyhoedd i sicrhau y gallwn ni ymyrryd mor fuan â phosib i atal y rheiny sy’n agored i gael eu radicaleiddio.”