Mae Lee Waters, Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth Cymru, wedi cael ei feirniadu am ei sylwadau diweddaraf am bolisïau terfynau cyflymder.
Mae Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, yn pryderu bod Lee Waters wedi awgrymu y dylai terfynau cyflymder cefnffyrdd gael eu hadolygu.
Daw ei phryderon yn dilyn sylwadau Lee Waters mewn pwyllgor yn y Senedd.
“Cawsom wybod dro ar ôl tro na fyddai unrhyw derfynau cyflymder eraill yng Nghymru yn newid yn dilyn cynllun 20m.y.a. blanced trychinebus Llafur, ac eto mae’n amlwg fod gan Weinidog Trafnidiaeth y Blaid Lafur syniadau eraill,” meddai Natasha Asghar.
“Mae’n annerbyniol i Lafur awgrymu nawr y bydd terfynau cyflymder ar gefnffyrdd yn cael eu hadolygu.
“Os na fu unrhyw ddamweiniau ar y ffordd, yna mae’r ffordd yn amlwg yn ddiogel, felly ni ddylai fod angen adolygiad.
“Fydd Llafur ddim yn fodlon nes ein bod i gyd yn sownd yn ein cartrefi; bydd eu hagenda gwrth-gar, gwrth-weithwyr a gwrth-dwf yn parhau i gosbi’r Cymry sy’n gweithio’n galed.”
‘Gorfodaeth yn dechrau’
Dywed Lee Waters y bydd y Llywodraeth yn dechrau gorfodi’r terfyn cyflymder 20m.y.a. o fis Rhagfyr yn dilyn “cyfnod gras”.
“Dydyn ni ddim eisiau mynd i mewn â’n traed yn gyntaf a chreu gwrthdaro,” meddai.
“Rydyn ni eisiau i bobol addasu ond rydyn ni’n cyrraedd y cam lle y bydd gorfodaeth yn dechrau.”
Dywed y bydd eithriadau’n cael eu hystyried wrth i’r terfyn newydd gael ei orfodi.
Fodd bynnag, gallai gyrwyr wynebu isafswm dirwy o £100 a thri phwynt ar eu trwydded am oryrru.
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod GanBwyll wedi bod yn parhau i orfodi’r safleoedd 20m.y.a. gwreiddiol.
“Bydd GanBwyll yn dechrau dewis safleoedd newydd (lleoliadau) ar gyfer faniau cyflymder a chamau gorfodi eraill (ffyrdd a oedd yn 30m.y.a. ac sydd bellach yn 20m.y.a.) unwaith y bydd y terfyn cyflymder newydd wedi’i osod ar gyfer tri mis,” meddai.
“Ariennir yr ymgyrch ymgysylltu ymyl ffordd gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cael ei chyflwyno gan GanBwyll, yr heddlu, a’r gwasanaethau tân.”
Bydd tri thîm rhanbarthol yn y dwyrain, y gorllewin a’r gogledd yn darparu’r sesiynau ymgysylltu ymyl ffordd ledled Cymru.
“Bydd GanBwyll ac awdurdodau lleol yn hysbysu’r timau lle mae’r angen mwyaf am ymgysylltu,” meddai.
“Nid yw’r safleoedd a oedd yn cael eu gorfodi ar 30m.y.a. cyn y newid wedi cael eu cario drosodd yn awtomatig fel safleoedd gorfodi am 20m.y.a.
“Bydd safleoedd yn cael eu hasesu ar sail risg/niwed.”