Mae plismon blaenllaw wedi rhybuddio cynghorwyr ei fod yn amau bod nifer “frawychus” o bedoffiliaid yn cael eu cartrefu yng nghymunedau siroedd Conwy a Dinbych.
Roedd y Prif Arolygydd Jeff Moses yn rhoi cyflwyniad ar waith Heddlu’r Gogledd ym mhwyllgor craffu economi a lle yn Bodlondeb.
Roedd yn derbyn cwestiynau gan gynghorwyr ar dorcyfraith pan ddywedodd Keith Eeles, cynghorydd Abergele a Llanddulas, fod troseddwr rhyw a phedoffil wedi cael cartref gan y gwasanaeth prawf o fewn 50 llathen i barc plant.
Wrth gynrychioli rhieni pryderus, gofynnodd y cynghorydd i’r Prif Arolygydd pam nad oedd cynghorwyr yn rhan o’r broses ymgynghori pan gafodd troseddwyr rhyw eu hailgartrefu.
Gofyn am ffigurau
Dywedodd y cynghorydd ei fod e wedi cael ei flocio gan y gwasanaeth prawf wrth ofyn am ffigurau ynghylch nifer y troseddwyr rhyw sydd wedi’u hailgartrefu yng nghymunedau’r gogledd.
“A oes ffigurau rhwng siroedd Conwy a Dinbych ynghylch faint o bedoffilliaid sy’n cael eu gosod yn ein siroedd ni?” gofynnodd y Cynghorydd Keith Eeles.
“Dw i’n gwybod na fyddwn ni fwy na thebyg yn cael gwybod, oherwydd ces i broblem ychydig yn ôl, a ches i fy mlocio i bob pwrpas rhag cael gwybodaeth [gan y gwasanaeth prawf].
“Nid bai Heddlu’r Gogledd yw hyn o reidrwydd, oherwydd ces i gyfarfod eithaf adeiladol efo’r heddlu, ond wnaeth o ddim byd i dawelu ofnau rhieni efo rhywun dan amheuaeth yn y pentref.
“I waethygu’r sefyllfa, mae’n ymddangos bod y person wedi cael cartref o fewn 50 llathen i barc chwarae.
“O’r hyn roedd y sarjant yn ei egluro, cafodd ei ddwylo eu clymu i bob pwrpas am nad oedd yn benderfyniad i Heddlu’r Gogledd ym mle i roi cartref iddo.
“[Penderfyniad] y gwasanaeth prawf oedd hwnnw.
“Ond dw i hefyd yn meddwl, pan gewch chi rywun fel gwasanaethau prawf yn cartrefu pedoffil yn y gymuned, dw i’n credu y dylai fod mewnbwn gan yr aelodau etholedig lleol sy’n adnabod eu cymunedau drwyddi draw.
“Mewn rhai cymunedau, bydd wyneb newydd yn sefyll allan, oherwydd mae pawb yn adnabod pawb, ac mae pobol yn perthyn i’w gilydd.
“Yna rydych chi’n cael wyneb newydd yn dod i mewn.
“Yn y pen draw yn y sefyllfa hon, cafodd y person ei adnabod gan rywun oedd wedi bod yn yr un sefyllfa.”
“Roeddwn i jest yn cael fy mlocio rhag cal cadarnhad neu [eu bod nhw yn] gwadu’r sefyllfa.”
Gwneud penderfyniadau
Gofynnodd y Cynghorydd Keith Eeles wedyn a fyddai aelodau’n gallu bod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau wrth i droseddwyr rhyw gael eu “dympio” mewn cymunedau clos.
Rhoddodd y Prif Arolygydd Jeff Moses ateb cryno cyn i’r Cynghorydd Mike Priestley, cadeirydd y cyfarfod, ddweud ei fod yn anghyfforddus â’r ddadl, gan ofyn i’r sgwrs fynd oddi ar-lein.
Ond atebodd y Prif Arolygydd Jeff Moses drwy ddweud, “Dw i’n credu fy mod i’n ymwybodol o’r achos.
“Mae’n broblem anodd iawn, on’d ydy hi?
“Byddaf yn gofyn y cwestiwn, oherwydd rhaid i ni gael data ar faint o bobol sy’n cael eu cartrefu yn ein cymunedau.
“Dw i’n amau y byddai’r niferoedd yn eithaf brawychus.
“Ac mewn gwirionedd, mae hynny’n ran o’r broblem, on’d ydy hi?
“Lle ydyn ni’n cartrefu pobol?
“Mae’n rywbeth y bydd y gwasanaeth prawf a’u partneriaid yn asesu ac yn rheoli’r risgiau, ac wrth gwrs, unwaith maen nhw’n cael eu cartrefi mae yna broses reoli, ac mae hynny’n golygu bod y tîm heddlu lleol yn ymweld ac ati pan fo angen.
“Os ydw i’n onest, does gen i mo’r ffigurau hynny wrth law, ond gallaf ofyn y cwestiwn.
“Hoffwn gael y cyfle i ddod yn ôl i’r cynghorydd os gallaf fi.
“Yn nhermau’r cwestiwn mawr am newid y broses, o ran a allwn ni gynnwys aelodau etholedig yn y broses honno o wneud penderfyniadau, dw i’n amau mai trafodaeth gyda’r gwasanaeth prawf fyddai hynny o ran a oes yna ryw fath o gynsail yno.”