Roedd datganiad annibyniaeth Catalwnia’n “ddilys” ond yn annigonol, yn ôl cyn-Lefarydd y senedd.

Yn ôl Carme Forcadell, doedd y datganiad byth yn “mynd i wneud y weriniaeth yn effeithiol”.

Ond mae hi’n dweud y dylid adnewyddu’r datganiad fel “sail i wneud un arall y gellid ei weithredu”.

Daw ei sylwadau mewn cyfweliad ag Asiantaeth Newyddion Catalwnia (ACN) chwe blynedd union ers y datganiad hwnnw.

Yn ôl y gwleidydd sy’n cynrychioli plaid Esquerra, sydd o blaid annibyniaeth, rhaid “mynd un cam ymhellach” y tro nesaf a cheisio “cydnabyddiaeth ryngwladol”.

Wrth i bleidiau Esquerra a Junts per Catalunya gynnal trafodaethau â’r Sosialwyr yn Sbaen tros ailethol y Prif Weinidog Pedro Sánchez, dywed Carme Forcadell na fyddai hi’n deall pam fydden nhw’n ei gefnogi heb sicrhau “ymrwymiad” gan Sbaen tros ragor o drafodaethau ynghylch annibyniaeth.

Refferendwm “anghyfansoddiadol” 2017

Pleidleisiodd y senedd o blaid annibyniaeth i Gatalwnia yn 2017, ond ar ôl i Carles Puigdemont, yr arlywydd ar y pryd, ddirwyn y bleidlais i ben, cafodd ei gabinet eu diswyddo gan Sbaen wrth iddyn nhw gymryd rheolaeth o’r sefyllfa.

Dywed Carme Forcadell ei bod hi’n “parchu” y bleidlais gafodd ei chynnal a’i bod hi’n ddilys, gan ei bod hi wedi’i chymeradwyo gan fwyafrif seneddol gafodd eu hethol yn ddemocrataidd gan drigolion Catalwnia.

Ond doedd dim modd gweithredu ar sail y datganiad a dydy e ddim yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol chwaith.

Dywed, felly, y dylai datganiad newydd geisio’r gydnabyddiaeth honno fel ei bod “mor ddilys â’r llall”.

Mae’r ANC yn mynnu hyd heddiw fod y bleidlais yn un ddilys, ac mai “dim ond ei chymhwyso a’i gwneud yn effeithiol” sydd rhaid.

Tanbrisio grym Sbaen, ond ymgyrchwyr ddim am roi’r gorau iddi

Cafodd Carme Forcadell ei charcharu am ei rhan yn yr ymgyrch tros annibyniaeth, ac mae hi’n dweud bod y mudiad wedi tanbrisio grym Sbaen a’r Undeb Ewropeaidd.

“Doedden ni ddim yn meddwl y byddai gennym ni 155 [Erthygl 155 y Cyfansoddiad i Sbaen gipio grym] y diwrnod wedyn, a doedden ni ddim yn meddwl y byddai’r wladwriaeth yn defnyddio trais,” meddai.

Ond mae hi’n dweud mai undod yr ymgyrch sy’n sefyll allan iddi.

Daw hyn wrth i Carles Puigdemont ddweud nad yw ymgyrchwyr tros annibyniaeth am roi’r gorau i’r frwydr.

“Rydyn ni’n dal yn fyw yn barod ar gyfer yr adeg pan fydd y mudiad annibyniaeth cyfan yn gwybod sut i ddod ynghyd mewn un strategaeth, gan oresgyn temtasiwn ragfarnllyd,” meddai.

“Dydyn ni ddim wedi rhoi’r gorau iddi, a wnawn ni ddim rhoi’r gorau iddi, waeth pa mor anodd yw hi, waeth pa mor galed fydd rhai yn ceisio’i waredu.”

Bu Carles Puigdemont yn byw’n alltud yng Ngwlad Belg ers 2017, ond fe allai ddychwelyd pe bai modd sicrhau amnest i’r ymgyrchwyr.