Dywed Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys, fod y bil ar gyfer plismona protestiadau’n ymwneud â cheiswyr lloches yng Ngwesty Parc y Strade yn Llanelli’n dod i gyfanswm o ryw £300,000.

Dywed y bydd yn ceisio derbyn yr arian yn ôl gan Swyddfa Gartre’r Deyrnas Unedig, oedd yn dymuno cartrefu hyd at 240 o geiswyr lloches yn y gwesty.

Dywed fod y swm o £300,000 yn cynnwys costau ychwanegol megis goramser, ond nad yw’n cynnwys effaith ganlyniadol ailddosbarthu swyddogion o rolau mewn llefydd eraill.

Mae’n disgwyl mai £300,000 fyddai costau pellach effaith hyn.

Plismyn o Bowys a Cheredigion

Wrth siarad yng nghyfarfod panel heddlu a throsedd Dyfed-Powys, rhoddodd Dafydd Llywelyn enghraifft sarjant sydd wedi’i leoli yn y Drenewydd ym Mhowys, a swyddog diogelu ag Arolygwyr yr Heddlu yn Aberaeron yng Ngheredigion oedd wedi bod yn plismona Gwesty Parc y Strade nifer o filltiroedd i ffwrdd, gan fod ganddyn nhw hyfforddiant yn y drefn gyhoeddus.

Dywedodd fod ymddygiad rhai o’r protestwyr oedd yn gwrthwynebu cynlluniau’r Swyddfa Gartref yn “grotesg iawn”.

Dywed fod rhai plismyn wedi’u rhegi, wedi cael pobol yn poeri atyn nhw, ac wedi cael eu canlyn adref.

“Roedd yn amser eithaf cas, a bod yn onest,” meddai.

Cafodd nifer o bobol eu harestio dros gyfnod o rai wythnosau, gan gynnwys yr adeg pan dorrodd dwsinau o brotestwyr i mewn i dir y gwesty ar Hydref 1.

Dywed fod y ffordd yr aeth y sefyllfa rhagddi yn Llanelli, o ran plismona, yn debyg i’r adeg pan gafodd ceiswyr lloches eu clustnodi ar gyfer gwersyll milwrol ym Mhenalun yn Sir Benfro yn 2020 a 2021.

Y gwahaniaeth oedd fod ceiswyr lloches wedi cael eu cartrefu yn y gwersyll, lle’r oedd y Swyddfa Gartref wedi rhoi’r gorau i’w cynlluniau ar gyfer Gwesty Parc y Strade fis yma, oedd yn golygu bod y lleoliad wedi aros yn wag ers misoedd, i bob pwrpas.

Croesawu’r tro pedol

Dywed Dafydd Llywelyn ei fod yn croesawu tro pedol y Swyddfa Gartref, ac fel y rhan fwyaf o’r cyhoeddiadau am y gwesty, roedd yn “dipyn o sioc” pan ddaeth e.

Dywed y Comisiynydd o Blaid Cymru ei fod e wedi ysgrifennu at y Swyddfa Gartref sawl gwaith gan fynegi ei bryderon fod y gwesty’n anaddas ar gyfer nifer fawr o geiswyr lloches, a bod y dull wedi “sathru” ar y “model gwasgaru” hirsefydlog, yn ei farn e, lle’r oedd pobol oedd yn ffoi o’r gwrthdaro yn Syria ac Affganistan wedi cael eu cartrefu mewn gwahanol leoliadau mewn niferoedd llai.

Dywedodd ei fod yn deall fod gan y Swyddfa Gartref broblem o ran cost cartrefu ceiswyr lloches ac ôl-groniad o benderfyniadau lloches i weithio drwyddyn nhw, ond yn ei farn e, “y gwall sylfaenol yw’r ffordd maen nhw’n mynd o’i chwmpas hi”.

Dywed ei fod yn deall y bydd e’n codi’r costau plismona ychwanegol mewn cyfarfod â Suella Braverman, yr Ysgrifennydd Cartref, ar Dachwedd 8.

Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Grimes, sy’n aelod o’r panel, ei fod e ac eraill wedi cael gwybod fod costau sylweddol adnoddau’r heddlu yng Ngwesty Parc y Strade’n egluro pam mai dim ond dau swyddog cymunedol cynorthwyol oedd yn bresennol pan ddigwyddodd ffrwgwd mewn ffair stryd fawr ym Mhenfro y mis yma.

“Yn ffodus, chafodd neb eu hanafu’n ddifrifol,” meddai.

Dywed fod trefnwyr y Ffair Nadoligaidd dridiau wedi cael cyngor, yn dilyn ymholiad, y gellid darparu plismona ychwanegol, ond ar gost o £74.49 y pen yr awr ar gyfer pob swyddog.

“Fe wnaethon ni weithio allan fod hynny’n £4,500 – a chawson ni dipyn o sioc,” meddai.

Dywedodd Dafydd Llywelyn y gellid fod wedi cyfeirio adnoddau eraill yr heddlu i’r digwyddiad pe bai’n fwy difrifol, ond dywedodd y byddai’n codi hynny â’r swyddog perthnasol ym Mhenfro pe bai’r Cynghorydd Jonathan Grimes yn rhoi rhagor o fanylion iddo fe.

Ychwanegodd fod y costau plismona ychwanegol yn gysylltiedig â chyfradd genedlaethol sy’n cael ei defnyddio gan luoedd i blismona gemau pêl-droed.