Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Yr actor Sophie Mensah sy’n rhannu ei hatgofion bwyd yr wythnos hon. Mae hi’n chwarae Maya Cooper yn Pobol y Cwm ac yn dysgu Cymraeg ochr yn ochr â’i chymeriad yn y gyfres sebon. Mae hi’n dod o Lerpwl yn wreiddiol a bellach yn byw yng Nghaerdydd…

Fy atgof cyntaf o fwyd ydy’r hyn fyddai fy mam yn ei alw’n “chuckie eggsef ŵy wedi’i ferwi a’i stwnsio gyda menyn.

Sophie Mensah gyda’i rhieni

Gan fod fy nhad yn arfer bod yn gogydd a mam yn dod o dras Tsieineaidd roedden ni bob amser yn cael bwyd oedd yn wahanol i fy ffrindiau yn yr ysgol. Roedden ni’n cael bwyd sbeislyd ac yn defnyddio lot o arlleg. Mae fy nhad wrth ei fodd yn coginio gydag ocra. Maen nhw’n gallu cofio adeg pan oedd y bwyd roedden nhw’n ei garu ddim ar gael yn yr archfarchnadoedd lleol. Dw i’n teimlo’n lwcus iawn mai dyma oedd fy mhrofiad wrth dyfu i fyny gan ei fod wedi fy ngwneud yn fwy arbrofol yn y gegin. Dw i wrth fy modd gyda bwyd fusion.

Sophie gyda’i mam a’r tarten Cherry Bakewell

Cawl porc a bresych neu egg drop soup fy mam yw’r bwyd sy’n rhoi’r mwyaf o gysur i fi. Mae hi hefyd yn gwneud tarten Cherry Bakewell anhygoel. Ond dw i hefyd yn hoff iawn o pizza da – dw i’n sensitif i glwten felly pan dw i’n gallu ffeindio pizza da dw i mor hapus. Mae Franco Manca [yng Nghaerdydd, sy’n gwneud pizzas surdoes] yn ffefryn.

Corgimychiaid – un o hoff fwydydd Sophie

Fy mhryd bwyd delfrydol fyddai Prawn Argentini [corgimychiaid gwyllt o’r Ariannin wedi’u grilio a’u gweini gyda thatws newydd, garlleg, saws harissa a tsili] a glasiad o Champagne ym mwyty The Italian Club yn Lerpwl.

Chowder fel cwrs cyntaf ar ddydd Nadolig

Yn yr haf, does dim byd yn well na chawl pysgod bendigedig ond os dach chi’n rhoi hufen ynddo, yna mae’n troi yn chowder ac mae’n gwrs cyntaf blasus ar ddydd Nadolig. Roedd Dad wedi dysgu fi sut i wneud pate pysgod a fydda’i byth yn ei anghofio.

Mae Sophie wrth ei bodd yn gwneud cinio dydd Sul traddodiadol i deulu a ffrindiau

Dw i wrth fy modd yn gwneud cinio dydd Sul traddodiadol os oes pobl yn dod draw i gael bwyd. Mae cawl brocoli a Stilton bob amser yn plesio ac yn gwrs cyntaf gwych, mae’n hawdd iawn i’w wneud a does dim rhaid i chi dreulio gormod o amser yn y gegin.

‘Ham Du’ ei thad

Bob Nadolig mae fy nhad yn gwneud ham. Mae’n dechrau drwy ei ferwi gyda star anis, nionod, moron a seleri. Wedyn mae’n gorchuddio’r ham efo mêl a’i rostio nes bod y siwgr yn troi’n ddu ar y tu allan. ‘Ham Du’ dan ni’n ei alw.